Datganiadau i'r Wasg

ARTES MUNDI 5 - ARDDANGOSFA A GWOBR RHYNGWLADOL CYMRU 2012-2013

Arddangosfa: 6 Hydref 2012 – 13 Ionawr 2013 yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol Cymru                                                                                                        

Dyfarnu gwobr: 29 Tachwedd 2012

Mae Artes Mundi 5 yn falch i gyhoeddi manylion pellach am arddangosfa 2012, gan gynnwys gweithiau newydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer rhifyn eleni gan artistiaid y rhestr fer Miriam Bäckström, Tania Bruguera, Darius Mikšys a Apolonija Šušterši?, yn ogystalag ystod o weithiau ychwanegol gan artistiaid y rhestr fer Phil Collins, Sheela Gowda a Teresa Margolles. Bydd Artes Mundi 5 hefyd yn cynnwys rhaglen gref o berfformiadau gan artistiaid a digwyddiadau cyfranogol sy’n cynrychioli ffocws pwysig newydd ar gyfer arddangosfa a gwobr eleni.

 

AM YR ARDDANGOSFA A’R WOBR

Yn cychwyn o 6 Hydref 2012, bydd Artes Mundi 5 yn cynnwys gwaith saith artist cyfoes arloesol sy’n tyfu mewn pwysigrwydd rhyngwladol a’u harferion ymgysylltu â realiti cymdeithasol, profiadau bywyd a'r cyflwr dynol. Bydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol o dan do Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Am y tro cyntaf bydd Artes Mundi hefyd mewn partneriaeth â sefydliadau megis canolfan gelfyddydau amlddisgybledig Chapter yng Nghaerdydd, bydd yn darparu lleoliad ychwanegol i rai o’r gweithiau. Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni gwobrwyo arbennig ar 29 Tachwedd 2012 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gyda gwobr gyntaf o £40,000, Artes Mundi yw’r wobr ariannol fwyaf ar gyfer y celfyddydau yn y DU ac un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn y byd. Ar gyfer Artes Mundi 5 bydd pob artist ar y rhestr fer yn derbyn £4,000 a bydd un o’r artistiaid yn cael ei ddethol ar gyfer arddangosfa unigol, bydd yn cael ei gyflwyno yn 2014 yn y cyfnod yn arwain at Artes Mundi 6, bydd yng Ngaleri Mostyn, sydd wedi ei adnewyddu yn ddiweddar, yn Llandudno, Cymru. Bydd eleni hefyd yn cynnwys dewis y gynulleidfa am y wobr, sy’n galluogi’r cyhoedd i bleidleisio dros eu hoff artist a’i waith yn yr arddangosfa. Bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei ddatgelu pan fydd yr arddangosfa yn cau yn Ionawr 2013.

GWEITHIAU NEWYDD

Bydd yr artist o Sweden Miriam Bäckström yn cyflwyno tapestri newydd ar raddfa fawr, Gwenwch fel pe baech eisioes wedi ennill. Gan adlewyrchu ei hymarfer sy’n archwilio’r broses o greu ac ail-greu atgofion gan ddefnyddio ffotograffiaeth, testun, theatr a fideo, mae Gwenwch fel pe baech eisioes wedi ennill yn cymysgu cotwm, gwlân, sidan a Lurex, wedi gwehyddu i greu delwedd enfawr sy’n 3 medr o uchder a 12 medr o led. Bydd y tapestri, sy’n hongian mewn arch ar draws gwagle’r galeri, yn darlunio ffigyrau mewn ystafell sy’n cynnwys darnau bach o ddrych, gan greu’r teimlad bod y gwaith yn glawstroffobig ond eto’n ehangu’n ddiddiwedd.

Bydd yr artist Tania Bruguera o Giwba yn cyflwyno Ymgyrch Parch i Fewnfudwyr fel rhan o’i phrosiect celf hirdymor, Symudiad Mewnfudwyr Rhyngwladol (2010-2015). Mae’r gwaith yn symudiad gymdeithasol-wleidyddol a’i cychwynnwyd gan artistiaid sy’n archwilio beth sy’n diffinio ‘mewnfudwr’. Bydd yr ymgyrch yn dangos symbol y rhuban Parch at Fewnfudwyr ac yn cynnwys uwchdaflun o waith yr artist ar flaen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar Ddydd Iau 4 Hydref, yn unol ag ymgyrch posteri bydd ledled dinas Caerdydd. Bydd ymwelwyr yr arddangosfa yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn cael eu gwahodd i arwyddo Contract Ymrwymiad Moesol sy’n hyrwyddo hawliau mewnfudwyr.

Bydd Darius Mikšys, artist o Lithwania, yn cyflwyno darn newydd o waith Y Côd. Mae’n cymryd traethawd Egl? Obcarskait? am Mikšys ar gyfer cylchgrawn arddangosfa Artes Mundi 5, ac yn dadadeiladu’r testun i ‘termau chwilio’. Mae’r rhain wedi eu bwydo i mewn i’r saith gronfa data casglu yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac fel canlyniad bydd yn creu gosodiad unigryw sy’n ffurfio portread o’r artist a’i ymarferion trwy wrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa. Mae ymarfer Mikšys yn adnabyddedig am archwilio gosodiad fel modd o arbrofi, cysyniadoli ac ail-ddychmygu'r prosesau o wneud, arddangos ac ymgysylltu â chelf.

Bydd y pensaer ac artist gweledol Apolonija Šušterši? yn cyflwyno ei gwaith newydd Gwleidyddiaeth “Yn y Gofod” / Prosiect Tiger Bay, sy’n edrych ar ddatblygiad ardal Bae Caerdydd ers cwblheir y morglawdd. Bydd y prosiect hwn yn ehangu ar ei hymarfer sy’n ymateb i adfywio trefol cyfoes a materion cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol o'i gwmpas. Mae Šušterši? wedi ymgysylltu ag amryw o unigolion a sefydliadau sy’n ymwneud â neu yn erbyn y datblygiad, i archwilio ei orffennol, presennol a’i ddyfodol ar ffurf fideo.

GWEITHIAU CELF RYNGWLADOL BWYSIG

Mae uchafbwyntiau ychwanegol bydd yn cael eu harddangos yn cynnwys artist Prydeinig Phil Collins bydd yn cyflwyno ei waith ffotolab am ddim sy’n cynnig cipolwg i mewn i fywydau pobl ddieithr i’r gwyliwr. Cynigodd Collins gyfnewid prosesu a phrintio rholiau ffilm unigolion o wahanol ddinasoedd yn Ewrop, am hawl i’w defnyddio yn ei waith. Mae’r canlyniad yn sioe sleidiau naw munud o hyd sy’n cynnwys lluniau gwyliau, priodas, anifeiliaid anwes ac eiliadau preifat arall. Drwy ddefnyddio dulliau cysyniadol a dulliau sy'n seiliedig ar berfformiad gyda fideo a ffotograffiaeth, mae gwaith Collins yn aml yn archwilio’r hanfod o beth yw bod yn ddynol.

Mae cerflun haniaethol raddfa fawr, Kagebangara, gan yr artist o India Sheela Gowda, yn cynnwys drymiau tar sy’n tarddu o weithwyr ffordd Indiaidd, ochr yn ochr â tarpolin plastig melyn a glas. Mae hyn yn enghreifftiol o ymarfer cerfluniol a gosod Gowda i'r graddau y mae'n archwilio sut y mae defnyddiau yn gallu cyfeirio'n benodol i'r cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol o India. Yn y gwaith hwn mae Gowda yn cyfeirio’n gynnil at ddefnydd a ffynhonnell wreiddiol y deunyddiau, sydd yn yr achos hwn yn dod a llochesi i mewn i’r gofod oriel, fel y rhai a adeiladwyd gan y gweithwyr adeiladu mudol hyd ymyl y ffordd.

Ar ôl hyfforddi mewn meddygaeth fforensig, mae’r artist o Fecsico Teresa Margolles, yn edrych ar economeg marwolaeth trwy ymyriadau a pherfformiadau cerfluniol. Yn yr arddangosfa hon bydd yn cyflwyno un o'i cherfluniau 'amlsynhwyraidd'. Yn Plancha, mae d?r sydd wedi cael ei ddefnyddio i lanhau cyrff marw yn y marwdy yn diferu o'r nenfwd i blatiau poeth. Mae pob diferyn yn anweddu wrth daro ac yn achosi hisian amlwg. Bydd y gwaith yn ceisio adrodd y newid ar ôl marw o bryd presennol i absennol, y prosesau pydru ac yn y pendraw yn anrhydeddu bywydau dienw sydd wedi cael eu colli.

GWEITHIAU PERFFORMIAD A PHROSIECTAU ODDI AR Y SAFLE

Mae perfformiadau a phrosiectau oddi ar y safle sy’n cael eu hymddangos fel rhan o Artes Mundi 5 yn cynnwys Y Peth Anffodus Hwn Rhyngomgan Phil Collins. Wedi ei rannu'n ddau ddarllediad i gael eu sgrinio mewn carafanau retro yng nghwrt Canolfan Gelfyddydau Chapter, mae'r gwaith hwn yn cymryd y ffurf sianel telesiopa, ond yn hytrach na gwerthu nwyddau mae gan y gwylwyr ddewis o 'ffantasïau am brisiau hyrwyddo'. Cast o actorion o ystod o broffesiynau, gan gynnwys stand up, telesiopa a phornograffi bydd yn cyflwyno i drac sain byw gan Gruff Rhys a Y Niwl,  a bydd y gwylwyr yn cael eu gwahodd i wylio proses gwerthu a chyflawni'r profiadau hyn.

 

Bydd Miriam Bäckström yn cyflwyno dau berfformiad o’i drama Motherfucker yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter. Gan archwilio'r rolau, sefyllfaoedd a’r safbwyntiau cymhleth mewn perthynas, mae cyfarwyddwr benywaidd yn gofyn i actor gwrywaidd i greu cymeriad y mae hi eisiau cwrdd er mwyn gallu gadael. Bydd y defnydd o berfformiad yn gymysg â fideo byw yn creu paradocs rhwng y perfformiad go iawn a’r fideo cyfryngol sy'n cael eu dangos ar yr un pryd.

 

Mae prosiectau gan artistiaid eraill yn cynnwys y drafodaeth panel cyhoeddus Sioe Siarad Fyw, sy’n rhan o waith Apolonija Šušterši?, Gwleidyddiaeth “Yn y Gofod” / Prosiect Tiger Bay. Bydd yn trafod ailddatblygiad Bae Caerdydd gan anelu i ychwanegu at y dadleuon a godwyd yng ngosodiad Šušterši?. Yn ystod cyfnod pum diwrnod Experimentica 12, bydd g?yl gelf byw flynyddol Chapter, 1x1x1 yn dangos un ffilm, gan un artist, am un diwrnod yr un. Bydd yn cynnwys ffilmiau gan Teresa Margolles, Phil Collins, Tania Bruguera, Miriam Bäckström a Apolonija Šušterši? ac yn cael ei gynnal yn Oriel Chapter.

 

Dywedodd Ben Borthwick, Cyfarwyddwr Artistig Director, Artes Mundi:

Mae'n ddatblygiad cyffrous iawn i Artes Mundi fod gymaint o’r artistiaid rhyngwladol yn creu gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa. Trwy'r comisiynau hyn mae ymgysylltiad uniongyrchol gyda chyd-destun cymdeithasol ac economaidd Caerdydd, ailystyried casgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a myfyrio ar gymhlethdodau hunaniaeth unigol a chyfunol. Ac am y tro cyntaf bydd nifer o brosiectau yn cael eu cyflwyno tu allan i'r amgueddfa, gan gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac actifadu’r berthynas rhwng y gwaith celf a mannau cyhoeddus. "

 

Mae Banc America Merrill Lynch yn brif noddwr i Arddangosfa a Gwobr Artes Mundi 5 eleni. Fel cwmni sy’n gweini cleientiaid mewn dros 90 gwlad, mae wedi ymrwymo i raglen amrywiol o gefnogaeth ddiwylliannol. Mae llwyfan celf a diwylliant y cwmni yn elfen allweddol o'i strategaeth cyfrifoldeb corfforaethol ehangach sy'n ceisio datblygu atebion sylweddol i heriau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Nodiadau i Olygwyr:

 

Mae artistiaid noddedig 2012 yn cynnwys: Miriam Bäckström (Sweden), Tania Bruguera (Ciwba), Phil Collins (Lloegr), Sheela Gowda (India), Teresa Margolles (Mecsico), Darius Mikšys (Lithwania) and Apolonija Šušterši? (Slovenia).

Am fwy o wybodaeth, ceisiadaucyfweliad a delweddau, cysylltwch a

Lleucu Cooke | Swyddog Cyfathrebu

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales                                                                       

T +44 (0)29 2057 3175

E lleucu.cooke@museumwales.ac.uk

Neu ymwelwch â: www.artesmundi.org