Datganiadau i'r Wasg

Rhaid gweithredu i arbed ein bioamrywiaeth

Cyrff amgylcheddol yn cyd-lwyfannu digwyddiadau hanes natur am ddim ar draws de Cymru

Er ei fod yn swnio fel term technegol iawn, 'bioamrywiaeth' yn syml yw amrywiaeth anhygoel bywyd ein planed, o ddynol ryw i'r pryfed yn yr ardd a'r llysiau yn y rhewgell. Mae bioamrywiaeth yn hanfodol i'n bodolaeth, felly beth am ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Wlân Cymru ar 18 ac 19 Mai 2012, neu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 19 Mai, i ddysgu sut i warchod ein bioamrywiaeth.

Gall y teulu cyfan gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth gyda phob amgueddfa yn fwrlwm o weithgareddau am ddim, gwybodaeth am waith presennol amryw sefydliadau yng Nghymru a chyngor craff gan bartneriaid am yr hyn allwch chi ei wneud gartref.

Dewch i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (18 a 19 Mai, 10am-4pm) i weld anifeiliaid byw gyda Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru neu crëwch freichledi bal?n gyda'r Gymdeithas Gadwraeth Forol a Chyngor Caerdydd, fydd yn esbonio sut y gall gollwng bal?ns niweidio'r amgylchedd. Bydd Natur Cymru yn dangos fideos o gynefin naturiol Cymru ac Ynys Flat Holm yn cynnal gweithgareddau archwilio planhigion ac anifeiliaid unigryw'r ynys. Dewch i gyfarfod gwyddonwyr Amgueddfa Cymru, dysgu am eu hymchwil a darganfod sut y byddan nhw'n gofalu am y gwrthrychau yn eu gofal. Bydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru yn adrodd stori cudd bywyd y môr o'r hyn allwch chi ffeindio ar y traeth, a gallwch chi hefyd wylio'r hebogiaid sy'n byw ar dyrrau Neuadd y Ddinas trwy gamera nyth yr RSPB.

Helpwch ni i ddathlu 'Diwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth' yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (19 Mai, 11am-4pm) a dysgu mwy am Fioamrywiaeth Forol – thema eleni. Dewch i ddarganfod pa gynefinoedd morol ac arfordirol anhygoel sydd dafliad carreg i ffwrdd yn Abertawe a'r rhywogaethau pwysig sy'n byw yno gyda Phartneriaeth Bioamrywiaeth Abertawe.


Wnaethoch chi erioed ystyried bod cysylltiad rhwng enwau lleol a Bioamrywiaeth? Dewch i Amgueddfa Wlân Cymru (18 ac 19 Mai o 10am – 4pm) i ddysgu mwy gyda Chyngor Sir Gâr. Byddan nhw hefyd yn gofyn beth mae bioamrywiaeth yn ei gynnig i ni?

Bydd y digwyddiadau yma ynghlwm ag ail gynhadledd Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru - ‘Cymru Anhysbys' - yn dilyn llwyddiant y llynedd pan fynychodd 200. Eleni caiff y gynhadledd ei chynnal ar ddydd Sadwrn 19 Mai yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac mae am ddim i bawb. Bydd y digwyddiad yn cael ei agor gan y cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr Dr Rhys Jones, gyda chyflwyniadau yn ymdrin â myrdd o organebau, o gen a choed Cymreig hynafol i bysgod morol ac ysgyfarnogod brown.

I ddysgu mwy am y digwyddiadau yma, ewch i

www.amgueddfacymru.ac.uk/digwyddiadau

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu drwy e-bostio catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.