Datganiadau i'r Wasg

Digwyddiad cenedlaethol Come Draw with Me! yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Rhwng 6pm a 8.30pm ar 8 Tachwedd, bydd cyfle i ymuno â phum artist enwog ar gyfer digwyddiad arlunio unigryw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ymunwch â Brendan Stuart Burns, Laura Ford, Marega Palser, Stephen West a Sue Williams am noson arbennig yn orielau Celf Argraffiadol a Modern Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Pris y tocyn yw £25, gan gynnwys deunyddiau a lluniaeth.

 

Trefnwyd y digwyddiad arbennig gan The Campaign for Drawing gydag Amgueddfa Cymru ac fe’i noddir gan gwmni STAEDTLER. Dyma gyfle heb ei ail i rannu ysbrydoliaeth yr artistiaid ymhlith casgliadau byd-enwog, yn ogystal â hogi a datblygu eich sgiliau tynnu llun.

Dewch i archwilio 'rhythmau mewn gofod' gyda Brendan Stuart Burns a chreu model 3D dynamig fel ymateb i gerddoriaeth a’r Brif Neuadd. Dewch i greu naratifau gweledol unigol llawn dychymyg gyda Laura Ford, gan ddefnyddio swrrealaeth i’ch ysbrydoli. Ceisiwch gyfleu symudiad gyda Marega Palser (un hanner o Mr a Mrs Clark) wrth ddilyn dawnsiwr mewn gweithdy llawn cyffro a rhyddid. Bydd Stephen West yn gofyn i chi ymateb i gerfluniau Epstein, Gill a Gaudier-Brzeska trwy greu darluniau cyntefig, dynamig a gofalus. Bydd Sue Williams yn eich gwahodd i gyfarfod â Gwen John, a bydd Rodin a David Alston yn ymuno â chi yn ystod y noson. Dewch i ddarganfod yr ymddiddan personol sy’n sail i waith yr artistiaid arbennig hyn.

Meddai Sue Grayson Ford, Cyfarwyddwr The Campaign for Drawing:

“Mae pob artist wedi ymateb yn frwd iawn dros y digwyddiad, ac yn barod i’w gwneud yn noson i’w chofio. Rwy’n si?r y bydd y rheini sy’n cymryd rhan - yn ddechreuwyr neu’n arlunwyr profiadol - yn cael eu hysbrydoli gan eu brwdfrydedd. Diolch i STAEDTLER a Fabriano, mae’n gyfle hefyd i arbrofi gyda deunyddiau o’r radd flaenaf.”

Meddai Eleri Evans, Amgueddfa Cymru: “Yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rydyn ni wastad wedi cefnogi ymgyrch The Big Draw trwy gynnal digwyddiadau arlunio blynyddol i blant. Mae’n bleser gennym gynnal digwyddiad gwahanol i oedolion eleni. Dyma gyfle gwych i bobl gymryd rhan mewn modd creadigol llawn dychymyg yng nghwmni artistiaid adnabyddus, a’r cyfan yn ein horielau Celf Argraffiadol a Modern gwych.”

Pris tocyn yw £25 ar gael o’r wefan yn unig: www.bigdrawshop.co.uk

Noddwyd y digwyddiad gan STAEDTLER, ac mae’r papur yn rhodd hael gan Fabriano.