Datganiadau i'r Wasg

Dathlwch Wythnos Ffoaduriaid yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ar ddydd Sadwrn 16 Mehefin o 12pm i 4pm bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - ynghyd â mudiad City of Sanctuary Abertawe a nifer o grwpiau cymunedol eraill - yn cynnal diwrnod i dathlu cyfraniadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Gymru.

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:

  • Pentref Chwaraeon Byd-eang
  • Celf a chrefft
  • Perfformiadau dawns gyfoes a cherddoriaeth byw
  • Arddangosiadau chwaraeon rhyngwladol
  • Project Cynhwysydd, gwaith gosod 30tr x 9tr sy’n adrodd hanes ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yn Abertawe.

Gan gofio’r digwyddiadau mawr eleni ym myd chwaraeon, bydd arddangosiadau yn ystod y diwrnod o gemau rhyngwladol gan gynnwys cwoits Cymreig, criced o Affganistan, cyffwrdd pêl o Iran, Zumba, pêl-droed a rygbi. Bydd cyfle hefyd i chwarae tenis bwrdd, p?l a gemau traddodiadol fel ras ?y-a-llwy a ras deircoes.

Gyda thair pabell ar lawnt yr Amgueddfa, bydd y lle’n orlawn o greadigrwydd a diwylliant gydag amrywiaeth o berfformiadau dawns, darllen cerddi, cerddoriaeth a stondinau codi ymwybyddiaeth gan nifer o sefydliadau.

Mae Sue James, Swyddog Addysg Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, wedi bod wrthi’n paratoi, a dywedodd: “Rydyn ni wrth ein bodd o gael llwyfannu’r digwyddiad hwn, mae’n gyfle i dynnu sylw at gyfraniad pwysig ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Gymru ac i ymwelwyr ddysgu mwy am gymunedau gwahanol Abertawe. Bydd y thema chwaraeon eleni yn gyfle i ymwelwyr ddarganfod campau newydd – a rhoi cynnig arnynt hefyd!”

Gall ein hymwelwyr hefyd weld y Project Cynhwysydd, gwaith gosod 30trx9tr yng Ngardd yr Iard. Bydd y project yn cael ei arddangos tan ddydd Sul 24 Mehefin, gan adrodd hanes ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yn Abertawe. Mae’n edrych ar eu profiadau personol a’r newid yn eu bywydau ar gael eu gwasgaru ar draws dinas. Bydd yno hefyd ddetholiad o ffotograffau, gwaith celf a barddoniaeth. Wrth siarad am y project, dywedodd y cydlynydd, Dave Evans: “Mae hwn yn gyfle unigryw i ffoaduriaid a cheiswyr lloches esbonio yn uniongyrchol realiti eu bywyd yn y DU ac i newid y darlun ystrydebol o fudo sydd gan nifer.”

Yn Amgueddfa Abertawe, bydd cyfle i ymwelwyr weld arddangosfa newydd gan City of Sanctuary, Gr?p Cefnogaeth Ceiswyr Lloches Bae Abertawe, Asylum Voices a Displaced People in Action. Y nod yw amlygu realiti anodd y profiad o fod yn geisiwr lloches neu ffoadur. Bydd yr arddangosfa yno tan ddiwedd Awst ac yn dilyn eu teithiau – sy’n aml yn llawn trafferthion a gofid – y broses o geisio lloches a sut y bydd pobl yn ailadeiladu eu bywydau yn Abertawe.

Meddai Emily Robertson, Rheolwr Project yn City of Sanctuary: “Er taw dim ond 1% o ffoaduriaid y byd sy’n dod i’r DU (mae’r rhan fwyaf yn aros yn eu mamwlad neu wlad gyfagos) mae’r rhai hynny sy’n cyrraedd yn gwneud cyfraniad positif anferth i ddinasoedd a threfi. Mae hyn i’w weld mewn amryw fyrdd yn Abertawe, o’r gwirfoddolwyr mewn canolfannau teuluol lleol ac elusennau, i’r amrywiaeth o fwyd y byddwn yn ei fwyta a’r doctoriaid fydd yn ein cynghori yn ein hysbytai. Drwy ddod i’r digwyddiad ar ddydd Sadwrn 16 Mehefin, gall ymwelwyr weld â’u llygaid eu hunain y rhesymau dros ddathlu cyfraniad ffoaduriaid i’n dinas.”

Mae’r sefydliadau canlynol hefyd yn ymwneud â’r digwyddiad:

Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch

Show Racism the Red Card

Canolfan Tennis Bwrdd Abertawe

Cymdeithas Cwoitio Cymru

Y Groes Goch

Oxfam

YMCA

Tîm Cefnogaeth Ieuenctid Ethnig

Y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Project Peace

Fferm Gymunedol Abertawe

Heddlu De Cymru, Yr Uned Troseddau Casineb

Displaced People in Action

Gr?p Menywod GCCLlBA

City of Sanctuary Abertawe

Oeddech chi’n gwybod?

Mae ffoaduriaid wedi cyfrannu at gymdeithas y DU erioed ac wedi cael effaith sylweddol ar chwaraeon.

Yn 2009, Anne Keothavong oedd y chwaraewraig tennis gyntaf o Brydain ers 16 mlynedd i gyrraedd 50 uchaf y byd. Ffodd ei rhieni o Laos yn ystod Rhyfel Fietnam.

Arferai Mario Stanic chwarae i Chelsea, ond cyn Rhyfel Bosnia roedd yn chwarae i Sarajevo F.C.

Ffoadur o Liberia oedd Christopher Wreh a enillodd Uwchgynghrair a Chwpan FA Lloegr gydag Arsenal.

DIWEDD

Mae croeso i aelodau’r wasg a’r cyfryngau fynychu’r digwyddiad ar ddydd Sadwrn 16 Mehefin. Cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616 am ragor o wybodaeth.

Mae City of Sanctuary yn fudiad cenedlaethol o bobl leol, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau sy’n unedig yn eu dymuniad i groesawu pobl sy’n chwilio am noddfa rhag rhyfel neu erledigaeth i’w dinasoedd. Am ragor o wybodaeth am City of Sanctuary Abertawe, ewch i http://www.cityofsanctuary.org/swansea

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe