Datganiadau i'r Wasg

Darganfod sgerbwd yn Llanbedrgoch, Ynys Fôn yn taflu rhagor o oleuni ar y Llychlynwyr yng Nghymru

Mae gwaith cloddio diweddar gan archaeolegwyr Amgueddfa Cymru mewn anheddiad o oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn, wedi taflu goleuni pwysig newydd ar effaith diwylliannau Eingl-Sacsonaidd a Llychlynnaidd yn ardal Môr Iwerddon.

 

Cafodd y sgerbwd newydd ei ddarganfod mewn bedd bas gyda’r corff ar ogwydd anarferol (ar gyfer y cyfnod hwn yng Nghymru) nad yw ychwaith yn dilyn arferion Cristnogaeth. Mae hyn, a’r driniaeth o’r corff, yn awgrymu gwahaniaethau rhwng arferion claddu Cristnogion a chymunedau eraill yn ystod y ddegfed ganrif.

 

Mae’r gladdedigaeth yn ychwanegiad annisgwyl at gr?p o bump arall gafodd eu darganfod ym 1998-99 (dau yn eu harddegau, dau oedolyn gwrywaidd ac un benywaidd). Yn wreiddiol, credwyd mai dioddefwyr ymosodiadau’r Llychlynwyr oeddent, a gychwynnodd yn yr 850au, ond mae’r ddamcaniaeth hon yn cael ei hadolygu bellach. Mae dadansoddiad isotop sefydlog gan Dr Katie Hemer o Brifysgol Sheffield yn awgrymu nad oedd y gwrywod yn frodorion o Ynys Môn, ac mae’n bosib iddynt dreulio eu blynyddoedd cynnar (tan eu bod yn saith oed o leiaf) yng ngogledd-orllewin yr Alban neu yn Sgandinafia. Bydd y gladdedigaeth newydd yn darparu tystiolaeth bwysig ychwanegol er mwyn datgelu mwy am gyd-destun eu claddedigaethau diseremoni mewn beddi bas tu allan i’r anheddiad caerog tua diwedd y ddegfed ganrif.

 

Yn ystod y cloddiadau newydd eleni, mae nifer o wrthrychau eraill hefyd wedi dod i’r fei gan gynnwys ffitiadau cleddyfau/gwain arian ac efydd o’r seithfed ganrif sy’n awgrymu presenoldeb milwyr elît ac y cafodd offer milwrol ei ailgylchu yn ystod cyfnod o gystadlu a rhyfelgyrchu rhwng y teyrnasoedd. Yn ôl Bede, roedd y ffindir rhwng y Cymry a’r Saeson rhwng OC610 a’r 650au yn darged i ymosodiadau gan bobl Northymbria. Gorchfygodd y brenin Edwin o Northymbria Ynys Môn ac Ynys Manaw, tan i Cadwallon ffurfio cynghrair gyda Penda o Mersia a goresgyn Lloegr gan ladd Edwin yn AD633. Bu’r ddau’n teyrnasu dros ogledd-ddwyrain Cymru a Northymbria am flwyddyn.

 

Mae Llanbedrgoch yn un o aneddiadau mwyaf diddorol y cyfnod ac mae Adran Archaeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru wedi treulio deg haf yn gwneud gwaith maes yno. Mae’r canlyniadau wedi newid ein hamgyffred o Gymru yn ystod cyfnod y Llychlynwyr. Cafodd y safle ei darganfod ym 1994 wedi i’r Amgueddfa gael cais i adnabod nifer o wrthrychau gafodd eu darganfod â datguddwyr metel. Roedd y darganfyddiadau’n cynnwys ceiniog Eingl-Sacsonaidd Cynethryth (bathwyd yn OC 787-792), ceiniog Wulfred o Gaergaint (bathwyd tua OC 810), ceiniogau Carolingaidd o’r nawfed ganrif a chyfnod Lewis Dduwiol a Siarl Foel, a thri phwysyn plwm o fath Llychlynnaidd.

 

Mae cloddiadau blaenorol gan yr Adran Archaeoleg a Niwmismateg rhwng 1994 a 2001 wedi datgelu tipyn am ddatblygiad y ganolfan fasnachu bwysig hon yn ystod diwedd y nawfed ganrif a’r ddegfed ganrif, ond mae datblygiad y safle yn y cyfnod cyn hynny’n dal i fod yn fwy aneglur.

 

Meddai cyfarwyddwr y cloddiad a Cheidwad Dros Dro Archaeoleg, Dr Mark Redknap, “Mae cloddiadau 2012 wedi datgelu agweddau annisgwyl er enghraifft y gladdedigaeth ychwanegol, gan ddarparu tystiolaeth bwysig ychwanegol am y clwstwr anarferol hwn o feddau a’i gyd-destun hanesyddol. Ond mae hefyd wedi rhoi i ni ddata gwerthfawr newydd am ddatblygiad y safle cyn cyfnod y Llychlynwyr. O dan adran o’i ragfur carreg 2.2m o led, a adeiladwyd yn y nawfed ganrif, daeth ein tîm o fyfyrwyr a gwirfoddolwyr o hyd i dir claddedig cynharach a nifer o ffosydd, a throstynt roedd tomen sbwriel canoloesol cynnar yn llawn gwastraff bwyd a rhai gwrthrychau a daflwyd.”

 

“Cafwyd hyd i wrthrychau eraill hefyd gan gynnwys arian wedi’i ranweithio, gwastraff o gastio arian a darn o geiniog arian Islamaidd (fyddai wedi cael ei chyfnewid ar hyd y llwybrau masnach o ganolbarth Asia i Sgandinafia a thu hwnt). Mae’r rhain yn cadarnhau pwysigrwydd Llanbedrgoch yn ystod y ddegfed ganrif fel canolfan gweithgynhyrchu a masnachu nwyddau.”