Datganiadau i'r Wasg

Darganfyddiad daearegol newydd yn arwain y ffordd i ddysgu mwy am gludo cerrig Côr y Cewri

Mae papur newydd a gyhoeddwyd yn Archaeology in Wales gan Dr Rob Ixer o Brifysgol Caerl?r a Dr Richard Bevins o Amgueddfa Cymru yn cadarnhau, am y tro cyntaf, union darddiad rhai o naddion rhyolit Côr y Cewri. Gall y gwaith hwn arwain at atebion diddorol i gwestiwn pwysig: sut y cludwyd cerrig o Sir Benfro i Gôr y Cewri?

Dros gyfnod o naw mis, mae Bevins ac Ixer wedi bod yn gweithio’n ofalus i gasglu ac adnabod samplau o frigiadau cerrig yn Sir Benfro er mwyn ceisio canfod tarddiad y cerrig sydd i’w gweld yn un o safleoedd archaeolegol mwyaf eiconig y byd.
Mae eu darganfyddiad diweddar yn cadarnhau y daw’r naddion rhyolit yn wreiddiol o fan penodol 70m o hyd o’r enw Craig Rhos-y-felin ger Pont Saeson. Gan ddefnyddio technegau petrograffig, mae Ixer a Bevins wedi canfod bod 99% o’r rhyolitau hyn yr un fath yn union â cherrig y gr?p penodol hwn o frigiadau. Mae cerrig rhyolitig Rhos-y-felin yn unigryw ymhlith holl gerrig eraill de Cymru sy’n golygu bod bron i bob un o gerrig Côr y Cewri yn tarddu o’r un ardal sydd rai cannoedd o fetrau sgwâr o faint.   
Ac eto, nid dyna ddiwedd yr hanes. O ddilyn trywydd creigiau Rhos-y-felin, mae’r rhyolitau’n wahanol i’w gilydd – ar raddfa o fetrau neu ddegau o fetrau. Mae hyn wedi galluogi i Bevins ac Ixer baru rhai o samplau naddion Côr y Cewri â lleoliad mwy penodol fyth ym mhen eithaf gogledd ddwyrain yr ardal.
Golyga hyn fod yr ardal yn ddigon bach i archaeolegwyr gloddio a cheisio darganfod tystiolaeth o weithgarwch dynol er mwyn ychwanegu at yr hanes ynghylch sut y bu i’r cerrig gael eu cludo o Sir Benfro i Gôr y Cewri.
Meddai Dr Richard Bevins o Amgueddfa Cymru:
“Dros y blynyddoedd, mae llawer wedi codi’r cwestiwn: sut y cludwyd y cerrig o Sir Benfro i Gôr y Cewri? Ai pobl fu’n eu cludo? Ynteu iâ a’u symudodd? Diolch i waith ymchwil daearegol, bellach rydym yn gwybod o ble y daw’r cerrig rhyolit a gallwn ddefnyddio’r lleoliad yn sail i’n gwaith. Dyma gyfle i archaeolegwyr ateb cwestiwn a drafodwyd droeon dros y blynyddoedd. Mae’n bwysig i’r gwaith ymchwil barhau.”
Yn ogystal, mae’r gwaith a gynhaliwyd yn Rhos-y-felin yn cadarnhau nad yw’r pedwar carreg rhyolit ac orthostat dasit uwch y ddaear sy’n weddill yng Nghôr y Cewri yn tarddu o Ros-y-felin ac mae gwaith ar y gweill i weld a ellid canfod eu tarddiad nhw.
Ychwanegodd Dr Rob Ixer o Brifysgol Caerl?r:
“Mae gallu profi tarddiad unrhyw garreg o arwyddocâd archaeolegol i’r fath fanylder yn hynod, ond mae gallu gwneud hynny ar gyfer Côr y Cewri wedi bod yn annisgwyl ac yn gyffrous. Fodd bynnag, o ddal ati gyda’r gwaith, rydym ni’n benderfynol o ganfod tarddle’r rhan fwyaf o gerrig Côr y Cewri, os nad y cyfan, er mwyn i archaeolegwyr allu parhau â’u dyfaliadau.”