Datganiadau i'r Wasg

Chwyldro Ffrengig y myfyrwyr yn llwyddo yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!

Ffrwyth project ar y cyd rhwng myfyrwyr Prifysgol Bryste ac Amgueddfa Cymru yw arddangosfa gelf newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd Breuddwydion Chwyldroadol yn cael ei dangos o ddydd Sadwrn 24 Mawrth tan ddydd Sadwrn 9 Medi 2012.

 

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn meddu ar un o’r casgliadau gorau o gelf Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y DU, a dewisodd chwe myfyriwr ôl-radd o Brifysgol Bryste rai o’r peintiadau, cyn ymchwilio a dehongli a chreu yr arddangosiad newydd hwn ar thema Breuddwydion Chwyldroadol. Derbyniodd y project gefnogaeth hael Gymdeithas yr Haneswyr Celf.

Gan fynd i’r afael a chythrwfl Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Breuddwydion Chwyldroadol yn amlygu’r berthynas rhwng chwyldro’r bobl a datblygiadau chwyldroadol yn eu celf. Nod yr arddangosiad yw dangos y gwaith yng nghyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyfnod a elwir yn aml yn ‘Ganrif y Chwyldro’ o ganlyniad i’r amryw newidiadau cyfundrefn. Dim ond rhai addewidion a gadwyd wedi’r Chwyldro gwreiddiol ym 1789 a cafwyd newid gwleidyddol pellach ym 1815, 1830, 1848, 1851 a dechrau’r 1870au. Gellir dehongli nifer o’r paentiadau yn yr arddangosiad fel gweithiau sy’n cynrychioli breuddwydion Ffrainc a’r hyn yr hoffai’r wlad ei gyflawni.

Meddai’r myfyrwyr ôl-radd Matthew Howles a Jess Hoare, “Mae’n gyffrous ac yn destun balchder cael gweld ein gwaith ymchwil fel arddangosiad gorffenedig. Rydyn ni’n lwcus bod gennym gasgliad amgueddfa mor gyfoethog dafliad carreg o Fryste. Bydda i’n sicr o ymweld yn aml yn y dyfodol.”
“Dylai unrhywun ym Mryste sydd â diddordeb mewn celf gymryd mantais o’r faith bod casgliadau cyfoethog mor agos atynt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. “

Meddai Anne Pritchard, Curadur Cynorthwyol Celf Hanesyddol, Amgueddfa Cymru, “Mae wedi bod yn brofiad gwych gweithio gyda’r myfyrwyr. Maent wedi bod yn hynod frwdfrydig o’r dechrau ac wedi taflu goleuni newydd a diddorol ar y paentiadau. Drwy gyfrwng projectau tebyg, gobaith Amgueddfa Cymru yw annog pobl i astudio casgliadau’r Amgueddfa’n fanylach, cynyddu mynediad i’r cyhoedd a datblygu sgiliau curaduron a staff amgueddfa’r dyfodol.”

Dysgwch fwy am eu darganfyddiadau ar dudalennau ‘Rhagor: Archwilio ein Casgliadau’ ar wefan yr Amgueddfa, www.amgueddfacymru.ac.uk/en/rhagor .

Sgyrsiau perthnasol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru:

18 Mai, 1.05pm 'Beth yw Celf Realaeth?', Ed Lilley, Uwch-ddarlithydd, Adran Hanes Celf, Prifysgol Bryste.

 

18 Mai, 2.30pm Cwrdd â’r myfyrwyr curadurol am daith o arddangosfa Ymchwilio a Datgelu: Breuddwydion Chwyldroadol.

 

1 Mehefin, 1.05pm, ‘Hanes a Rhitholaeth – Côr Eglwys Capuchin gan

Granet’, Stephen Bann, Athro Emeritws Hanes Celf, Prifysgol Bryste.

 

1 Mehefin, 2.30pm, Cwrdd â’r myfyrwyr curadurol am daith o arddangosfa Ymchwilio a Datgelu: Breuddwydion Chwyldroadol.