Datganiadau i'r Wasg

Darlith flynyddol ar y Gof a'r Fyddin Rufeinig yng Nghaerllion

Y Gof a’r Fyddin Rufeinig fydd y pwnc mewn darlith gyhoeddus yn yr Amgueddfa Lleng Rufeinig yng Nghaerllion ar ddydd Sul 23 Medi am 2pm. Pris tocynnau yw £3.50 ond rhaid archebu o flaen llaw drwy ffonio 02920 573550

 

Cyflwynir y ddarlith gan Yr Athro William Manning, Athro Emeritws Archaeoleg Rufeinig ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi bod wrthi am flynyddoedd yn astudio arfau ac offer haearn Rhufeinig.

Mae’r arfwisg a’r arfau metel a gyfrannodd gymaint at lwyddiant byddin Rhufain yn gyfarwydd i’r mwyafrif ohonom, ond faint tybed sy’n ymwybodol o’r myrdd o offer a chyfarpar oedd yn gymorth i’r fyddin wrth ei gwaith? Bydd y ddarlith hon yn trin y ddwy agwedd hon.

Dywedodd Victoria Le Poidevin, Swyddog Digwyddiadau yn yr Amgueddfa Lleng Rufeinig, “Rydyn ni’n bles iawn bod yr Athro Manning wedi derbyn ein gwahoddiad i gyflwyno ein darlith flynyddol. Mae’n bwnc hynod ddiddorol oherwydd roedd gwaith y gof yn holl bwysig i’r fyddin Rufeinig ac mae gan yr amgueddfa amrywiaeth eang o arfwisg ac arfau o’r cyfnod 2000 o flynyddoedd yn nol.”

Pris tocynnau yw £3.50 ond rhaid archebu o flaen llaw drwy ffonio 02920 573550