Datganiadau i'r Wasg

Ffigyrau ymwelwyr gorau erioed i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru

Croesawodd saith amgueddfa genedlaethol Cymru 1.69 miliwn o ymwelwyr yn 2011-12, y nifer uchaf erioed ers i bolisi mynediad am ddim cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2001.

 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru’r polisi wyth mis cyn Lloegr – penderfyniad arloesol a ddyblodd ffigyrau ymwelwyr i amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r ymrwymiad gwleidyddol hwn i hyrwyddo mynediad i ddiwylliant a hanes Cymru’n parhau’n gryf heddiw, gyda’r polisi’n rhan o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer  2011-16, Y Rhaglen Lywodraethu.

 

Yn 2001-02, cyfrannodd ymgyrch ‘mynediad am ddim i bawb’ at gynnydd o 88% (764,599 i 1,430,428) o fewn 12 mis. Mae’r momentwm wedi parhau ac wedi arwain at lwyddiant pellach mewn gwirionedd. Hyd at 1 Ebrill 2012, croesawyd 16.5 miliwn dros gyfnod o 11 mlynedd, ers cyflwyno mynediad am ddim. 

 

Un llwyddiant arbennig oedd agoriad yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol newydd ar lawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Gorffennaf 2011, diolch i fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru a noddwyr eraill. Mae’r datblygiad newydd wedi bod yn boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd newydd - 50,485 yn fwy o ymwelwyr ( +13.7%) i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod 2011-12 i gymharu â 2010-11.

 

Fe lwyddodd Amgueddfa Wlân Cymru hefyd i ddenu dros 30,000 o ymwelwyr am y tro cyntaf erioed. Ers 2000 - 01, mae’r Amgueddfa hon yn Nyffryn Teifi wedi gweld cynnydd o 236% yn ei ffigyrau ymwelwyr!

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae’n ffigyrau ymwelwyr diweddaraf yn wych. Diolch i weledigaeth a chefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth Cymru, rwy’n falch iawn taw Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud hi’n haws i bawb i ymweld ag amgueddfeydd.

“Mae Amgueddfa Cymru wedi treulio cryn dipyn o amser ac egni yn sicrhau bod ei gwaith Cyfathrebu a Marchnata yn seiliedig ar ffurfio a gweithredu Cynlluniau Datblygu Cynulleidfaoedd ar gyfer ein saith amgueddfa unigol. 

 

“Bu cydbwysedd rhwng cwrdd ag anghenion a disgwyliadau ymwelwyr cyson, teyrngar â denu cynulleidfaoedd newydd yn hanfodol bwysig o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr, ac o fewn y cyfanswm hwnnw i gynyddu nifer yr ymwelwyr o gefndir C2, D ac E.

 

“Yn 2000-01, fe ymwelodd llai na 250,000 o bobl o gefndiroedd llai breintiedig. Dros y blynyddoedd, mae’r ffigwr wedi cynyddu i dros 500,000 – un ym mhob 2 ymweliad.

 

“Mae mynediad am ddim yn un ffordd mae Amgueddfa Cymru’n cyfrannu ar fywyd cymdeithasol ac economaidd Cymru. Rydyn ni hefyd yn chwarae rôl flaenllaw yn y ddarpariaeth ddiwylliannol a chelfyddydol, addysgiadol, sgiliau a thwristiaeth.

"Amgueddfa Cymru yw’r darparwr mwyaf yng Nghymru o addysg ffurfiol tu hwnt i’r dosbarth, gan ddod ag addysg yn fyw i dros 230,000 o fyfyrwyr a disgyblion bob blwyddyn. Rydyn ni’n ysbrydoli pobl o bob oedran a chymuned, beth bynnag eu cefndir, drwy ein casgliadau, ystod eang o arddangosfeydd a digwyddiadau. Mae ein gwaith hefyd yn estyn tu hwnt i adeiladau’r amgueddfeydd wrth weithio mewn partneriaeth â grwpiau ledled Cymru a thu hwnt ar ystod eang o brosiectau cymunedol."

 

Ychwanegodd Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:

 

"Llongyfarchiadau i Amgueddfa Cymru am y llwyddiant bendigedig hwn. Mae'r polisi mynediad am ddim wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr amgueddfa traddodiadol - ond yr hyn sydd wedi fy mhlesio fwyaf yw’r ffaith ein bod ni wedi ei gwneud hi’n haws i gynulleidfaoedd newydd ymweld ag amgueddfeydd yn ogystal ag annog twristiaid i ymweld â Chymru.” 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.