Datganiadau i'r Wasg

Dathlu rhyfeddodau awyr y nos ar y Glannau - mewn 3D!

Bydd dau ddigwyddiad seryddol arbennig yn cael eu cynnal yn Abertawe’r wythnos hon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae rhaglen hynod boblogaidd BBC 2, Stargazing LIVE, yn dychwelyd ac i ddathlu cynhelir digwyddiad seryddol ar ddydd Gwener 18 Ionawr (7pm).

Gan gydweithio â Chymdeithas Seryddol Abertawe, nod Stargazing Evening fydd annog pawb, yn ddysgwyr a selogion amatur, i fanteisio ar awyr dywyll y nos.

Bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu defnyddio telesgop, cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol i blant a gwrando ar sgyrsiau diddorol gan arbenigwyr seryddol.

I gloi’r noson dangosir y ffilm 3D SPACE STATION (8pm), y ffilm antur sinematig gyntaf i gael ei ffilmio yn y gofod.

Bydd y dechnoleg 3D blu-ray anhygoel yn galluogi’r gynulleidfa i deithio gyda’r gofodwyr o Ganolfan Ofod Kennedy yn Florida i’w cartref newydd mewn orbit 200 milltir uwchlaw’r Ddaear. Gall ymwelwyr brofi grym roced yn lansio, edrych i ddyfnder gofod, profi diffyg disgyrchiant a dilyn y gofodwyr wrth iddyn nhw ofod-gerdded.

Meddai Miranda Berry, Swyddog Digwyddiadau yr Amgueddfa: “Rydyn ni’n llawn cyffro wrth ddisgwyl am y digwyddiad hwn fydd yn ffordd wych o lansio ein hoffer taflunio 3D newydd.

“Bydd yn gyfle gwych hefyd i ymwelwyr brofi golygfeydd hynod awyr y nos yma yng nghanol y ddinas, ac i ymgysylltu â rhyfeddodau’r gwyddorau naturiol.”