Datganiadau i'r Wasg

Cael cip ar arddangosfa newydd PEEP

Mae’n fraint gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau lwyfannu arddangosfa ffotograffiaeth newydd sbon.

Bydd PEEP - Promoting Early European Photography yn cael ei dangos tan 27 Mai gan roi llwyfan i gasgliad o ffotograffau hyfryd o’r 1850au i’r 1930au o waith arloeswyr o Wlad yr Iâ, Slofacia, Lloegr a Chymru.

Trwy gyfrwng mwy na chant o ffotograffau mewn chwe ‘ystafell’ bydd yr arddangosfa’n dangos sut y defnyddiodd yr arloeswyr newydd ym mhob gwlad y dechnoleg ddiweddaraf i gofnodi hanes cymdeithasol, llwyddiannau gwyddonol a thwf diwydiannol ar draws Ewrop.

Mae treftadaeth ddiwydiannol yn ddolen gyswllt rhwng gwaith Robert Jones a Thomas Henry Winterbourn yng nghanolbarth Cymru a’r Mers tra bod delweddau o Penllergaer yn cyd-fynd â datblygiad Abertawe yng nghanol y 19eg ganrif.

Meddai’r curadur Paul Haley: “Roedd ffotograffwyr de Cymru ar flaen y gad yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth ddefnyddio technegau newydd i gynhyrchu delweddau, ond roedd gwaith tebyg yn mynd rhagddo yng ngwledydd eraill Ewrop hefyd.

“Mae’n wych ein bod ni’n medru arddangos gwaith y ffotograffwyr hyn ar lwyfan rhyngwladol ac rydyn ni wrth ein bodd gyda’r ymateb i’r arddangosfa hyd yn hyn.”

Mae’r arddangosfa wedi bod o foddhad arbennig i Hannah Lawson , un o gynorthwywyr oriel yr Amgueddfa. Tra’n gweithio ar yr arddangosfa mewn gweithdy yng Ngwlad yr Iâ, gwnaeth Hannah ddarganfyddiad personol.

Meddai Hannah: “Drwy hap a damwain, dechreuais i edrych ar lyfrau lluniau yn ystod y gweithdy a sylwi ar enw fy hen dad-cu, Valdemar Larsen, a’i ffrind yn label un o’r lluniau.

“Doeddwn i erioed wedi gweld llun ohono yn ?r ifanc, ac roedd e wedi marw cyn i mi gael fy ngeni, felly allwn i ddim bod yn si?r os taw dyna pwy oedd yn y llun, er fy mod i’n gallu gweld tebygrwydd yn yr wyneb.

“Anfonais i gopi o’r llun at fy rhieni, ac roedden nhw’n ei adnabod yn syth.

“Ffotograffydd o Ddenmarc o’r enw Heinrich Tønnies a dynnodd y llun cyn i fy hen daid fudo i’r DU a newid ei enw i swnio’n fwy Prydeinig. Mae’r ffotograff bellach yng nghasgliad Archif Wladol Aalborg.”

Mae Hannah bellach yn ceisio dysgu mwy am y ffrind dienw: “Dyna fy sialens nesa,” meddai “byddai’n wych gallu dysgu mwy a chael darlun cliriach.”

Project addysg oedolion dwy flynedd dan nawdd yr Undeb Ewropeaidd a rhaglen Grundtvig yw PEEP.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Diolch i Lywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe