Datganiadau i'r Wasg

DIGWYDDIAD – HANNER TYMOR LLAWN YN AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Mae’n wyliau ysgol am wythnos ond bydd digon o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddiddori’r plant dros hanner tymor 27 Hydref – 2 Tachwedd. Mae rhywbeth yma at ddant pawb, celf, archaeoleg, hanes natur a daeareg – a mynediad am ddim!

 

Ble arall allwch chi weld llygoden dditectif sy’n hoff o gaws ac ymladdwr tân dewraf Cymru? Ymunwch â ni a rhai o’ch hoff gymeriadau i ddathlu lansiad arddangosfa Animeiddio Cymru gyda diwrnod o weithgareddau am ddim i’r teulu cyfan ar 27 Hydref,  11am-4pm. Mae Cymru wedi bod wrth galon y diwydiant animeiddio ers bron i ganrif, ac mae cymeriadau fel Jerry the Tyke a SuperTed, Sam Tân a Rastamouse yn fyd-enwog.

Dewch i weld natur wyllt eich ci neu gath anwes yng ngweithdai teuluol Teigrod Dof a Bleiddiaid sy’n Bihafio, 27 Hyd–2 Tach, 11.30am, 1.30 a 3.30pm. Oeddech chi’n gwybod taw blaidd i bob pwrpas yw’ch ffrind ffyddlon pedair coes? Mae’r gweithdai yn ategu arddangosfa newydd O Blith y Bleiddiaid sy’n adrodd hanes anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm dof. Ydych chi byth wedi meddwl am gyndeidiau eich ci anwes? Ydych chi byth wedi ystyried pam fod gwartheg o wahanol liwiau neu cymaint o wahanol ddefaid? Nod arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin yma.

Dathlu wythnos Big Draw drwy arbrofi â thechnegau darlunio gwahanol wrth archwilio rhai o’r gweithiau yn arddangosfa Artes Mundi a chreu eich gweithiau celf eich hun. 30 Hydref – 2 Tachwedd, 11am, 1pm a 3pm.