Datganiadau i'r Wasg

Dyngarwyr yn rhoi casgliad celf fodern a chyfoes i Amgueddfa Cymru

Mae’n bleser gan y Gymdeithas Celf Gyfoes gyhoeddi un o’r rhoddion dyngarol pwysicaf mewn 100 mlynedd o fodolaeth y gymdeithas, rhodd fydd yn cyfoethogi casgliadau cyhoeddus ledled y DU am genedlaethau i ddod.

Er mwyn cefnogi celf gyfoes yn y DU, mae’r casglwyr adnabyddus Eric a Jean Cass wedi rhoi dros 300 gwaith celf modern a chyfoes pwysig o’u casgliad personol i’r Gymdeithas Celf Gyfoes i’w rhannu ymhlith sefydliadau cyhoeddus. Daw cyfanswm gwerth y casgliad i fwy na £4 miliwn. Mae’n un o gasgliadau celf gyfoes a modern mwyaf unigryw a nodedig y wlad ac yn ffrwyth casglu dros bron i 40 mlynedd. Fe’i cedwid cyn hyn rhwng muriau ac yng ngerddi ‘Bleep’, cartref modernaidd rhyfeddol Eric a Jean Cass yn Surrey.

Yn 2012, estynnodd y Gymdeithas Celf Gyfoes wahoddiad i saith amgueddfa yn y DU i ymchwilio i rodd Eric a Jean Cass ac ymgeisio am gasgliadau o weithiau fyddai’n ategu neu’n bywiogi eu casgliadau cyfredol. Dyma’r amgueddfeydd yn cynnig gweithiau gan artistiaid megis Karel Appel, Michael Craig-Martin, Barbara Hepworth, Joan Miro, Henry Moore, Eduardo Paolozzi, Victor Pasmore, Pablo Picasso a Niki de Saint-Phalle. Caiff unrhyw weithiau na fydd yn addas i gael eu rhoi i’r saith amgueddfa eu gwerthu er budd cynllun caffael y Gymdeithas Celf Gyfoes, neu eu rhoi i gasgliadau cyhoeddus eraill yn y DU.

Yr orielau fu’n llwyddiannus yw’r Oriel Celf Fodern (Glasgow), Hepworth Wakefield, Oriel Gelf Leeds, Amgueddfa Cymru (Caerdydd), Oriel Celf Fodern Genedlaethol yr Alban (Caeredin), Y Pafiliwn ac Amgueddfeydd Brenhinol (Brighton) ac Oriel Gelf Wolverhampton. Bydd yr amgueddfeydd yn arddangos y gweithiau a roddwyd yn eu casgliadau cyhoeddus ac mewn arddangosfeydd arbennig o 2012 ymlaen ac yn trefnu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a sgyrsiau perthnasol i bwysleisio haelioni mawr Eric a Jean Cass.

Meddai Eric a Jean Cass:

“Pan ddaeth hi’n amser gadael Bleep a’n casgliad o 365 gwaith celf, roedd yn rhaid i ni ganfod cartref fyddai’n gwerthfawrogi’r gweithiau cymaint â ni. Trwy’r Gronfa Celf Gyfoes dan gyfarwyddiaeth Paul Hobson y daeth yr ateb. Mae wedi bod yn dasg fawr ac yn un a gyflawnwyd â’r un ysbryd a’r casglu gwreiddiol.”

Meddai Paul Hobson, Cyfarwyddwr y Ganolfan Celf Gyfoes:

“Mae gwerth diwylliannol ac ariannol y rhodd hynod hael hwn gan Eric a Jean Cass i sefydliadau a’u cynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r DU yn amhrisiadwy ac yn esiampl o ddyngarwch anhunanol. Aeth Eric a Jean ati i adeiladu eu casgliad gyda brwdfrydedd, gofal a doethineb, gan sylweddoli o’r dechrau y byddai’r gweithiau yn dod i law casgliadau cyhoeddus yn y pen draw pan y gallai’r pleser a roddodd iddynt hwy gael ei rannu â chynulleidfa genedlaethol eang, heddiw ac yn y dyfodol. Mae dyngarwyr sy’n edrych ar amgueddfeydd y tu hwnt i Lundain yn brin ac mae’n anodd i amgueddfeydd rhanbarthol gystadlu â bri sefydliadau Llundain sydd fel arfer yn cael y dewis cyntaf. Mae’n nodweddiadol taw nod y cwpl goleuedig yma yw bod o fudd i gynulleidfaoedd ble bynnag y bont, gan sylweddoli taw drwy gyfrwng y casgliadau lleol pwysig yma y bydd artistiaid a chynulleidfaoedd yn porthi’u dychymyg.”

Mae hon yn fenter arall sy’n cyfrannu at nod y Ganolfan Celf Gyfoes i ddatblygu casgliadau celf cyfoes cyhoeddus ar draws y DU ac yn amlygu pwysigrwydd dyngarwch ym myd y celfyddydau yn y DU. Am dros 100 mlynedd, mae’r elusen wedi rhoi dros 8,000 o weithiau i amgueddfeydd ac orielau ym mhob cwr o’r wlad, gan hyrwyddo datblygiad artistiaid newydd a sicrhau y gall cynulleidfa mor eang a phosibl weld y celf cyfoes gorau.

Am wybodaeth am Rodd Eric a Jean Cass 2012 cysylltwch â:

Jenny Prytherch, Rheolwr Cyfathrebu

jenny@contemporaryartsociety.org

T. +44 (0)20 7017 8412

Nodiadau i Olygyddion:

1. Eric a Jean Cass:

Mae Eric a Jean Cass wedi rhoi dros 35 mlynedd o’u bywydau i gefnogi artistiaid. Dros y blynyddoedd maent wedi adeiladu casgliad syfrdanol a phersonol iawn o dros 300 gwaith – cerfluniau, cerameg, darluniau printiau a phaentiadau – gan artistiaid fel Karel Appel, Lynn Chadwick, Michael Craig-Martin, Barbara Hepworth, Allen Jones, Henry Moore, John Piper, Joan Miro a llawer mwy. Cyn y rhodd, cai’r casgliad cyfan ei gadw yn ystafelloedd a gerddi ‘Bleep’, cartref modernaidd hynod y pâr yn Surrey a enwyd ar ôl sain uchel y pagers electronig a gynhyrchwyd gan ran o gwmni Eric, Cass Electronics. Prynwyd pob un o’r gweithiau am eu bod yn rhoi mwynhad mawr i’r perchnogion. Fel cefnogwyr brwd o ddyngarwch yn y celfyddydau, gobaith Eric and Jean Cass yw y bydd eu casgliad o fudd i gynulleidfaoedd ledled y DU am flynyddoedd i ddod.

2. Y Gymdeithas Celf Gyfoes:

Sefydlwyd y Gymdeithas Celf Gyfoes ym 1910 er mwyn cefnogi a datblygu casgliadau celf cyfoes cyhoeddus yn y DU. Gwnawn hyn drwy gasglu arian i brynu neu gomisiynu gweithiau celf cyfoes newydd ar gyfer rhwydwaith cenedlaethol o gasgliadau cyhoeddus sy’n tanysgrifio i ni fel Aelod Amgueddfeydd ac Orielau, a thrwy geisio rhoddion i’r casgliadau yma er budd cyhoeddus. Dros y 100 mlynedd diwethaf bu ein rôl wrth greu casgliadau celf cyfoes gyhoeddus yn y wlad hon yn unigryw ac unig ar y cyfan, wrth i ni roi dros 8,000 o weithiau i leoliadau lle gallant gael eu mwynhau gan gynulleidfaoedd ym mhobman. Rydym yn parhau i fod yn sbardun i’r celfyddydau gweledol yn y DU, yn datblygu cynulleidfaoedd, artistiaid, curaduron, casglwyr a chasgliadau fel eu gilydd.

Rydym yn sefydliad cenedlaethol drwy aelodaeth sy’n dod ag unigolion, sefydliadau a chyrff ynghyd, gan gynnwys casglwyr, curaduron, artistiaid ac eraill sy’n frwd dros gelf gyfoes, a rhwydwaith ar draws y DU o gasgliadau cyhoeddus mewn amgueddfeydd ac orielau celf rhanbarthol. Defnyddir yr holl arian a gesglir drwy ein gwahanol weithgareddau i brynu gweithiau celf newydd gan artistiaid adnabyddus a sêr y dyfodol ar gyfer ein Haelod Amgueddfeydd ac Orielau. Dros y 100 mlynedd diwethaf, rydym wedi hyrwyddo gwaith artistiaid newydd pwysig di-ri ym Mhrydain gan gynnwys, Picasso, Francis Bacon ac yn ddiweddar, Damien Hirst, Luke Fowler ac Elizabeth Price a llawer mwy.

Y Gymdeithas Celf Gyfoes

www.contemporaryartsociety.org