Datganiadau i'r Wasg

Y Glannau'n cynorthwyo i greu Amgueddfa Ysgol

Dros yr wythnosau diwethaf, mae disgyblion Ysgol Gynradd Waun Wen yn Abertawe wedi bod yn dysgu am hanes eu cymuned.

Gyda chymorth Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ian Smith, mae’r disgyblion wedi bod yn ymchwilio i gofnodion yr ysgol, yn cyfweld cyn ddisgyblion ac yn edrych ar hen luniau er mwyn datgelu hanesion aeth yn angof ers sefydlu’r ysgol ym 1875.

Penllanw’r gwaith fydd Amgueddfa Ysgol yn arddangos gwrthrychau ac arteffactau o’r 1800au hyd heddiw. Un o’r gwrthrychau fydd tystysgrif gan y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol a gyflwynwyd i Thomas Sullivan, cyn ddisgybl yn yr ysgol, a blymiodd i ddociau Abertawe i arbed bachgen naw mlwydd oed ym 1912.

Canlyniad nawdd a glustnodwyd gan Raglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru yw’r project, a’r nod yw cryfhau’r cyswllt rhwng awdurdodau lleol a Phartneriaethau Cymunedau’n Gyntaf.

Wrth siarad am y rhaglen dywedodd Dirprwy Brifathrawes Ysgol Gynradd Waun Wen, Louise John: “Mae’r disgyblion wedi ymgysylltu’n dda ag elfen addysgol y project hwn ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi’n cynorthwyo ni. Rydyn ni wedi cyfweld â nifer o gyn-ddisgyblion Ysgol Gynradd Waun Wen a thrigolion Waun Wen ddoe a heddiw, ac mae eu straeon wedi diddori’r plant ac wedi dangos amrywiaeth cymuned yr ysgol. Bydd y project yn cael ei gyflwyno i’n AS lleol, Geraint Davies, yn ystod ein Diwrnod Cydlyniant Cymunedol ddydd Gwener 23 Mawrth.”

“Rydyn ni wrth ein bodd o gael cynorthwyo’r ysgol i gyflawni’r project diddorol a chraff hwn,” meddai Ian Smith. “Byddai nifer o bobl fu’n byw yn yr ardal ers agor yr ysgol wedi gweithio yng ngweithfeydd copr cyfagos Hafod a Gweithfeydd Dur a Thunplat Cwmfelin – diwydiannau y gellir dilyn eu hanes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel rhan o hanes diwydiannol byrlymus y rhan hon o Gymru.

“Mae’n syniad gwych ac yn broject cymunedol gwych i fod yn rhan ohono. Mae’r plant yn edrych ymlaen at agor eu Hamgueddfa Ysgol eu hunain fel y gallan nhw arddangos eu gwaith caled i deulu a ffrindiau.”

Meddai Mandy Westcott, Swyddog Addysg yr Amgueddfa: “Mae Ysgol Gynradd Waun Wen yn ymweld â’r Amgueddfa yn rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau addysgol y byddwn ni’n eu cynnig.  Mae’n dangos cydweithio llwyddiannus o fewn a thu hwnt i’r ystafell ddosbarth sy’n cyfoethogi profiad y disgyblion. Edrychwn ymlaen at weld y cynnyrch gorffenedig ym mis Mawrth.”