Datganiadau i'r Wasg

Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb yng ngwaith Amgueddfa Cymru i fynychu cyfarfod chwarterol Bwrdd yr Amgueddfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 10.30am-12.30pm ar ddydd Iau 4 Hydref 2012.

 

Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr – corff llywodraethol Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu cyllid ac eiddo’r Amgueddfeydd – yr awdurdod i benderfynu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â materion Amgueddfa Cymru.

I fynychu’r cyfarfod, fydd yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg, cysylltwch â Elaine Cabuts ar ffon: 02920 573204 neu e-bostiwch: rsvp@amgueddfacymru.ac.uk.