Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan yn lansio apêl am atgofion o un o dafarnau enwocaf Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, CF5 6XB
DATGANIAD I’R WASG
20 Medi 2012
Sain Ffagan yn lansio apêl am atgofion o un o dafarnau enwocaf Caerdydd
Mae curaduron Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn apelio am atgofion, delweddau a gwrthrychau wrth iddynt ymchwilio i hanes tafarn y Vulcan. 
The Vulcan Hotel yn Stryd Adam oedd un o dafarndai hynaf Caerdydd ac wedi Gorchymyn Prynu Gorfodol yn 2008, cael ei ddymchwel oedd ffawd yr adeilad. Ym Mai 2012 penderfynodd ei berchnogion Marcol Asset Management Ltd roi’r Vulcan fel rhodd i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Ers hynny, mae gweithwyr arbenigol Adran Adeiladau Hanesyddol yr Amgueddfa wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn mesur, dogfennu a dymchwel y dafarn cyn ei ailadeiladu yn Sain Ffagan.
Mae curaduron nawr yn gofyn am atgofion, delweddau, fideo a gwrthrychau i’w helpu i ddysgu mwy am hanes y Vulcan – yr adeilad, ei gwsmeriaid a’r bobl fu’n byw yno. 
Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:
“Pe bai waliau’n medru siarad gallem lenwi sawl cyfrol gyda hanesion y Vulcan. Ein nod nawr yw dogfennu rhai o’r straeon hynny a rhoi llais iddynt unwaith eto pan fyddwn yn ailagor y dafarn.”
“Byddem yn gwerthfawrogi pe bai’r cyhoedd yn gallu ein helpu drwy roi copïau o ffotograffau, dogfennau neu straeon am y dafarn, neu hyd yn oed bywyd ar Stryd Adam, i’n staff.”
Bu Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru ar ymweliad â’r safle i gyfarfod â staff yr Uned Adeiladau Hanesyddol a gweld hynt a helynt y gwaith. Meddai:
“Mae’r Vulcan wedi chwarae rhan ym mywyd cymunedol Caerdydd ers amser maith ac mae’n gyffrous iawn fod gennym gyfle i achub yr adeilad ar gyfer y genedl ac adrodd peth o hanes cyfoethog yr ardal. Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyfrannu swm sylweddol er mwyn gwella Sain Ffagan a datblygu’r Amgueddfa i fod yn atyniad o safon fyd-eang fydd wrth graidd y diwydiant ymwelwyr. Bydd y Vulcan yn rhan bwysig o’r gwelliannau hynny.”
Adeiladwyd y Vulcan yn wreiddiol ym 1853 i wasanaethu cymuned newydd, cymuned Wyddelig yn bennaf, yn Adamsdown a adwaenid bryd hynny fel New Town, Caerdydd. Yn ystod y broses o ddymchwel yr adeilad, mae wedi dod yn amlwg fod y tu fewn wedi gweld sawl newid dros y 150 mlynedd diwethaf ond mae’n ymddangos fod y ffasâd gwyrdd a gwyn adnabyddus wedi bod yr un fath ers tua 1915.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu wrthrychau a all fod o ddiddordeb, cysylltwch â Gerallt Nash neu Sioned Hughes drwy ffonio 02920 573500 neu e-bostio gerallt.nash@amgueddfacymru.ac.uk ; sioned.hughes@amgueddfacymru.ac.uk
Gofynnir i gyfranwyr ffonio ymlaen llaw i drafod cyn dod â gwrthrych i’r Amgueddfa. Ni all Sain Ffagan dderbyn gwrthrychau drwy’r post.
Pennawd y Llun: David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru ac Huw Lewis, the , Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru gyda arwyd eiconig tafarn ‘The Vulcan Hotel’ yn Stryd Adam, Caerdydd.
-DIWEDD-
NODIADAU I OLYGYDDION
Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau o Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, cysylltwch ag Iwan Llwyd, (029) 2057 3486 / 07920 027054 e-bost iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk