Datganiadau i'r Wasg

Taflu goleuni newydd ar baentiadau Turner yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mewn arddangosfa newydd sy’n agor ar ddydd Mawrth 25 Medi 2012 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd cyfle i weld y saith paentiad olew gan un o artistiaid mwyaf enwog Prydain, J. M. W. Turner (1775-1851), sydd yng nghasgliad Amgueddfa Cymru gyda’i gilydd.

Tan yn ddiweddar, dim ond pedwar o’r gweithiau gan Amgueddfa Cymru oedd yn waith swyddogol gan Turner, ond wedi gwaith ymchwil diweddar ac archwiliadau gan arbenigwyr yr Amgueddfa, a chyda help rhaglen y BBC, Fake or Fortune (heno 7pm, BBC One) cafwyd cadarnhad mai Turner yw artist y saith paentiad olew.

Y tri gwaith dan amheuaeth ac y tynnwyd sylw atynt yn rhaglen y BBC, Fake or Fortune, yw Yr Oleufa, Glanfa Margate a Ger Margate.

Cafodd y saith paentiad eu cymynroddi i’r Amgueddfa fel gweithiau gan Turner ym 1951 a 1963 gan Gwendoline and Margaret Davies. Mae’r chwiorydd Davies o Landinam fwyaf adnabyddus am eu casgliad argraffiadol, ond heb os, Turner oedd un o’u hoff artistiaid ac un o’r cyntaf iddynt ddechrau casglu ei waith. Rhwng 1908 a 1926, casglodd y chwiorydd Davies 13 dyfrlliw a 9 paentiad olew – casgliad helaeth. Er iddynt gael eu prynu ar adegau gwahanol ac o ffynonellau gwahanol, credwyd iddynt oll fod yn rhan o’r un gr?p bach o olygfeydd morol.

Cafodd amheuon am weithiau Turner y chwiorydd Davies eu codi gyntaf gan Agnews, y gwerthwyr celf, yn fuan wedi cymynrodd Gwendoline i’r Amgueddfa. Mewn nodyn gan y Ceidwad Celf at y Cyfarwyddwr ym 1955, nodwyd: ‘I find it hard to understand this criticism, but since it comes from that particular source, we are obliged to take it seriously.’

Cafodd y paentiadau eu harchwilio yn oriel y Tate gan arbenigwyr Turner a’u cymharu â gweithiau o gymynrodd Turner. Nid oedd y canlyniadau’n newyddion da i’r Amgueddfa gan mai dim ond dau o’r paentiadau olew gafodd eu cymeradwyo fel gwaith gan Turner, sef Y Bore wedi’r Llongddrylliad ac Y Bore wedi’r Storm. Teimlwyd bod y lleill yn weithiau ffug, gweithiau a ail-baentiwyd yn gyfangwbl gan eraill neu’n weithiau gwreiddiol gan eraill. O’r herwydd, cafodd y paentiadau eu tynnu o arddangosfeydd yr Amgueddfa.

Dros y blynyddoedd, mae arbenigwyr eraill wedi archwilio’r paentiadau a chynnig eu sylwadau arnynt. Mae’r safbwyntiau wedi amrywio, ond mae pob un o’r paentiadau yn y gr?p hwn wedi bod dan amheuaeth ar ryw adeg neu’i gilydd.

Dros y blynyddoedd, ail-briodolwyd rhai o’r paentiadau i Turner wrth i ni ddysgu mwy am dechnegau’r artist. Derbyniwyd dros y blynyddoedd diwethaf mai gwaith gan Turner yw Y Bore wedi’r Llongddrylliad, Y Storm, Y Bore wedi’r Storm ac Yr Oleufa. Mae’r rhan fwyaf o bobl hefyd wedi derbyn mai gwaith Turner yw Bad Hwylio ger Deal. Fodd bynnag, roedd amheuon difrifol yn parhau dros Glanfa Margate a Ger Margate. Roedd rhai cwestiynau heb eu hateb, er enghraifft, i ba raddau, os o gwbl, y cafodd y gweithiau eu hail-baentio gan berson arall.

Meddai Beth McIntyre, Curadur Printiau a Darluniau, Amgueddfa Cymru:

“Roeddem yn teimlo ei bod yn bryd ailasesu holl baentiadau’r gr?p ac roeddem yn ffodus i gael cymorth Philip Mould a Fiona Bruce o raglen y BBC, Fake or Fortune.

“Gyda fy nghydweithiwr, Adam Webster, Prif Gadwraethydd Amgueddfa Cymru, aethom yn ôl dros darddiad a hanes y gweithiau, aethom ati i astudio gweithiau eraill yn y stiwdio gadwraeth a thrafod ag arbenigwyr oriel y Tate, Ian Warrell, Uwch Guradur a Dr Joyce Townsend, Uwch Gadwraethydd Gwyddonol.”

Meddai Philip Mould, gwerthwr a hanesydd celf, ac un o gyflwynwyr Fake or Fortune:

“Rwy’n fodlon iawn ein bod wedi gallu dileu unrhyw farc cwestiwn dros y paentiadau hyn. Mae’n wych, nid yn unig i Gymru, ond hefyd er mwyn unioni unrhyw gam a gafodd y chwiorydd Davies. Mae unrhyw waith newydd gan Turner, yn enwedig o’r cyfnod hwn yn ei fywyd, yn gam mawr ymlaen yn hanes celf.”

Ychwanegodd Beth McIntyre:

“Gweddnewidiodd cymynrodd y chwiorydd Davies gymeriad, ansawdd ac ehangder casgliad celf cenedlaethol Cymru. Diolch iddyn nhw, mae gennym gasgliad celf wirioneddol wych yma ac mae’n bleser gennyf weld dirgelwch y tri phaentiad Turner diwethaf wedi ei ddatrys o’r diwedd, a’u bod unwaith eto’n cael eu harddangos.”

Mae mynediad i Amgueddfa genedlaethol Caerdydd am ddim diolch i gymorth Llywodraeth Cymru. Mae’r arddangosfa Golwg ar J. M. W. Turner: Casgliad y Chwiorydd Davies, sy’n cynnwys yr holl weithiau gan Turner a gymynroddwyd gan y chwiorydd i’r Amgueddfa yn parhau tan 20 Ionawr 2013.