Datganiadau i'r Wasg

Baneri o Bedwar Ban

Bydd cyfle i blant greu, dylunio a hedfan eu barcutiaid eu hunain mewn gweithdy arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Drwy gydol yr wythnos (tan ddydd Gwener 27 Gorffennaf) mae’r Amgueddfa yn cynnal gweithdy Baneri o Bedwar Ban am 12pma 2 pm. Darperir yr holl ddeunyddiau a bydd cyfle i hedfan y barcud yng Ngardd yr Iard ar ddiwedd y sesiwn.

Meddai’r Cynorthwy-ydd Digwyddiadau Andrew Kuhne: “Dyma’r cyntaf mewn cyfres o weithgareddau creadigol, llawn dychymyg y byddwn ni’n eu trefnu i ddiddanu’r plant dros yr haf. I ddathlu pencampwriaethau chwaraeon yr haf, bydd y plant yn derbyn cyngor ar sut i greu’r barcutiaid gorau wedi eu haddurno â baneri o bedwar ban byd. Bydd yn weithdy y gall pawb ei fwynhau.”

Yn goron ar y cyfan, mae Siop Barcutiaid G?yr Abertawe wedi rhoi barcutiaid gwych i ni ddefnyddio fel gwobrau.

Bydd gweithdy Baneri o Bedwar Ban yn cael ei gynnal am 12pm a 2pm bob dydd tan ddydd Gwener 27 Gorffennaf. Rhaid archebu ymlaen llaw, ffoniwch (029) 2057 3600 i gadw lle.

Am ragor o wybodaeth am yr holl digwyddiadau dros yr haf, ewch i http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?site=swansea