Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Wlân Cymru yn denu 30,000 o Ymwelwyr am y Tro Cyntaf

Am y tro cyntaf erioed, llwyddodd Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre i ddenu dros ddeng mil ar hugain o ymwelwyr mewn blwyddyn. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, bu 30,378 o bobl yn ymweld â’r Amgueddfa rhwng Ebrill 2011 a mis Mawrth eleni, sef bron 10% yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol.

Bryd hynny daeth 27,776 o bobl drwy ddrysau’r Amgueddfa mewn cymhariaeth â 12,576 ddeng mlynedd yn ôl. Ym mis Ebrill 2001, cyflwynwyd mynediad am ddim i amgueddfeydd Cymru, diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Mae ailddatblygiad Amgueddfa Wlân Cymru, rhwng 2002 a 2004, hefyd wedi cyfrannu at boblogrwydd yr amgueddfa.  Erbyn hyn mae yna fynediad rhwydd i bob rhan o’r safle, mae yna oriel decstilau sy’n arddangos cynhyrchion  y diwydiant gwlân yng Nghymru ac mae gwell cyfleusterau ar gael i ymwelwyr, fel y siop a'r caffi.

Mae’r cynnydd hwn i’w weld ar draws holl Amgueddfeydd Cymru. Yn ystod 2011-12, derbyniodd y saith amgueddfa genedlaethol yng Nghymru 1.69 miliwn o ymwelwyr, sef y cyfanswm mwyaf erioed ers pan gyflwynwyd mynediad am ddim yn 2001.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae’n ffigyrau ymwelwyr diweddaraf yn wych. Diolch i weledigaeth a chefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth Cymru, rwy’n falch iawn taw Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud hi’n haws i bawb i ymweld ag amgueddfeydd.

“Mae Amgueddfa Cymru wedi treulio cryn dipyn o amser ac egni yn sicrhau bod ei gwaith Cyfathrebu a Marchnata yn seiliedig ar ffurfio a gweithredu Cynlluniau Datblygu Cynulleidfaoedd ar gyfer ein saith amgueddfa unigol. 

“Bu cydbwysedd rhwng cwrdd ag anghenion a disgwyliadau ymwelwyr cyson, teyrngar â denu cynulleidfaoedd newydd yn hanfodol bwysig o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr, ac o fewn y cyfanswm hwnnw i gynyddu nifer yr ymwelwyr o gefndir C2, D ac E.

“Yn 2000-01, fe ymwelodd llai na 250,000 o bobl o gefndiroedd llai breintiedig. Dros y blynyddoedd, mae’r ffigwr wedi cynyddu i dros 500,000 – un ym mhob 2 ymweliad.

“Mae mynediad am ddim yn un ffordd mae Amgueddfa Cymru’n cyfrannu ar fywyd cymdeithasol ac economaidd Cymru. Rydyn ni hefyd yn chwarae rôl flaenllaw yn y ddarpariaeth ddiwylliannol a chelfyddydol, addysgiadol, sgiliau a thwristiaeth.

"Amgueddfa Cymru yw’r darparwr mwyaf yng Nghymru o addysg ffurfiol tu hwnt i’r dosbarth, gan ddod ag addysg yn fyw i dros 230,000 o fyfyrwyr a disgyblion bob blwyddyn. Rydyn ni’n ysbrydoli pobl o bob oedran a chymuned, beth bynnag eu cefndir, drwy ein casgliadau, ystod eang o arddangosfeydd a digwyddiadau. Mae ein gwaith hefyd yn estyn tu hwnt i adeiladau’r amgueddfeydd wrth weithio mewn partneriaeth â grwpiau ledled Cymru a thu hwnt ar ystod eang o brosiectau cymunedol."

Ychwanegodd Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:

"Llongyfarchiadau i Amgueddfa Cymru am y llwyddiant bendigedig hwn. Mae'r polisi mynediad am ddim wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr amgueddfa traddodiadol - ond yr hyn sydd wedi fy mhlesio fwyaf yw’r ffaith ein bod ni wedi ei gwneud hi’n haws i gynulleidfaoedd newydd ymweld ag amgueddfeydd yn ogystal ag annog twristiaid i ymweld â Chymru.” 

Dywedodd Ann Whittall, Rheolwraig Amgueddfa Wlân Cymru:  Rydym yn falch dros ben fod mwy a mwy o ymwelwyr yn darganfod ein hamgueddfa wych yn ei lleoliad gwledig prydferth yn Nyffryn Teifi. Mae gennym le croesawgar lle mae modd i ymwelwyr ddysgu am ddiwydiant gwlân Cymru trwy weld peiriannau’n gweithio ac wrth gael eu tywys o gwmpas gan staff gwybodus. Yn ogystal, gall plant roi cynnig ar gael tro ar wneud pethau eu hunain, mae yna lwybrau o amgylch yr amgueddfa a’r cyffiniau ac mae bwyd cartref ar gael yn ein caffi.

Ychwanegodd: “Mae sawl peth yn cyfrannu at lwyddiant yr Amgueddfa, gan gynnwys y gefnogaeth a gawn gan y gymuned leol, ein partneriaethau â sefydliadau a cholegau lleol a’r modd rydym yn llwyddo i ddenu pobl sy’n ymweld â’r ardal. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi datblygu rhaglen o arddangosfeydd dros-dro a dewis eang o ddigwyddiadau sy’n apelio at gynulleidfa amrywiol. Yr her nawr yw cynnal y safon uchel ar gyfer ymwelwyr, a darparu cyfleusterau a gweithgareddau newydd ar gyfer cynulleidfa newydd a phobl sy’n ailymweld.    

Diwedd

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Heledd Gwyndaf, Swyddog Cyfathrebu

Ffôn: 01559 370929  Ebost: heledd.gwyndaf@amgueddfacymru.ac.uk.