Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Rufeinig yn dod wyneb yn wyneb â'r gorffennol

Un o arddangosfeydd mwyaf poblogaidd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion yw'r arch garreg sy'n dal sgerbwd g?r Rhufeinig. Am y tro cyntaf erioed, mae’r amgueddfa wedi creu portread o wyneb y sgerbwd wedi i gadwraethwyr Amgueddfa Cymru gydweithio ar waith ymchwil sy’n cynnwys dadansoddi isotop a modelu 3D.

 

Dangosodd gwaith dadansoddi isotop ar ddannedd y sgerbwd bod y dyn yn yr arch wedi treulio ei blentyndod, rhwng 5 ac 8 oed, yn ardal Casnewydd, a mwy na thebyg ei fod yn fachgen lleol. Sganiwyd y penglog gan Broject Llong Ganoloesol Casnewydd a Phrifysgol John Moores Lerpwl er mwyn creu model 3D digidol. Defnyddiwyd technegau modelu digidol hefyd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl er mwyn ailadeiladu rhannau coll y penglog. Defnyddiodd Prifysgol Dundee dechnegau fforensig ar yr ailgread 3D digidol o’r penglog i adeiladu cyhyrau ei wyneb.

Defnyddiodd Penny Hill, cadwraethydd Amgueddfa Cymru yr ailgread digidol o’r wyneb i greu portread replica ‘r dyn pan oedd yn fyw, gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau artistig y gwelir tystiolaeth o’u defnydd mewn paentiadau Rhufeinig neu ffynonellau ysgrifenedig er mwyn rhoi naws Rufeinig i’r portread modern. Ariannwyd y portread gan Ymddiriedolaeth Aurelius.

Darganfuwyd yr arch, gyda sgerbwd mewn cyflwr da o ?r tua 40 mlwydd oed pan gladdwyd ef tua OC 200, ym 1995 ar safle mynwent Rufeinig ychydig y tu allan i Gaerllion. Mae'r fynwent bellach yn rhan o Gampws Caerllion Prifysgol Cymru Casnewydd. Symudwyd y gweddillion i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru lle maent wedi cael eu harddangos er 2002.

Dywedodd Dr Mark Lewis, “Rwy’n falch iawn bod cymal olaf yr ailarddangos wedi ei gwblhau. Roedden ni’n teimlo bod llawer mwy o waith ymchwil i’w wneud ar y sgerbwd ac roedden ni am ailadeiladu wyneb y dyn Rhufeinig yn yr arch drwy ddefnyddio technegau fforensig modern, sy’n cael eu defnyddio fel arfer gan yr Heddlu.

“Fyddai’r gwaith ymchwil i greu y portread gorffenedig heb fod yn bosib heb nawdd gan Ymddiriedolaeth Aurelius ac rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn. Mae darganfod mwy am y sgerbwd yn dysgu mwy i ni am y Rhufeiniaid yma yn ne Cymru a pa mor wahanol fyddai’n bywyd ni heddiw hebddynt.”