Datganiadau i'r Wasg

Trysor Llyn Cerrig Bach i'w arddangos yn Oriel Ynys Môn

Caiff y llu o arteffactau rhyfeddol y daethpwyd o hyd iddynt yn Llyn Cerrig Bach ger Y Fali ar Ynys Môn 70 o flynyddoedd yn ôl eu harddangos yn Oriel Ynys Môn yr haf hwn diolch i bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a gwasanaeth Amgueddfeydd, Diwylliant ac Archifau’r Cyngor.

 

Llyn bychan yw Llyn Cerrig Bach yng Ngogledd-Orllewin Ynys Môn ger Y Fali. Cafodd yr arteffactau rhyfeddol hyn o’r Oes Haearn eu darganfod gan y prif dirmon W.O. Roberts a’i gydweithwyr wrth iddynt ddraenio’r llyn ar gyfer ymestyn y lanfa yn Llu Awyr Brenhinol Y Fali yn 1942 ac maent wedi cyfareddu archeolegwyr byth ers hynny.

Mae’r casgliad oddeutu 170 o eitemau yn cynnwys darnau o grochanau, plac o siâp hanner cylch gydag addurn Celtaidd a rhan o drymped neu gorn rhyfel hynafol. Yn ogystal, mae nifer o ffitiadau harneisiau ceffylau a rhannau o gerbydau a ddefnyddiwyd mewn rhyfeloedd ac ar gyfer eu harddangos. Hefyd, daethpwyd o hyd i gasgliad sylweddol o arfau gan gynnwys bogail tarian ysblennydd wedi’i addurno, cleddyfau haearn a blaenau gwaywffyn. Bydd bariau haearn a ddefnyddiwyd yn ôl pob tebyg fel deunyddiau amrwd ac amrediad o declynnau haearn yn rhoi syniad i ni o sgiliau’r gof a’r eitemau a oedd yn cael eu defnyddio’n gyffredin yn ystod yr Oes Haearn.  Bydd 26 o’r eitemau pwysicaf yn cael eu harddangos yn yr arddangosfa bartneriaeth hon. 

Yr eitem gyntaf y daethpwyd o hyd iddi oedd torfgadwyn haearn drom a ddefnyddiwyd ar gyfer caethweision.  Chafodd hon ddim ei nodi ar unwaith fel arteffact hynafol ac fe’i defnyddiwyd fel cadwyn dynnu i dractorau dynnu tryciau a oedd wedi mynd yn sownd yn y mwd.  Er bod y gadwyn oddeutu 2000 o flynyddoedd oed, roedd yn syndod o ddefnyddiol ar gyfer y dasg hon. Unwaith y cafodd y gadwyn ei nodi’n arteffact hynafol, archwiliwyd yr ardal a daethpwyd o hyd i nifer o eitemau eraill.

Dan gyfarwyddyd Syr Cyril Fox, Cyfarwyddwr Amgueddfa Cymru ar y pryd, aethpwyd â’r arteffactau i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar gyfer eu catalogio, gwaith cadwraeth ac astudiaeth.  Drwy archwilio ac astudio’r arteffactau am oriau lawer dros y blynyddoedd, mae’r arbenigwyr wedi medru dysgu a deall mwy am fywyd yn y gorffennol pell.

 

Dywedodd Dr Mark Redknap, Ceidwad Archaeoleg a Nwmismateg Dros Dro Amgueddfa Cymru, “Mae ein perthynas tymor hir gydag Oriel Ynys Môn yn cynnwys y gwaith partneriaeth ardderchog o ran cyflwyno a dehongli archeoleg gyfoethog y rhanbarth, ac rydym wrth ein bodd bod y berthynas hon yn cael ei hatgyfnerthu ymhellach yn sgil cael benthyg yr arteffactau o Lyn Cerrig Bach i’w harddangos yn yr amgueddfa dros yr haf. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd ddysgu mwy am hanes unigryw’r ynys trwy’r darganfyddiad rhyfeddol hwn.  Er enghraifft, mae’n cynnwys plac o siâp hanner cylch a gydnabyddir fel un o ‘gymeriad ac arwyddocâd deinamig’ ar gyfer deall celfyddyd Geltaidd Gynnar ym Mhrydain.

“Mae Amgueddfa Cymru yn falch o’i hymrwymiad i sicrhau bod casgliadau cenedlaethol ar gael i gymaint o bobl â phosib eu gweld, ac mae’n gweithio’n agos iawn gydag amrediad o amgueddfeydd lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod pawb yn cael cymaint o fynediad â phosib i dreftadaeth Cymru. Mae’r arteffactau o Lyn Cerrig Bach yn hynod bwysig, mewn cyd-destun cenedlaethol a lleol, ac o bwys rhyngwladol i’n dealltwriaeth o arddull gelfyddydol a gwaith metel yr Oes Haearn, gan gynnwys arfau, cyfarpar ceffylau a chelfi.”

Dywedodd Pat West, Prif Swyddog - Amgueddfeydd, Diwylliant ac Archifau Cyngor Sir Ynys Môn, “Mae’r bartneriaeth rhwng Oriel Ynys Môn ac Amgueddfa Cymru wedi bod yn un faith ac adeiladol.  Mae’n anrhydedd ac yn fraint cydweithio ar yr arddangosfa unigryw hon.”

Dywedodd Gwilym O Jones, Cadeirydd y Cyngor Sir a’r Cynghorydd ar gyfer y ward lle darganfuwyd y trysorau, sef Llanfair-yn-Neubwll, “’Rwy’n falch iawn o glywed y bydd trysorau Llyn Cerrig Bach yn dychwelyd i Ynys Môn ar gyfer yr arddangosfa  arbennig iawn hon yn Oriel Ynys Môn. Fel y cynghorydd sir ar gyfer yr ardal hon, rwyf, ers tro byd, wedi bod yn cefnogi dod â’r arteffactau gwerthfawr hyn yn ôl i Ynys Môn. Byddant yma tan fis Tachwedd ac ‘rwy’n annog pobl Ynys Môn i achub ar y cyfle hwn i gael cipolwg ar hen hanes ein hynys.

 

Ychwanegodd Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru, “Mae Trysorau Llyn Cerrig Bach o bwysigrwydd enfawr i Ynys Môn a gweddill Cymru. Rwy’n falch iawn fod y bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn wedi galluogi i’r casgliad cenedlaethol gael ei arddangos ar Ynys Môn yn ystod yr haf. Yn ddiweddar, darparodd Llywodraeth Cymru £20,000 mewn nawdd i Oriel Ynys Môn tuag at yr arddangosfa yma drwy gynllun grantiau CyMAL.”

Cynhelir yr arddangosfa yn Oriel Ynys Môn rhwng 14 Gorffennaf ac 11 Tachwedd 2012.