Datganiadau i'r Wasg

Croesawu rheolwr newydd Cymru, Chris Coleman i'r Glannau

Bydd cyfle arbennig i gefnogwyr pêl-droed y ddinas ddod i gyfarfod rheolwr newydd Cymru, Chris Coleman yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Iau 9 Chwefror am 7pm.

Pennaeth Materion Cyhoeddus CBDC, Ian Gwyn Hughes, a hanesydd CBDC, Ceri Stennet, fydd yn cadeirio’r noson.

Bydd cyfle i’r sawl sy’n mynychu i weld Chwarae Dros Gymru, arddangosfa deithiol newydd o Amgueddfa Powysland yn y Trallwng. Mae’n adrodd hanes Cymdeithas Bêl-Droed Cymru gan ganolbwyntio ar y tîm cenedlaethol a’i lwyddiannau, gan gynnwys rownd gogynderfynol Cwpan y Byd 1958 a Chaerdydd yn ennill Cwpan FA Lloegr ym 1927, yr unig dro i’r tlws adael Lloegr.

Y cyn amddiffynnwr canol o Abertawe yw deuddegfed rheolwr llawn amser tîm Cymru ac mae’r Amgueddfa yn falch o chwarae ei rhan wrth iddo gael ei gyflwyno i’r ddinas fel rheolwr newydd Cymru. Meddai Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa, “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cyfle i gynnal y digwyddiad hwn, fydd yn gyfle gwych i gyfarfod un o fawrion chwaraeon Cymru ac yn gyfle i ymwelwyr weld yr arddangosfa newydd.”

Dywedodd Chris Coleman rheolwr Cymru; “Rwy’n falch iawn o allu ymweld â’m tref enedigol, Abertawe, ar gyfer un o gyfarfodydd teithiol CBDC ac i gyfarfod rhai o’r cefnogwyr. Mae pêl-droed yn gryf yn yr ardal ac rwy’n edrych ymlaen at noson arbennig..”

Ffoniwch yr Amgueddfa ar 01792 638950 i archebu lle. Y cyntaf i’r felin gaiff falu.