Datganiadau i'r Wasg

Hwyl Hanner Tymor a Chalan Gaeaf yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dim cynlluniau dros Hanner Tymor a Chalan Gaeaf eleni? Mae digon i’w wneud yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion gyda gweithgareddau di-ri i ddiddori’r plant dros y gwyliau.

 

Bydd Wythnos Geltaidd yn yr Amgueddfa dros hanner tymor 29 Hydref – 2 Tachwedd, 11am-4pm! Dysgwch fwy am y Celtiaid oedd yn byw yng Nghaerllion cyn oes y Rhufeiniaid yn ein gweithdy i’r teulu. Gwisgwch fel y Celtiaid a phaentio eich wyneb neu’ch braich fel rhyfelwr. Gwnewch emwaith Celtaidd i’w gwisgo, hyfforddwch fel rhyfelwr a dilynwch Daith y Derwyddon. £2 y plentyn.

31 Hydref, Calan Gaeaf – pan fydd ysbrydion ac ellyllon yn crwydro’r ddaear, ac mae rhai wedi cyrraedd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Galwch draw am noson ddychrynllyd o dda i’r teulu cyfan! Ymunwch yn yr hwyl a’r gemau o 6-8pm. £3 i blant, £2 i oedolion. Tocynnau wedi archebu ymlaen llaw yn unig. Prynwch wrth y Dderbynfa.

Galwch draw i fwynhau straeon ac i ennill gwobr am y wisg ffansi orau ar noson fwyaf brawychus y flwyddyn! Pwy sy’n ddigon dewr i wynebu’r Dewin yn yr ystafell frawychus? Heriwch eich trwynau yng ngêm ofnadwy’r wrach. Gwyliwch am y milwr Rhufeinig marw sy’n crwydro’r ardd!