Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn cyhoeddi apwyntiad cyfarwyddwraig newydd

Mae Ms Janice Lane wedi ymuno ag Amgueddfa Cymru y mis hwn fel Cyfarwyddwraig newydd â chyfrifoldeb dros addysg, arddangosfeydd a chyfryngau newydd.

 

Wrth ddychwelyd i Gaerdydd, bro ei mebyd, bydd Ms Lane yn gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ond yn arwain ar addysg, dehongli, arddangosfeydd a datblygiadau cyfryngol ar draw saith safle Amgueddfa Cymru.

Mae gan Ms Lane profiad helaeth yn y maes wedi 10 mlynedd o weithio i Amgueddfeydd Glasgow a Glasgow Life lle bu ddiwethaf yn Uwch-Reolwraig Amgueddfeydd. Mae ei phrofiad yn cynnwys rhoi arweiniad strategol i bedair Amgueddfa boblogaidd; Amgueddfa Riverside a gynlluniwyd gan Zaha Hadid, Oriel Gelf ac Amgueddfa Kelvingrove, Casgliad Burrell a’r Oriel Gelf Gyfoes. Hi oedd yn gyfrifol am addysg, cynhwysiant cymdeithasol, rhaglenni cyhoeddus, cyfryngau newydd a digidol, dehongli, datblygu gwaith allestyn a gwirfoddol, a phrofiad ymwelwyr ar draws y gwasanaeth.

Roedd ganddi gyfrifoldeb strategol dros addysg a dehongli ar gyfer rhai o brif prosiectau Amgueddfeydd Glasgow gan gynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Kelvingrove ac Amgueddfa Trafnidiaeth a Thechnoleg Riverside. Roedd ganddi hefyd rôl gorfforaethol yn Glasgow Life, gan gyfrannu tuag at eu polisiau ar newid sefydliadol, addysg, cyswllt a chynulleidfaoedd a chyfranogi.

Prawf o lwyddiant Ms Lane yw iddi ennill y wobr Menter Addysgiadol yng Ngwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth 2007 ar gyfer ‘Project Ysgolion ac Amgueddfeydd HLF Amgueddfeydd Glasgow’, a Gwobr 2008 SHAP am Rhagoriaeth mewn rhaglenni Addysg Grefyddol a Chelf, yn Amgueddfa Bywyd Crefyddol a Chelf St Mungo. Mae ei dyfeisgarwch wedi arwain at rhaglenni addysg a chyhoeddus llwyddiannus ac amrywiol dros wasanaeth amgueddfaol aml-leoliad.

Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson:

 

“Mae gan Janice Lane brofiad helaeth yn y sectorau amgueddfaol ac addysgiadol ac rwy’n falch iawn ei bod wedi ymuno â’n tîm yn Amgueddfa Cymru. Rydym ar drothwy cyfnod cyffrous i’r Amgueddfa ac i Gymru wedi llwyddo â chais Cronfa Treftadaeth y Loteri i ailddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Rwy’n hyderus bydd Ms Lane yn cyfrannu’n helaeth at ddatblygiad y prosiect a gwasanaethau newydd i’r cyhoedd yn Amgueddfa Cymru.”

 

Ychwanegodd Janice Lane:

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda chasgliadau hynod Cymru ac adeiladu ar y rhaglen bresennol er mwyn sicrhau statws saith safle Amgueddfa Cymru fel cyrchfannau diwylliannol pwysig, yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o ddyfodol Amgueddfa Cymru a gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid i gyflawni’n nod o fod yn amgueddfa gynhwysol ac amgueddfa ddysg o safon ryngwladol.”