Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cofio 100 mlynedd ers alldaith Scott

Mae'r gyfres Frozen Planet wedi ein cludo i fyd sy’n tanio’r dychymyg ers wythnosau bellach – anialwch oer y pegynau. Ganrif yn union yn ôl, roedd Scott a’i dîm yn llusgo eu slediau ar hyd llen iâ’r Antarctig tuag at Begwn y Gogledd, ddeunaw mis wedi hwylio o Gaerdydd. Wedi cyrraedd, dyma ddod i ddeall bod tîm o Norwy wedi cyrraedd fis ynghynt.

Bydd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Ionawr yn coffau criw Scott yn cyrraedd pegwn y gogledd ar 17 Ionawr 1912. Cynhelir arddangosfa Capten Scott: Taith dros Wyddoniaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Sadwrn 14 Ionawr i ddydd Sul 13 Mai 2012 gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Treftadaeth Antarctig y Deyrnas Unedig.

Rydyn ni’n cofio’r alldaith yn bennaf am hanes trasig Scott a’i bedwar cydymaith wrth iddyn nhw ddychwelyd, ond bydd yr arddangosfa hon yn dangos bod tipyn mwy i Alldaith Antarctig Brydeinig 1910-13 Capten Robert Falcon Scott na cheisio cyrraedd Pegwn y De.
Bu gwyddonwyr wrthi’n archwilio’r ffin olaf hon, gan gasglu gwybodaeth am gerrig, tywydd a bywyd gwyllt y cyfandir. Bu daearegwyr yn mesur ac yn mapio tiroedd newydd, biolegwyr yn astudio a chasglu pengwiniaid, wyau a morloi ac yn treillio gwely’r môr. Roedd yno feteorolegwyr hefyd yn cofnodi’r tywydd ac amodau atmosfferig tra bod ffisegwyr yn ymchwilio i sut y cai iâ ei ffurfio a symudiad rhewlifau.
Yn yr arddangosfa hon, bydd cyfle i ymwelwyr weld detholiad o sbesimenau a gasglwyd yn ystod yr alldaith, yn ogystal â rhai delweddau eiconig o fforio yn yr Antarctig drwy gyfrwng lluniau dyfrlliw Edward Wilson (1872-1912) a ffotograffau Herbert Ponting (1870-1935). Un o’r sbesimenau o gasgliad yr Amgueddfa ei hun fydd baner Cymru oedd yn chwifio ar long Scott, y Terra Nova, a blaenddelw’r llong. Ategir y rhain gan sbesimenau wedi’u benthyg o Sefydliad Ymchwil Pegynol Scott, yr Arolwg Antarctig Prydeinig, a’r Amgueddfa Hanes Natur. Mae’r rhain yn cynnwys rhai o’r samplau cerrig a gasglwyd gan Scott ar ei ffordd yn ôl o Begwn y De, ac a ganfuwyd gyda’u cyrff ym mis Tachwedd 2012.
Mae Curadur Daeareg Amgueddfa Cymru Tom Sharpe newydd ddychwelyd o ymweliad â chaban pencadlys alldaith Scott yn yr Antarctig, a dywedodd yntau: “Yn 2010 cynhaliwyd arddangosfa lwyddiannus yma i nodi can mlynedd er i alldaith Scott adael Caerdydd am y de. Yn 2012 rydyn ni’n dychwelyd at yr alldaith, gan gofio’r gwaith a gyflawnwyd a chanolbwyntio ar yr elfen wyddonol. Roedd yr alldaith yn sail i wyddoniaeth Antarctig fodern, ac rydyn ni’n falch o fedru dangos sbesimenau a delweddau hyfryd o’r daith enwog.”
Cynhelir arddangosfa Capten Scott: Taith dros Wyddoniaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Sadwrn 14 Ionawr i ddydd Sul 13 Mai 2012 gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Treftadaeth Antarctig y Deyrnas Unedig.