Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan yn dod a Thŷ Masnachwr o Hwlffordd cyfnod y Tuduriaid yn fyw

Tŷ bychan o Hwlffordd yn niwedd y canol oesoedd yw'r adeilad diweddaraf i gael ei ailgodi yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru a bydd yn cael ei agor i'r cyhoedd yn swyddogol ar ddydd Llun 2 Mehefin am 2pm.

Caiff ymwelwyr eu croesawu i'r tŷ wrth i actorion ail-greu ddefnyddio sgiliau traddodiadol i goginio'r pryd cyntaf ar yr aelwyd ers i'r adeilad gyrraedd yr Amgueddfa.

Hwn yw’r ail adeilad yn unig o Sir Benfro i gael ei ailadeiladu yn yr Amgueddfa, yn dilyn agor gweithdy’r crydd clocsiau o gyffiniau Ysgeifiog ger Solfach y llynedd.

Cafodd y gwaith ailadeiladu ei gofnodi’n ddiweddar raglen ddogfen BBC2 ‘Brick by Brick’ ac o 2 Mehefin gall ymwelwyr brofi bywyd a gwaith tŷ masnachwr o oes y Tuduriaid drostynt eu hunain.

Yn wreiddiol, cafodd y tŷ bychan ei adeiladu â’i gefn at lethr coediog, serth y tu ôl i Heol y Cei yn Hwlffordd ac awgryma’r lleoliad gwreiddiol, mor agos at y cei, taw tŷ masnachwr ydoedd. Mae’r bensaernïaeth gadarn, gyda’r seler bwaog, yn debyg i technegau adeiladau cestyll a byddent yn cael eu defnyddio’n aml yn nhai preifat Sir Benfro yn y cyfnod.

Mae’n debyg taw prynu a gwerthu nwyddau ddeuai drwy harbwr prysur Hwlffordd fyddai’r perchennog. Byddai’r trigolion yn byw ar y llawr uwch mewn un ystafell gyda thân agored yn un wal ac yn cysgu mewn croglofft fechan. Roedd tŷ bach ger y tân oedd yn gwacau i gwter y tu allan i’r adeilad. Storfa fyddai’r seler bwaog lle cai nwyddau gwerthfawr fel grawn, gwlân, crwyn, halen, pysgod, sebon, caws neu gasgenni gwin eu cadw cyn eu gwerthu.

Rydyn ni wedi defnyddio celfi replica i ddodrefnu’r tŷ fel y byddai oddeutu 1580 – erbyn hynny byddai nwyddau yn cael eu masnachu â Bryste a gorllewin Lloegr yn ogystal ag ar hyd arfordir Cymru, Llydaw, Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Portiwgal a gogledd America. Yn ystod oes Elisabeth I, roedd Hwlffordd yn dref gosmopolitaidd brysur a gai ei chyfri’n ail ganolfan fasnach bwysicaf Cymru yn ôl George Owen (ym 1603).

Meddai Gerallt Nash, Uwch Guradur, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd bod Tŷ Hwlffordd ar agor i’r cyhoedd.

“30 mlynedd yn ôl cafodd y tŷ rhyfedd ger y cei yn Hwlffordd ei ddatgymalu gan dîm o brentisiaid ifanc, ac mae’r un criw bellach wedi ailadeiladu’r tŷ yma yn Sain Ffagan.

“Mae’n ychwanegiad gwych i’r casgliad o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol sydd wedi cael eu hailgodi yma yn yr Amgueddfa. Gall ymwelwyr ddysgu mwy am gyd-destun hanesyddol yr adeilad hyfryd hwn a gweld sut y meistrolodd y Tuduriaid y moroedd a dychwelyd i Gymru gyda nwyddau a syniadau newydd o Ewrop a thu hwnt.”