Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn cynnig strwythur newydd

Ar ddydd Llun 21 Ionawr 2013 cychwynnodd Amgueddfa Cymru ar gyfnod o ymgynghori â’i staff a phartneriaid, gan gynnwys Undebau Llafur, parthed strwythur arfaethedig newydd y sefydliad.

Yn sgil yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae pob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu heriau nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad. O ganlyniad i leihad yn y gyllideb, mae'n rhaid i Amgueddfa Cymru sicrhau arbedion o £2.5m dros y tair blynedd nesaf.

Ar yr un pryd, mae’r sector amgueddfeydd wedi esblygu ac mae disgwyliadau pobl o amgueddfeydd cenedlaethol yn wahanol i’r hyn yr oeddent hyd yn oed ddegawd yn ôl. Mae’n rhaid i Amgueddfa Cymru roi pwyslais newydd ar ei gwaith er mwyn diwallu anghenion newidiol ei hymwelwyr.

Yn amodol ar yr ymgynghoriad, bydd tua 35 o swyddi parhaol yn cael eu dileu o strwythur cyfredol yr Amgueddfa ac effeithir ar tua 160 o swyddi mewn rhyw fodd. Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio osgoi diswyddiadau gorfodol trwy gynnig adleoli staff (dod o hyd i swydd arall iddynt o fewn Amgueddfa Cymru) a chynlluniau megis diswyddo gwirfoddol ac ymddeoliad cynnar.

Ni fydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar weithrediadau beunyddiol y saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru. Bydd Amgueddfa Cymru yn parhau i gynnig arlwy o ansawdd i ymwelwyr ym mhob un o’i hamgueddfeydd y denwyd dros 1.6 miliwn o bobl i ymweld â nhw'r llynedd.

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn parhau'n ymrwymedig i gyflwyno projectau allweddol fel y gwaith o ailddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Gwyddorau Naturiol ac adeiladu ar waith partneriaeth ledled Cymru a thu hwnt.

Mae Amgueddfa Cymru wedi cychwyn ar broses ymgynghori 90 diwrnod â’i staff a phartneriaid eraill er mwyn ystyried pob dewis a chynnig yn llawn.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Taylor, Cysylltiadau Corfforaethol ar (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu catrin.taylor@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i olygyddion:

Mae’r ffigwr o 160 o staff yr effeithir arnynt yn cynnwys:

Y rheini fydd yn dewis Diswyddo Gwirfoddol

Y rheini fydd yn dewis Ymddeoliad Cynnar

Y rheini yr ydym yn cynnig newid amodau a thelerau eu cyflogaeth

Y rheini dan gontractau tymor penodol nad ydym yn bwriadu adnewyddu nac ymestyn eu contractau

Y rheini nad yw eu swyddi’n ymddangos yn y strwythur newydd ac o’r herwydd y gellid eu hadleoli, eu trosglwyddo i leoliad arall neu, os nad oes modd dod o hyd i swydd arall ar eu cyfer, y rheini y gellid eu diswyddo.