Datganiadau i'r Wasg

Mae Amgueddfa Cymru wedi caffael dau baentiad newydd diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Gronfa Gelf

Heddiw (17 Hydref 2012), mae Amgueddfa Cymru yn dathlu dau ychwanegiad newydd i’r casgliad celf – Plasty Margam, Morgannwg, tua’r De a Plasty Margam, Morgannwg, tua’r Gogledd – gafodd eu caffael diolch i grantiau hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Gelf.

 

Prynwyd y ddau baentiad panoramig mawr o Blasty Margam, sydd i’w gweld am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, trwy werthiant cytundeb preifat trwy law Sotheby’s am £218,500.

 

Y gweithiau, o ddechrau’r 18fed ganrif, yw’r unig gofnodion sylweddol o un o dai Tuduraidd mwyaf Cymru. Teulu Mansel oedd y perchnogion, y teulu bonedd pwysicaf ym Morgannwg y Tuduriaid a’r Stiwartiaid. Datblygwyd yr ystâd o hen adeiladau mynachlog Sistersaidd ac fe’i dymchwelwyd ganrif yn ddiweddarach.

 

Yn ogystal â phensaernïaeth y plasty a chynllun y gerddi baróc coeth, mae’r paentiadau’n gofnod o geirw’r parc, y pentref cyfagos, teithwyr yn pasio heibio ar droed ac ar gefn ceffyl, llongau arfordirol ym Môr Hafren, a’r cyfan oll o fewn tirwedd amaethyddol ffyniannus a threfnus.

 

Mae’r dirwedd wedi newid yn llwyr yn ystod yr ugeinfed ganrif gyda dyfodiad traffordd yr M4 a gwaith dur Port Talbot ac, o’r herwydd, mae’r paentiadau’n creu cyfle gwych i ymgysylltu â chynulleidfaoedd lleol. Meddai Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru:

 

“Tan nawr, doedd dim ‘paentiadau ystâd’ cynnar yng nghasgliad yr Amgueddfa, ac rydym yn gobeithio y bydd y ddau baentiad yn ychwanegiad poblogaidd a hygyrch, diolch i haelioni Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Gelf.

 

“Bydd y paentiadau’n cael eu defnyddio ar gyfer addysg ffurfiol ac anffurfiol. Yn benodol, byddant yn cael eu defnyddio gan ysgolion a grwpiau cymuned yn ardal Castell-nedd Port Talbot i astudio’r newidiadau yn yr ardal dros y tri chan mlynedd diwethaf. Rydym hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gael cefnogaeth Parc Margam a’i Gyfeillion yn ystod y broses gaffael, ac rydym yn gobeithio y bydd y berthynas â’r ardal hon yn parhau.”

 

Bydd y paentiadau’n cael eu harddangos yn yr Amgueddfa, o dan yr un to â phortread pwysig o adeiladwr y t?, Syr Thomas Mansel, a’i wraig Jane, sy’n dyddio o’r 1620au. Mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi ymrwymo i raglen o ddigwyddiadau ac arddangosfa deithiol o’r paentiadau ledled Cymru.

 

Dyfarnodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri £142,300 i’r Amgueddfa er mwyn sicrhau y gellid caffael y paentiadau ac er mwyn cynnal rhaglen gysylltiedig o ddigwyddiadau i’r cyhoedd er mwyn eu haddysgu am bwysigrwydd y gweithiau. Meddai Carys Howell, Aelod Cymru ar Bwyllgor yr HLF:

 

“Mae Parc a Phlasty Margam yn boblogaidd iawn ymhlith y bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae gan y plasty hanes hynod o ddiddorol a bydd y paentiadau hyn yn ysbrydoli ymwelwyr i ddysgu mwy am hanes yr adeilad, gweld sut oedd y plasty’n edrych yn y ddeunawfed ganrif a dychmygu sut beth oedd bywyd i’w drigolion.” 

 

Meddai Stephen Deuchar, Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf:

 

“Trwy ddod â’r paentiadau hynod hyn i Amgueddfa Cymru, mae gennym ni oll gyfle i gamu yn ôl mewn amser i weld tirwedd hanesyddol sydd wedi gweddnewid dros y can mlynedd diwethaf.”