Datganiadau i'r Wasg

Deinosoriaid yn sbardun i noson wych

Sut le yw’r Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y nos wedi difodd y goleuadau a chau’r drysau meddech chi? Dyma’ch cyfle i weld dros eich hun! 

Bydd yr Amgueddfa’n dod yn fyw ar nos Wener 11 Mai o 6pm, ac yn llawn bywyd cynhanes gan gynnwys teithiau deinosoriaid, celf a chrefft, amffibiaid go iawn a dangosiad o’r ffilm deuluol boblogaidd, A Land Before Time.

Gall ymwelwyr grwydro’r orielau fel ditectifs deinosoriaid, creu modelau triceratops 3D ac olion ffosil mewn clai neu osod eu hunain mewn llun cynhanesyddol. Bydd rhai o drigolion Canolfan Ymlusgiaid Caerdydd hefyd yn cadw cwmni i ni wrth i’r gorffennol ddod yn fyw o flaen ein llygaid.

Ers dechrau yn 2009, mae Noson yn yr Amgueddfa wedi tyfu’n atyniad poblogaidd i deuluoedd.

“Mae’r ymateb i’r digwyddiad wedi bod yn wych hyd yn hyn ac mae llawer o bobl wedi archebu lle,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris.

“Mae’n gyfle i fod yn greadigol gyda’n harddangosiadau a’n harddangosfeydd ac yn gyfle i ymwelwyr brofi’r Amgueddfa y tu hwnt i’r oriau agor arferol.

“Fel Amgueddfa sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a blaengaredd Cymru, mae’n wych bod cyfle i bobl alw draw a phrofi rhywbeth gwahanol – digwyddiad i ddiddori’r teulu cyfan.”

Pob gweithgaredd yn dechrau am 6pm gyda mynediad yn £2 y pen.

Rhaid archebu, ffoniwch (029) 2057 3600 i gadw lle.