Datganiadau i'r Wasg

Cyhoeddi rhestr fer gwobr gelf gyfoes fwyaf y DU

Artistiaid o Cuba, India, Lithiwania, Mecsico, Slofenia, Sweden a’r DU ar restr fer Artes Mundi 5


Boed yn goegwych neu’n gartrefol, gweithred a pherfformiad sy’n cysylltu’r artistiaid ar restr fer Gwobr £40,000 Artes Mundi eleni. O’r platfform a gynigir gan Phil Collins i sêr teledu realaeth gael dadansoddi triniaeth y wasg ohonynt i gynildeb gofalus Teresa Margolles wrth fynd i’r afael â thrais y byd cyffuriau ym Mecsico, mae’r saith artist yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau, gweithrediadau a strategaethau i ymgysylltu â materion cymdeithasol a chynnig eu sylwadau am gymdeithas.

Heddiw (26 Ionawr 2012), cyhoeddwyd rhestr fer pumed gwobr Artes Mundi gan Ben Borthwick, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Artes Mundi. Cynhaliwyd proses ymchwil fanwl gan y ddau ddewiswr – Sofía Hernández Chong Cuy, Curadur Celf Gyfoes Colección Patricia Phelps de Cisneros, Efrog Newydd ac asiant curadurol dOCUMENTA (13), ac Anders Kreuger, Curadur M HKA yn Antwerp, Gwlad Belg. Dewisodd y ddau o blith 750 a mwy o enwebiadau gan gynnwys 576 o artistiaid unigol o dros 90 o wledydd, gan ddewis artistiaid y mae eu gwaith yn archwilio profiad byw ac yn cynnig sylwadau arno.

Dyma’r saith artist sydd ar Restr Fer Artes Mundi 2012 sydd wedi ei noddi gan Bank of America Merrill Lynch fel rhan o’i Rhaglen Celfyddydau a Diwylliant, a chefnogaeth ariannol gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Caerdydd:

Miriam Bäckström (Sweden), Tania Bruguera (Cuba), Phil Collins (Lloegr), Sheela Gowda (India), Teresa Margolles (Mecsico), Darius Mikšys (Lithiwania) ac Apolonija Šušterši? (Slofenia).

Mae rhai o’r artistiaid yn trin cyd-destunau diwylliannol neu hanesyddol penodol tra bod eraill yn ystyried themâu ehangach profiad dynol. Mae’r ystod o wledydd, themâu a chyfryngau artistig a gynrychiolir yn dangos cwmpas Gwobr Artes Mundi, fydd yn amlwg mewn arddangosfa o waith gan artistiaid y rhestr fer yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol newydd Cymru o 6 Hydref 2012 ymlaen. Bydd yr arddangosfa 14-wythnos yn cael cartref yn yr orielau celf newydd sydd bron i 800 metr sgwâr o faint, gan atgyfnerthu’r partneriaeth hir Artes Mundi ag Amgueddfa Cymru.

Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn dyfarnu’r wobr o £40,000 hanner ffordd trwy’r arddangosfa ym mis Tachwedd 2012. Bydd gweddill yr artistiaid ar y rhestr fer yn derbyn gwobr newydd o £4,000 yr un. Drwy bartneriaeth newydd gydag oriel gelf Mostyn yn y Gogledd, bydd un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn cyflwyno sioe unigol yno yn 2013.

Meddai Ben Borthwick, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Artes Mundi a ymunodd â’r tîm o Tate Modern yn 2010:

“Rydym wrth ein bodd ag ansawdd rhagorol y rhestr fer a luniwyd o ddewis cryf iawn o enwebiadau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r artistiaid i Gymru a chreu arddangosfa ym mis Hydref fydd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ymgysylltu â gwaith mwy af cyffrous celf gyfoes ryngwladol.“

Meddai Anders Kreuger, un o’r dewiswyr:

"Mae llunio rhestr fer ar gyfer Artes Mundi wedi bod yn anrhydedd – ac yn gyfrifoldeb difrifol iawn. Enwebwyd bron i 600 o artistiaid eleni ac roedd yn her anferthol i ddewis saith artist o blith casgliad o unigolion hynod fedrus. Rydym wedi dewis saith artist sy’n wahanol iawn ond mor dalentog â’u gilydd, ac sy’n perthyn i genedlaethau gwahanol ac yn hanu o bedwar ban i arddangos eu gwaith yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn ystod yr hydref."

Bank of America Merrill Lynch yw prif noddwr Gwobr ac Arddangosfa Artes Mundi 5 eleni. Mae’r cwmni yn buddsoddi mewn bron 5,000 o sefydliadau celfyddydol ar draws y byd ac yn cefnogi pob math o gelf gyda phwyslais ar annog gwell dealltwriaeth diwyllianol.

Dywedodd Andrea Sullivan, pennaeth Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ar gyfer Ewrop a’r marchnadoedd newydd:

“Llongyfarchiadau i Artes Mundi am ddenu gymaint o artistiaid o ansawdd uchel iawn ac am gynnal yr arddangosfa yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Mae ein cyfraniad yn dangos ymrwymiad y cwmni i gefnogi celfyddydau a diwylliant byd-eang yn y gred y bydd sector iachus yn hybu’r economi ac yn helpu i gymunedau dyfu.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:

Lleucu Cooke
029 2057 3175
lleucu.cooke@museumwales.ac.uk