Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn derbyn grant ar gyfer celf gyfoes

Mudiadau celfyddydol Cymru'n dod ynghyd i gydnabod cefnogaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston

Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn grant sylweddol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston i ddatblygu’r modd mae’n cyflwyno celf gyfoes ac i adeiladu ar lwyddiant agoriad yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol llynedd. Bydd yr Amgueddfa, ynghyd â mudiadau celfyddydol eraill o Gymru yn diolch i’r Ymddiriedolaeth yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heno (6.30pm, 11 Hydref 2012).

Bydd yr arian a roddwyd i’r Amgueddfa – sydd dros £250,000 – yn cael ei fuddsoddi mewn gweithgareddau addysgiadol, arddangosfeydd celf arwyddocaol newydd ac arddangosfeydd unigol gan artistiaid rhyngwladol yn ogystal â thri chomisiwn newydd dros y tair blynedd nesaf. Gallai’r Amgueddfa hefyd ddewis defnyddio £50,000 fel arian cyfatebol, tuag at brynu darn o waith celf newydd.  

 

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston gan Mathew Prichard – un o gefnogwyr hirdymor Amgueddfa Cymru. Sefydlodd Mr Prichard yr Ymddiriedolaeth gyda breindaliadau cynhyrchiad West End The Mousetrap, sydd ar daith ar hyn o bryd am y tro cyntaf ers 60 mlynedd ac yn cael ei berfformio yn y New Theatre yng Nghaerdydd yr wythnos hon. 

 

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi sawl mudiad ar draws Cymru gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Sinfonia Cymru, Coleg Byd Unedig yr Iwerydd ac Artes Mundi, a ddathlodd lansiad eu pumed arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wythnos diwethaf.

 

Meddai Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru:

 

“Ar ran Amgueddfa Cymru, hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston am ei hymroddiad a’i chefnogaeth i’n gwaith, sy’n galluogi’r Amgueddfa i fuddsoddi mewn arddangosfeydd a chomisiynau diddorol ac arloesol. Yn bersonol, hoffwn ddiolch i Mathew Prichard am ei ymroddiad cyson i ddiwylliant yng Nghymru.” 

Fel elusen, mae Amgueddfa Cymru wrth ei bodd y bydd y gefnogaeth hon yn ei galluogi i brynu darn o waith celf newydd pan fo arian cyhoeddus yn brin. 

 

Meddai John Walmsley, Prifathro Coleg Byd Unedig yr Iwerydd, y coleg chweched dosbarth rhyngwladol yng Nghastell Sain Dunwyd, Bro Morgannwg: 

 

“Mae Ymddiriedolaeth Setliad Mousetrap ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston wedi bod yn gefnogwyr brwd o Ganolfan Gelfyddydol Sain Dunwyd. Mae’n berthynas sy’n werthfawr iawn i ni. Rydym yn hynod falch bod Mathew wedi cytuno i gefnogi adnewyddu llyfrgell y coleg yn Llyfrgell Agatha Christie Library, gyda chyfraniad sylweddol. Bydd mynediad i’r fath adnodd yn gwella’n sylweddol y profiad addysgiadol unigryw a gynigir i dros 350 o fyfyrwyr o bedwar ban byd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Mathew am nodi a dathlu pen-blwydd The Mousetrap yn60 a’r Coleg yn 50 oed yn y fath fodd.”