Datganiadau i'r Wasg

Dyma'r Ddraig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cyn hir, bydd y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn dechrau ac eleni eto, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynorthwyo Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Abertawe i wireddu eu cynlluniau cyffrous ar gyfer y dathlu.

Bydd 2012 yn Flwyddyn y Ddraig am y tro cyntaf ers troad y mileniwm. Yn ôl y sôn, dyma arwydd mwyaf lwcus a dynamig Sidydd y Tsieineaid.

Bydd croeso i ymwelwyr ymuno yn y dathliadau yn ystod diwrnod o gerddoriaeth, gweithdai a digwyddiad arbennig i’r teulu cyfan ar ddydd Sul, 22 Ionawr o 11am-4pm.

Bydd cyfle i bawb sy’n galw draw i weld dawns llew traddodiadol, ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft; fel dysgu sut i ysgrifennu Tsieinëeg; neu wylio arddangosfeydd Kung Fu neu sioeau traddodiadol eraill.

Bydd cyfle i chi arddangos eich sgiliau cicio gwennol fadminton yn yr ardal chwaraeon a bydd arddangosfa wisgoedd yn eich cyflwyno i wisg draddodiadol Tsieina. Byddwn ni hefyd yn cyfri’r eiliadau at y foment fawr am 4pm.

“Rydyn ni wrth ein bodd o gael cynnal dathliadau lliwgar y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yma.” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Bydd yn ddigwyddiad prysur, llawn hwyl, gyda digonedd o bethau i ymwelwyr eu gweld a’u gwneud drwy gydol y dydd. Mae’n gyfle gwych i ni gydnabod, a rhoi llwyfan i ddiwylliant, hanes a thraddodiadau cyfoethog cymunedau Tsieineaidd y ddinas a Chymru.”

Gan siarad ar ran Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Abertawe, dywedodd y Cadeirydd Mrs Wai Fong Lee MBE: “y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yw g?yl Tsieineaidd bwysicaf y Ganolfan ar cydyn ni’n falch o gael gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau unwaith eto i drefnu’r dathliadau. Roedd dathliadau’r llynedd yn llwyddiant mawr, a gobeithiwn am yr un llwyddiant eleni eto. Yn ogystal â hyrwyddo diwylliant Tsieineaidd, mae’r Ganolfan yn gobeithio rhannu ychydig o hwyl y dathliadau â chymunedau eraill a chynorthwyo i adeiladu cymdeithas gytûn.”

Digwyddiadau arbennig

Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn ystod y dydd, gan gynnwys croeso arbennig gan Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe, y Cynghorydd Ioan Richard am 1.30pm a pherfformiadau gan Gymdeithas Tsieineaidd Prifysgol Abertawe a’r Gr?p Menywod Tsieineaidd.

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

Tynnu lluniau: Mae croeso i aelodau o’r wasg a’r cyhoedd i fynychu, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970 am ragor o fanylion.

Mae’r Ganolfan Gymunedol Tsieineaidd wedi’i lleoli ar Ffordd y Brenin yn Abertawe.  Cafodd ei sefydli ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth i’r gymuned Tsieineaidd yn y ddinas ac yn Ne Cymru. Ei nod yn y tymor hir yw gwella cyfleon cyflogaeth a safon byw y gymuned Tsieineaidd tra’n eu hannog i ymgymryd â gweithgareddau a gwasanaethau lleol. Ewch i www.swanseachinese.org.uk am ragor o wybodaeth.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe