Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn llwyfannu arddangosfa fydd yn dod â llyfrau Anthony Browne yn fyw

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn paratoi i gynnal arddangosfa deuluol unigryw Through the Magic Mirror: The World of Anthony Browne, arddangosfa deithiol gan ‘Seven Stories’ sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr ymgolli ym myd llyfrau lluniau Anthony Browne.

 

Caiff Through the Magic Mirror: The World of Anthony Browne ei hagor yn swyddogol ddydd Sadwrn 2 Mehefin 2012 gan yr awdur ac arlunydd arobryn a chyn-Awdur Llawryfog y Plant, Anthony Browne. Mae’n gyfle i blant a theuluoedd gamu i fyd llyfrau Anthony Browne – am ddim! Caiff ymwelwyr eu croesawu gan fodelau maint iawn o’i waith a darluniau gwreiddiol o dros 30 o’i lyfrau gan gynnwys Gorilla, Into the Forest, Zoo, Little Beauty a Willy the Champ. Bydd cyfle hefyd i chwarae’r Gêm Siapiau, gêm ddarlunio a ddyfeisiwyd gan Browne y bydd pob aelod o’r teulu’n ei mwynhau.

Bydd yn agor y drws i’w gartref sy’n llawn lluniau ac arteffactau teuluol yn ogystal â gwaith celf o My Mum a My Dad. Cerddwch drwy’r iard gefn o lyfr Changes neu ewch am dro hamddenol drwy’r parc a gweld y gorila maint llawn yn y s?, lle ceir gwaith celf o lyfr Little Beauty. Bydd addasiadau Anthony Browne o straeon tylwyth teg hefyd i’w gweld mewn coedwig arbennig, gan gynnwys Hansel and Gretel, Me and You, Bear Hunt a The Tunnel.

Dyma’r arddangosfa fwyaf o’i bath o waith Anthony yn y DU, gan ddangos gwaith o’i yrfa ddarlunio o 1976 hyd heddiw. Dywed Anthony: “Rydw i mor falch bod Seven Stories wedi creu’r arddangosfa hon sy’n edrych yn ôl ar fy mywyd a’m gwaith mewn ffordd mor ddychmygus.”

Mae Browne yn awdur a darlunydd o fri rhyngwladol ac mae wedi cyhoeddi bron i 40 o lyfrau. Mae elfen storïol gref i’w luniau dyfrlliw sy’n plethu realaeth ffotograffig bron â chyffyrddiadau ffantasi swrreal a defnydd clyfar o chwarae ar eiriau’n weledol. Drwy ei ddefnydd medrus o liw, patrwm a manylion cefndir, cawn ein cymell yn dawel i gydymdeimlo â’i brif gymeriadau sy’n blant unig a sensitif (boed rheini’n blant dynol neu’n epaod). Mae Anthony’n defnyddio gorilas yn nifer o’i lyfrau, ac meddai; “Caf fy hudo ganddyn nhw, a’u helfennau gwrthgyferbyniol - maen nhw’n aruthrol o gryf ond hefyd yn dyner iawn. Mae pobl yn meddwl amdanyn nhw fel creaduriaid ffyrnig, ond dyw hynny ddim yn wir.”

Meddai Beth McIntyre, Curadur Printiau a Darluniau Amgueddfa Cymru; “Mae llyfrau lluniau Anthony Browne yn rhagorol, a’r delweddau’n aml yn adrodd mwy o’r stori na’r geiriau. Mae galw mawr am arddangosfeydd fel hon y gall teuluoedd eu mwynhau am ddim gyda’u plant, ac mae’n bleser gennym gynnal yr arddangosfa hyfryd hon.

“Mae’r cyfuniad o weithgareddau hwyliog i blant – 7 oed a h?n – yn seiliedig ar hoff gymeriadau Anthony Browne a darluniau hyfryd yn ei gwneud yn arddangosfa gwerth ei gweld.

“Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bod Anthony Browne wedi creu darn arbennig o gelf i ddathlu dyfodiad yr arddangosfa i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae wedi ymateb i un o’n gweithiau enwocaf ac agosaf at ein calonnau, Y Plymiwr gan Cezanne, a gobeithio bydd ein hymwelwyr yn mwynhau’r gwaith ychwanegol unigryw hwn.”

Bydd arddangosfa deithiol Seven Stories yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 2 Mehefin i 23 Medi. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Seven Stories yw’r oriel a’r archif gyntaf yn y DU sy’n dathlu byd hudol llyfrau plant ac yn creu rhaglen fywiog o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd i ddarllenwyr o bob oed. Mae  Seven Stories yn cysgodi dan Bont Byker nepell o fwrlwm Quayside yn Newcastle.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.