Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lansio Oriel Cyflawnwyr 'Chwaraeon a Diwydiant'

Ar ddydd Gwener (6 Gorffennaf), bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn agor Chwaraeon a Diwydiant, oriel ar ei newydd wedd yn dathlu llwyddiannau Cymry byd y campau.

Mae’r oriel yn ymdrin âr berthynas a’r pontio rhwng bywyd diwydiannol Cymru a chwaraeon o’r 1800au hyd heddiw, ac yn edrych ar y tyfodd chwaraeon yn weithgaredd cymdeithasol a chymunedol pwysig o ganlyniad i effaith y chwyldro diwydiannol ar fywydau pobl.

Mewn cyfnodau o gynni a dirwasgiad diwydiannol, roedd gan chwaraeon ran i’w chwarae wrth godi ysbryd y bobl. Gallai chwaraeon proffesiynol fel bocsio fod yn ffodd o ddianc rhag gwaith brwnt neu beryglus. Bu twf y cyfryngau torfol, gwell cyswllt trafnidiaeth a’r teledu yn ffactorau pwysig wrth i boblogrwydd chwaraeon gynyddu.

Mae’r oriel ar ei  newydd wedd yn ymdrin â phum cyfnod diwydiannol penodol yng Nghymru a lle chwaraeon ym mhob cyfnod:

1851-1914 – Arweiniodd twf cyflym diwydiannau megis glo, copr, plwm, haearn, llongau a thecstilau at chwarae gemau gwledig traddodiadol mewn ardaloedd diwydiannol.

1914-1945 – Daeth diwedd y Rhyfel Mawr a dirwasgiad economaidd 1929 â lleihad yn y galw am lo, haearn, dur a thunplat a dioddefodd cymunedau diwydiannol Cymru yn fawr wrth i weithwyr gael eu diswyddo neu gael eu rhoi ar gyflog is. Ond roedd chwaraeon yn bwysig wrth godi hwyliau’r bobl a daeth biliards, snwcer, dartiau, a thenis bwrdd yn gampau poblogaidd mewn clybiau a thafarndai ledled Cymru.

1945-1960 – Gwawrio cyfnod newydd i Gymru. Adfywiwyd diwydiant yng Nghymru drwy wladoli busnesau a golygai’r twf economaidd a dyfodiad y teledu i ystafelloedd byw y wlad y gallai pobl gefnogi eu hoff dimau yn eu tai eu hunain.

1960-1980 – Newidiodd ffordd o fyw nifer yng Nghymru yn sylweddol wrth i gyflogau godi gan galluogi pobl i brynu’r dechnoleg ddiweddaraf a theithio ymhellach yn eu ceir eu hunain. Roedd enwogion byd y campau yn dod yn sêr oedd yn ennill arian tu hwnt i freuddwydion eu rhagflaenwyr.

1980-heddiw – Effeithiodd dirywiad parhaus y diwydiannau trwm yn fawr ar gymunedau ledled Cymru, gyda phyllau’n cau, streiciau a phrotestiadau aflwyddiannus. Roedd perfformiadau gwael y timau cenedlaethol fel petaent yn adlewyrchu’r anobaith a mwy o amrywiaeth yn y ddarpariaeth addysg gorfforol mewn ysgolion yn adlewyrchu’r lleihad ym mhwysigrwydd y chwaraeon tîm traddodiadol. Codwyd calonnau’r genedl fodd bynnag gyda throad y ganrif. Dangosai datganoli a chreu Llywodraeth Cymru falchder newydd mewn Cymreictod. Poblogeiddiwyd y term ‘Cool Cymru’ ac adeiladwyd Stadiwm y Mileniwm ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 1999 gan ddod â hyder newydd i Gymru.

Yn ogystal ag adrodd yr hanes hwn trwy gyfrwng cyfres o baneli ac wynebau enwog o fyd y campau, mae’r oriel yn arddangos amrywiaeth o wrthrychau wedi eu benthyg gan gyfranwyr – megis esgidiau’r peldroediwr Robbie Savage, menig bocsio’r ‘Peerless’ Jim Driscoll a chiw snwcer Jack Carney.

Yno hefyd am gyfnod byr bydd lithograff ar bapur gan yr artist Toulouse-Lautrec o’r beiciwr Jimmy Michael, pencampwr byd yn y maes, ardal wisg ffansi ac ardal sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr gysylltu arogleuon â chwaraeon gwahanol!

Bydd pobl oedd yn ymwneud â’r arddangosfa yn y lansiad ar ddydd Gwener yn ogystal â Non Evans, un o bersonoliaethau chwaraeon mwyaf llwyddiannus Cymru sydd wedi cynrychioli ei gwlad mewn pedair camp wahanol a’n siaradwraig wadd am y noson. Mae’n bennaf enwog am ei dawn ar y cae rygbi ers cynrychioli Cymru am y tro cyntaf ym 1996 a cafodd ei hurddo’n MBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar.

Meddai Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa, wrth siarad am yr oriel newydd: “Gyda chwaraeon bellach yn ddiwydiant mawr sy’n rhoi cyfle i bobl Cymru ddathlu eu hunaniaeth ar lwyfan rhyngwladol, rydyn ni’n falch iawn o roi llwyfan i rai o’n cyflawnwyr pennaf, o’r pencampwr cwoitio William ‘Dice’ Davies, y seren bêl-roed Ivor Allchurch, y bocsiwr Eddie Thomas a seren rygbi heddiw Shane Williams.”