Datganiadau i'r Wasg

TERESA MARGOLLES YW ENILLYDD GWOBR GELF RYNGWLADOL £40,000 ARTES MUNDI 5

Cyhoeddwyd enillydd gwobr Artes Mundi 5 mewn seremoni gyda’r nos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. O restr fer o 7, dewiswyd Teresa Margolles fel enillydd y wobr gan banel o guraduron a chyfarwyddwyr rhyngwladol. Gwobr £40,000 Artes Mundi yw’r wobr ariannol fwyaf a ddyfernir ar gyfer y celfyddydau yn y DU ac mae’n un o’r pwysicaf yn y byd. Mae 30,000 o ymwelwyr eisoes wedi ymweld â’r arddangosfa ers ei hagor ym mis Hydref.

 

Cymeradwyodd y panel o feirniaid, dan gadeiryddiaeth y curadur a’r darlledwr Tim Marlow, waith y saith artist ar y rhestr fer, ond cawsant eu cyfareddu gan “y grym angerddol a thaer yn ei gwaith a’i modd soffistigedig o ymdrin â thrasiedi ddynol barhaus”.

 

Mae gwaith Teresa Margolles yn canolbwyntio ar gythrwfl bywyd yng Ngogledd Mecsico lle mae tor-cyfraith cyfundrefnol yn ymwneud â’r diwydiant cyffuriau wedi arwain at drais a llofruddio didrugaredd. Ers derbyn ei diploma mewn meddygaeth fforensig, mae Margolles wedi astudio economi marwolaeth ac mae ei cherfluniau ymyrrol a pherfformiadau yn amlygu realiti a materoliaeth marwolaeth, fel y dangoswyd yn ei hymyriad artistig ym Miennale Fenis 2009 lle cafodd llawr pafiliwn Mecsico ei fopio â d?r a ddefnyddiwyd i olchi cyrff meirw mewn corffdy ym Mecsico.

 

Yn y ddau ddarn o waith ganddi a ddewiswyd ar gyfer Artes Mundi, mae marwolaeth yn thema amlwg. Yn Plancha mae d?r a ddefnyddiwyd i olchi cyrff mewn corffdy ym Mecsico yn diferu o uchder ar blatiau poeth. Mae pob diferyn yn anweddu gan hisian wrth daro’r platiau. Mae’r gwaith yn mynegi’r trawsnewid mewn marwolaeth o’r presennol i’r absennol a phrosesau dadelfennu. Yn y bôn, mae’n anrhydeddu’r bywydau anhysbys a gollwyd. Ar gyfer 32 años. Levantamiento y traslado donde cayo el cuerpo asesinado del artista Luis Miguel Suro, penderfynodd Margolles gludo ac arddangos teils llawr y cafodd ei ffrind agos ac artist ifanc addawol, Luis Miguel Suro, ei lofruddio arnynt yn Guadalajara, Mecsico. Trwy godi a symud y teils, trosglwyddir y drosedd a’r trais sy’n gysylltiedig â nhw yn uniongyrchol i’r Amgueddfa.

 

Mae’r panel o feirniaid rhyngwladol yn cynnwys Ute Meta Bauer, Deon Celf Gain, y Coleg Celf Brenhinol, Llundain; Adam Budak, Curadur Rhyngwladol Celf Gyfoes, Amgueddfa Hirshhorn, Washington; Kathrin Becker, Pennaeth Video Forum, nbk, Berlin; Karen MacKinnon, Curadur, Oriel Gelf Glyn Vivian, Abertawe; Tim Marlow, Cyfarwyddwr Arddangosfeydd, White Cube, Llundain a Sabine Schaschl, Cyfarwyddwr, Kunsthaus Baselland, Basel.

 

Gan gyflwyno’r wobr, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

 

“Hoffwn i longyfarch Teresa Margolles am ennill Artes Mundi 5. Mae’r gystadleuaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae’n wirioneddol ryngwladol ei dylanwad. Mae’n anrhydedd o’r mwyaf taw yng Nghymru y llwyfannir y digwyddiad ac mae’n rhan bwysig iawn o sîn ddiwylliannol fywiog ein cenedl.”

 

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

 

 

 

“Llongyfarchiadau gwresog i Teresa Margolles ac i bob un o artistiaid y rhestr fer am adael eu marc yma yng Nghymru. Mae Artes Mundi 5 wedi bod yn arddangosfa bwysig a phoblogaidd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r straeon grymus a adroddwyd gan yr artistiaid wedi rhoi cipolwg i ymwelwyr ar gelf weledol gyfoes a’r modd y gall gysylltu â bywydau a phrofiadau go iawn. Mae’r arddangosfa hefyd wedi creu ystod eang o gyfleoedd addysg ac ymgysylltu gan ysgogi trafodaeth a sicrhau fod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cyfrannu’n sylweddol at ddiwylliant cyfoes Cymru, a gweddill y byd."

 

Ar y cyd ag Artes Mundi, bydd Gwobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams, sef £30,000, i gaffael gwaith gan un o’r artistiaid ar y rhestr fer ar gyfer casgliad celf gyfoes Amgueddfa Cymru yn mynd i Tania Bruguera am Displacement, 1998-99.

 

Meddai Howard Evans, un o Ymddiriedolwyr Gweithredol Ymddiriedolaeth Derek Williams:

 

"Mae’n bleser gan yr Ymddiriedolaeth gefnogi’r Amgueddfa a’i phartneriaeth ag Artes Mundi trwy ariannu Gwobr Brynu Derek Williams. Mae ein cefnogaeth hirdymor i’r fenter hon wedi bod yn wirioneddol bwysig i’r Amgueddfa a’i datblygiad o gasgliad uchelgeisiol o gelf gyfoes ryngwladol. Mae’r Wobr yn sicrhau y bydd y gelf ryngwladol orau yn cael ei gweld yma yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod."

2012 fydd blwyddyn olaf yr aelod sefydlu William Wilkins fel Cadeirydd y Bwrdd. Syniad William Wilkins oedd Artes Mundi 12 mlynedd yn ôl a bydd yn ymddeol ar ôl helpu i hwyluso llawer o orchestion i Artes Mundi a’r celfyddydau gweledol cyfoes yng Nghymru. Cyhoeddwyd heno hefyd mai Mathew Prichard fydd Cadeirydd nesaf Bwrdd Artes Mundi. Bydd ei brofiad helaeth o’r celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt yn gaffaeliad arbennig i ddatblygiad y Wobr yn y dyfodol. Bydd 2012 hefyd yn dynodi Artes Mundi olaf Ben Borthwick fel y Cyfarwyddwr Artistig a’r Prif Swyddog Gweithredol. Ymunodd Borthwick â’r sefydliad ar ôl saith mlynedd yn Tate Modern ac wedi llwyfannu Artes Mundi 5 yn llwyddiannus, bydd yn gadael i ymgymryd â phrojectau curadurol rhyngwladol.

 

Bank of America Merrill Lynch yw prif noddwr Arddangosfa a Gwobr Artes Mundi 5 a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter tan 13 Ionawr 2013. Eleni hefyd, bydd cyfle i’r cyhoedd bleidleisio dros ei hoff artist yng Ngwobr y Gynulleidfa. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi cyn diwedd yr arddangosfa.

 

Am wybodaeth bellach, ceisiadau am gyfweliadau a delweddau, cysylltwch â:

Jenny McVean | Rheolwr Cyfrif, Sutton PR                           Lleucu Cooke | Swyddog Cyfathrebu

Ffôn +44 (0) 207 1833577                                          Amgueddfa Cymru                                                                        

E-bost jenny@suttonpr.com                                       Ffôn +44 (0)29 2057 3175

                                                                                    E-bost lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk

 

 

Nodiadau i Olygyddion:

 

Mae’r artistiaid ar restr fer 2012 yn cynnwys: Miriam Bäckström (Sweden), Tania Bruguera (Ciwba), Phil Collins (Lloegr), Sheela Gowda (India), Teresa Margolles (Mecsico), Darius Mikšys (Lithwania) ac Apolonija Šušterši? (Slofenia).

 

Yngl?n ag Artes Mundi:

Sefydliad celfyddydau rhyngwladol yw Artes Mundi sydd â’i gartref yng Nghaerdydd, Cymru. Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Artes Mundi yn ymrwymedig i gefnogi artistiaid gweledol cyfoes arloesol o bob cwr o’r byd y mae eu gwaith yn ymgysylltu â realiti cymdeithasol a phrofiad bywyd.

 

Bank of America Merrill Lynch yw prif noddwr Arddangosfa a Gwobr Artes Mundi 5. Ariennir Artes Mundi yn gyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd. Ymhlith y noddwyr eraill mae Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Derek Hill, Ymddiriedolaeth Myristica a Sefydliad Waterloo.

                                                                                                                                                                     

Yngl?n â’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol:

Ar 9 Gorffennaf 2011, agorwyd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol sy’n arddangos ystod lawn ein casgliad celf cenedlaethol o safon ryngwladol dan yr un to yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Am y tro cyntaf, bydd y gymysgedd o gelfyddyd gain a chymhwysol, hanesyddol a chyfoes, yn cael ei harddangos mewn cyfres o orielau integredig gan roi llwyfan ac amlygrwydd newydd i gelf Gymreig a chelf yng Nghymru.

 

Yr Adain Orllewinol – chwe oriel gelf gyfoes arbennig newydd – fydd y gofod mwyaf o’i fath yng Nghymru. Cyn nawr, un oriel oedd gan yr Amgueddfa i arddangos ei hystod o gelf fodern a chyfoes, sy’n un o gasgliadau pwysicaf y DU. Bydd y datblygiad hwn yn rhoi i’r Amgueddfa bron i 800 metr sgwâr o ofod i arddangos yr ystod aruthrol a chryf o gelf a gynhyrchwyd yng Nghymru ers cyn y 1950au, a pherthynas y gwaith yma â datblygiadau rhyngwladol.