Datganiadau i'r Wasg

Brigwrn Capel Garmon bellach yn drysor parhaol yn yr Amgueddfa

Amgueddfa Cymru’n diogelu un o weithiau hynafol pwysicaf Cymru

 

Mae brigwrn cain o’r Oes Haearn ar ffurf bwystfil chwedlonol deugribog sydd bron yn 2,000 o flynyddoedd oed wedi cael cartref parhaol yng nghasgliadau archaeolegol cenedlaethol Cymru.

I gydnabod safle’r Brigwrn fel un o’r gwrthrychau haearn cynhanesyddol gorau i oroesi yn Ewrop, mae Gweinidogion Cymru wedi ei dderbyn yn lle treth etifeddiant gan y perchnogion blaenorol. Roedd y Brigwrn ar fenthyg i’r Amgueddfa, ond bellach gall Amgueddfa Cymru roi cartref parhaol i’r trysor er budd pobl heddiw a chenedlaethau’r dyfodol – ac mae’n ychwanegiad sylweddol at gasgliadau’r genedl o Gelf Geltaidd Gynnar.

Mae’r brigwrn – sy’n rhannol yn fuwch ac yn rhannol yn geffyl – yn ofwaith cynnar heb ei ail. Yn wreiddiol yn un o bâr, mi fyddai wedi sefyll wrth y lle tân ynghanol t

? crwn pennaeth yn ystod yr Oes Haearn. Yng ngolau’r fflamau yn ystod gwleddoedd, cyfarfodydd gwleidyddol a sesiynau adrodd straeon, byddai’n symbol adleisiol o awdurdod.

 

Canfuwyd y brigwrn ym mis Mai 1852 gan weithiwr fferm a oedd yn torri ffos drwy fawnog ger Llanrwst, Conwy. Fe’i gladdwyd yn ofalus iawn ar ei ochr, gyda charreg fawr wedi’i gosod yn ofalus ar bob pen – ar derfyn ei oes o bosib, neu ar derfyn oes ei berchennog.

Fel rhan o’r gwaith cadwraeth, tynnwyd lluniau pelydr-X o’r gwreiddiol a cheisiwyd creu atgynhyrchiad o’r darn. At ei gilydd maent yn dangos dawn a chrefft eithriadol y gof gwreiddiol. Mae’n cynnwys 85 elfen a siapiwyd yn unigol ac yn wreiddiol roedd yn pwyso tua 38kg. Byddai gofyn treulio amser hir iawn yn creu gwaith mor gywrain – efallai cyn hired â thair blynedd – sy’n dangos bod haearn yn ddeunydd gwerthfawr bryd hynny.

Mae'r Cynllun Derbyn yn Gyfnewid yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gwaith celf ac eitemau sydd o bwys i'n treftadaeth, fel Brigwrn Capel Garmon, i berchnogaeth gyhoeddus, yn lle talu treth etifeddiaeth neu gyfran o'r dreth honno. Yng Nghymru, rhaid i’r Gweinidog?Tai, Adfywio a?Threftadaeth gymeradwyo’r eitemau hyn, ar sail cyngor gan Banel Derbyn yn Gyfnewid y DU. Mae’r panel yn cynnwys arbenigwyr annibynnol sy’n casglu cyngor arbenigol am yr eitem a gynigir. Mae’r panel yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru ac yn cydweithio â CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru ble bo hynny’n briodol.

Meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:

"Mae Brigwrn Capel Garmon yn enghraifft wych o gelf Geltaidd gynnar ac rwy’n falch bod y gwrthrych bellach yn rhan barhaol o’r casgliad cenedlaethol er mwyn i’r cyhoedd allu gweld a gwerthfawrogi crefftwaith y gwrthrych diddorol hwn."

Y brigwrn yw un o wrthrychau mwyaf poblogaidd oriel Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn esbonio rhagor am ei bwysigrwydd:

"Mae’n anrhydedd i Amgueddfa Cymru gael gofalu am Frigwrn Capel Garmon ar ran pobl Cymru. Mae’r cynllun Derbyn yn Gyfnewid, a gymeradwywyd gan ein Gweinidog, yn ffordd bwysig o sicrhau y caiff sefydliad fel yr Amgueddfa gaffael gwrthrychau pwysig a gofalu amdanynt.

"Caiff y Brigwrn ei rannu â’r miloedd sy’n ymweld â’r Amgueddfa bob blwyddyn ac mae’n chwarae rhan allweddol wrth adrodd hanes Cymru."

Yn y dyfodol, bydd Brigwrn Capel Garmon yn cael ei arddangos yn yr orielau newydd sy’n cael eu cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru fel rhan o broject Creu Hanes. Y gobaith yw uno archaeoleg a hanes er mwyn adrodd rhagor o straeon pobl Cymru mewn ffyrdd arloesol a heriol.

Hefyd ar gael mae cyhoeddiad newydd gan Amgueddfa Cymru, Darganfod y Gymru Gynnar, sy’n rhoi cyflwyniad i saith deg o wrthrychau archaeolegol eiconig o’r casgliadau cenedlaethol, gan gynnwys Brigwrn Capel Garmon.