Datganiadau i'r Wasg

O Blith y Bleiddiaid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ydych chi byth wedi meddwl am gyndeidiau eich ci anwes? Ydych chi byth wedi ystyried pam fod gwartheg o wahanol liwiau neu cymaint o wahanol ddefaid? Nod arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin yma ac adrodd hanes ein anifeiliaid fferm dof a’n hanifeiliaid anwes.

 

Mwynhewch O Blith y Bleiddiaid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 13 Hydref a dysgwch pam taw blaidd i bob pwrpas yw’ch ffrind ffyddlon pedair coes!

 

Boed yn gig a llaeth neu gyfeillgarwch ffyddlon, mae anifeiliaid dof wedi cyfrannu cynnyrch, gwasanaeth ac oriau o waith sydd wedi cael effaith ddofn ar hanes dyn. Fel bwyd yn unig y byddai’r dynion cynharaf yn trin anifeiliaid ond sylweddolodd yn y pen draw y gallent fod yn ddefnyddiol i weithio, creu dillad, gwarchod a chludo.

 

Mae anifeiliaid gwyllt yn naturiol yn warchodol o’u hunain ac yn ddrwgdybus o anifeiliaid eraill, ond mae dyn wedi llwyddo i newid yr ymddygiad hwn. Dros amser, mae rhai anifeiliaid wedi addfwyno a dechrau ufuddhau gorchmynion dyn – dofi yw’r enw ar hyn. Proses yw hon lle mae rhywogaeth gyfan yn esblygu i fyw yn naturiol ymhlith dynion ac i ryngweithio â nhw.

 

Mae’r arddangosfa hon yn orielau hanes natur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn esbonio’r broses o ddofi drwy ganolbwyntio ar anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm cyffredin gan ddangos sut mae dofi wedi newid mewn tri gr?p, a hynny weithiau’n ddramatig. Y Ci – yr anifail cyntaf i’w ddofi; Y Ddafad – dofwyd flynyddoedd maith yn ôl ac mae bellach dros 1,000 o fridiau gwahanol; Yr Iâr – anifail a ddofwyd yn gymharol ddiweddar. Yn ogystal â sgerbwd cyflawn ceffyl a buwch, bydd penglogau a sbesimenau wedi’u stwffio o nifer o anifeiliaid dof eraill gan gynnwys moch, geifr a gwartheg yn yr arddangosfa.

 

Gall dofi newid golwg anifeiliaid, a hynny i raddau helaeth weithiau. Sylwodd gwyddonwyr fod cysylltiad agos iawn rhwng c?n a bleiddiaid ar ôl cymharu eu genynnau. Mor agos, mewn gwirionedd, nes eu bod nhw’n ystyried ci fel isrywogaeth o’r blaidd yn hytrach na rhywogaeth ar ei phen ei hun. Nod bridwyr amaethyddol yw gwella nodweddion yr anifail – faint o laeth neu wlân mae’n ei gynhyrchu, pa mor gyflym mae’n tyfu, gwytnwch yr anifail ac os yw’n dda am ymladd afiechyd.

 

Bridiwyd c?n yn draddodiadol i hela, gwarchod, neu weithio gydag anifeiliaid fferm. Byddent yn cael eu dewis ar gyfer tasgau gwahanol yn ôl eu siâp a’u tymer. Dim ond yn y 200 mlynedd diwethaf y dechreuwyd bridio c?n am eu golwg, yn hytrach na’u hymddygiad.

 

Meddai Pete Howlett, “Heddiw, rydyn ni’n cymryd anifeiliaid dof yn ganiataol. Fodd bynnag, mae dofi wedi bod yn hanfodol i esblygiad cymdeithas dyn a hebddo, ni fyddai gennym y sicrwydd o fwyd na’r pleser y caiff miliynau o’u hanifeiliaid anwes. Mae’n bwnc diddorol iawn a credwn y bydd ein hymwelwyr yn gallu uniaethu â’r arddangosiad ac yn ei fwynhau yn fawr. Mae’n gyfle i ateb rhai o’r cwestiynau anodd hynny am ein hanifeiliaid dof!”

 

Bydd cyfle i ddysgu am ochr wyllt eich cath neu gi anwes yn y gweithdai i’r teulu – Teigrod Dof a Bleiddiaid sy’n Bihafio – dros hanner tymor 27 Hydref–2 Tachwedd, 11.30am, 1.30 a 3.30pm.