Datganiadau i'r Wasg

DYLANWADAU DIWYDIANNOL

Myfyrwyr Celf Coleg Menai yn Cydweithio gydag Amgueddfa Lechi Cymru

Mae arddangosfa arbennig gan CHWE DEG o fyfyrwyr yn cael ei lawnsio yn Amgueddfa Lechi Cymru yr wythnos hon.

Gwaith myfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai ydi DYLANWADAU DIWYDIANNOL.

Ysbrydolwyd y gwaith gan gyfres o weithdai arbennig wedi’u trefnu gan yr amgueddfa Lechi oedd yn cynnig cyfle iddyn nhw weithio gyda artistiaid lleol mewn gwahanol leoliadau a defnyddio deunyddiau gwahanol i greu gwaith celf ar gyfer dathliadau 40 mlynedd yr Amgueddfa yn 2012.

Mae’r prosiect, sydd wedi ei ariannu yn rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn golygu fod y myfyrwyr wedi defnyddio gwahanol leoliadau o fewn yr amgueddfa Lechi yn ogystal â gweithio yn y chwareli yn Ninorwig yn Llanberis ac ym Mlaenau Ffestiniog. Esboniodd Elen Wyn Roberts, Swyddog Addysg yr Amgueddfa Lechi ymhellach: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle ardderchog i’r myfyrwyr weithio gydag artistiaid lleol o safon. Yr artistiaid cysylltiedig yw Howard Bowcott, Marged Pendrell, Luned Rhys Parri, Catrin Williams, Ann Catrin Evans - ac maent yn esiamplau o bobl sy’n gweithio yn yr ardal sydd wedi creu bywoliaeth drwy eu gwaith, ac sydd yn defnyddio'r ardal o amgylch fel ysbrydoliaeth.”

Yn wir mae tri o’r artistiaid (Luned Rhys Parri, Catrin Williams ac Ann Catrin Evans) yn gyn fyfyrwyr o Goleg Menai sydd wedi cwblhau'r cwrs Sylfaen Celf, ffaith sydd wedi bod yn fonws ychwanegol, fel yr esboniodd Luned Rhys Parri:“Rwyf wedi mwynhau fy hun yn aruthrol ar y prosiect hwn. Bu’n brofiad arbennig iawn yn enwedig gan i mi fod ar y cwrs fy hun ac rwyf yn eithaf si?r y bydd rhai artistiaid ifanc Cymreig yn dod i’r amlwg yn ei sgil mewn blynyddoedd i ddod. Roedd yna gymaint o bethau diddorol i’w lluniadu a'u darlunio yn yr amgueddfa - mae'n lle sy’n ysbrydoli ac yn gyfle gwych i drafod a darlunio eu hetifeddiaeth”.

Gellir gweld nifer o wahanol mathau o waith celf yn yr arddangosfa o brintiadau i waith 3D a ffotograffau ac mae’r broses wedi bod yn agoriad llygad fel yr esbonia Siân Alun o Bwllheli “Rydym wedi cael cyfleoedd mor dda ar y cwrs hwn i weithio gydag artistiaid ardderchog a mor brofiadol ac mae eu celf a'u crefft wedi gadael ei ôl arnom drwy roi llawer o syniadau newydd ffres i ni. Cafodd y profiadau gorau eu hysbrydoli gan ein diwylliant ac “awyrgylch” y chwareli a fydd gobeithio yn rhoi dyfnder ychwanegol i’n gwaith!!”

Dywedodd Jeni Farrell, Rheolwr Rhaglen Celf a Dylunio “Mae’r cwrs Sylfaen CBAC yng Ngholeg Menai wedi sefydlu enw da iddo’i hun ledled Cymru, yn deillio’n uniongyrchol o arbenigedd ac ymroddiad y tîm o staff proffesiynol. O bryd i’w gilydd, bydd y cwrs yn ymgysylltu ag asiantaethau allanol i gynnal briffiau byw ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae croeso bob amser i’r mentrau hyn fel cyfle i’r myfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o’r byd.”

Gellir gweld yr arddangosfa tan Ebrill 30ain 2012. Am ragor o wybodaeth ar brosiectau a digwyddiadau'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol, dylid ymweld â: www.amgueddfacymru.ac.uk neu drwy ffonio’r Amgueddfa ar: 01286 870630 Am ragor o wybodaeth ar gyrsiau Celf a Dylunio Coleg Menai dylid ymweld â www.menai.ac.uk/courses neu alw'r Llinell Gyngor Cwrs ar 01248 383333.

Diwedd

Nodiadau:

Cynhaliwyd y prosiect rhwng 4ydd Hydref hyd 17eg Hydref 2011 Bydd yr Arddangosfa o waith y myfyrwyr yn cael ei gynnal o Ragfyr 5ed 2011 – 30ain Ebrill 2012 yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis.

Am fwy o wybodaeth ar y prosiect neu i gael lluniau, cysyllter os gwelwch yn dda â:Amgueddfa Lechi Genedlaethol- Julie Williams, Swyddog Marchnata ar 01286 873707 neu Julie.Williams@museumwales.ac.uk

Coleg Menai- Sarah Wynn, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ar 01248 370 125 x: 3548 neu sarah.wynn.morgan@menai.ac.uk