Datganiadau i'r Wasg

Mantell Aur yr Wyddgrug ar daith i Gymru'r haf hwn

Bydd Mantell Aur yr Wyddgrug yn mynd ar daith o’r Amgueddfa Brydeinig yr haf hwn ac yn cael ei harddangos yng Nghymru. Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam, dyma fydd y trydydd tro i’r fantell gael ei harddangos yng Nghaerdydd a bydd yn cael ei harddangos hefyd yn Wrecsam, nepell o’r man ble’i cafodd ei darganfod. Bydd y fantell i’w gweld am ddim yn y ddwy amgueddfa fel rhan o gynllun Spotlight Tours a drefnir gan Gynllun Partneriaeth y DU yr Amgueddfa Brydeinig.

 

Mantell aur ddefodol unigryw yw Mantell Aur yr Wyddgrug a gafodd ei llunio tua 3,700 o flynyddoedd yn ôl yn ystod yr Oes Efydd Cynnar. Mae ymhlith prif atyniadau’r Amgueddfa Brydeinig, a bydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 2 Gorffennaf a 4 Awst ac yna yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng 7 Awst a 14 Medi 2013.

Y fantell yw un o’r enghreifftiau gorau o waith eurddalen boglynnog yn Ewrop. Mae wedi’i llunio’n ofalus ac yn gelfydd o un ddalen denau o aur, ac mae’r dyluniad yn gwbl unigryw. Darganfuwyd y fantell yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint ym 1833 pan gafodd gr?p o weithwyr hyd i sgerbwd yng nghanol cofeb gladdu gron. Cafodd gweddill y nwyddau claddu, cannoedd o leiniau ambr a darnau o aur ac efydd, eu rhannu rhwng y gweithwyr a thenant y tir. Sylweddolodd yr Amgueddfa Brydeinig bwysigrwydd ac arwyddocâd y darganfyddiad, a chan nad oedd gan Gymru amgueddfa genedlaethol bryd hynny, aethant ati’n ofalus i gaffael y fantell a’r darnau cysylltiedig ar gyfer ei chasgliad. Yn fuan iawn wedi hynny, cafodd ei harddangos yn yr Amgueddfa Brydeinig gan gymryd lle amlwg yn ei harddangosiadau cynhanesyddol. Yn y 1960au a’r 70au, astudiodd arbenigwyr yr Amgueddfa Brydeinig sut oedd y darnau wedi’u cysylltu â’i gilydd. Dim ond ar ôl i staff yr Amgueddfa gwblhau’r jig-so cain y daeth siâp gwreiddiol y fantell yn glir. Mae ymchwil diweddar yn awgrymu ei fod yn bosibl mai menyw oedd yn gwisgo’r clogyn a’r mwclis o leiniau ambr ac yn cario’r cleddyf efydd.

Meddai Neil MacGregor, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Brydeinig, “Rydyn ni’n falch iawn y bydd y gwrthrych gwych hwn sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd ac yn Wrecsam yr haf hwn. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam am gydweithio â ni ac i’r Gronfa Gelf am eu cymorth. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith ymchwil diweddar ar wrthrychau prin fel Mantell Aur yr Wyddgrug wedi’n galluogi ni i weld cymdeithasau cynhanesyddol Prydeinig mewn goleuni cwbl newydd. Mae’r gwrthrychau drudfawr hyn yn dangos i ni fod cymdeithasau Prydain yn soffistigedig iawn, o ran crefft a strwythur cymdeithasol. Nid oeddent yn gymdeithasau alltud. Yn hytrach roedden nhw’n rhan o rwydwaith masnachu Ewropeaidd eang; gwe o fasnachu a chyfnewid oedd yn ymestyn o Ogledd Cymru i Lychlyn.”

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd y bydd y campwaith Oes Efydd amhrisiadwy hwn o ogledd ddwyrain Cymru yn cael ei arddangos eto yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn fuan. Mae arddangos un o wrthrychau hynafol enwocaf Prydain, ac un o ganfyddiadau Oes Efydd pwysicaf Ewrop, yma yng Nghymru lle cafodd ei ddarganfod yn gyfle gwych ac unigryw i bobl leol ac ymwelwyr fwynhau eu hanes a dysgu am eu treftadaeth a’r gorffennol cynnar. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae gwrthrychau drudfawr fel Mantell yr Wyddgrug yn hygyrch i bawb. Mae Mantell yr Wyddgrug yn bwysig iawn, mewn cyd-destun lleol a chenedlaethol ac mae o bwysigrwydd rhyngwladol am ei fod yn gwella’n dealltwriaeth o fynegiant diwylliannol a grym yn Ewrop yr Oes Efydd Cynnar, boed hynny mewn bywyd neu farwolaeth.”

Meddai’r Cynghorydd Neil Rogers, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Bu Mantell Aur yr Wyddgrug yma yn Amgueddfa Wrecsam yn 2005 – a bryd hynny daeth 11,500 o ymwelwyr i’w gweld mewn 12 wythnos! Mae hynny’n dangos cymaint o ddiddordeb sydd gan bobl yr ardal yn ein harchaeoleg a’n hanes cynhanesyddol cyffredin. Felly, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y Fantell yn dychwelyd i’r dref. Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam yn adrodd hanes darganfod y Fantell a thrwy ystyried tystiolaeth safleoedd tebyg yn yr ardal, bydd yn ceisio’i gosod mewn cyd-destun archaeolegol cyfoes. Yn amlwg, ni fyddai modd arddangos y Fantell heb gymorth yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cymru, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ddiolchgar iawn i’r ddau gorff am eu cymorth parhaus wrth ddod â’n trysorau cenedlaethol yn ôl i Wrecsam.”

Cafodd Mantell Aur yr Wyddgrug ei rhestru ymhlith deg trysor pwysicaf y 100 o wrthrychau a ddewiswyd ar gyfer project ‘A History of the World’ mewn partneriaeth â’r BBC. Enillodd y project hwn Wobr y Gronfa Gelf yn 2011 a’r wobr ariannol hon yw sail y cynllun Spotlight Tours.

Nodiadau i olygyddion:

Bydd Mantell Aur yr Wyddgrug i’w gweld am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 2 Gorffennaf a 4 Awst 2013 yna yn Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng 7 Awst a 14 Medi 2013.

Diben yr Amgueddfa Brydeinig yw adrodd hanes llwyddiant diwylliannol ym mhedwar ban, o ddechreuad hanes dynol dros ddwy filiwn o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Mae’r Amgueddfa’n adnodd unigryw ar gyfer y byd: mae ehangder y casgliad yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ailystyried hunaniaethau diwylliannol ac archwilio’r rhwydwaith gymhleth o ddiwylliannau dynol sydd oll yn plethu i’w gilydd. Mae Mantell Aur yr Wyddgrug yn atyniad poblogaidd ymhlith y chwe miliwn o ymwelwyr sy’n croesi rhiniog yr Amgueddfa Brydeinig bob blwyddyn ac mae’n wrthrych allweddol yn yr Oriel Cynhanes Ewrop newydd (G51). Cafodd y fantell ei benthyg sawl tro i Gymru, ei hymweliad mwyaf diweddar oedd ag Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 2005.

Trefnir Spotlight Tours drwy Gynllun Partneriaeth y DU yr Amgueddfa Brydeinig. Partneriaeth y DU yw fframwaith strategol rhaglen yr Amgueddfa o ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws Prydain. Mae’n cynnwys benthyciadau unigol, arddangosfeydd teithiol, Orielau Partner a chyfnewid sgiliau. Mae’r Amgueddfa’n gweithio gyda chanolfannau o bob maint er mwyn rhannu ei chasgliad a’i harbenigedd gymaint â phosibl ar draws y DU. Yn 2011, enillodd yr Amgueddfa Brydeinig Wobr y Gronfa Gelf am ei broject partneriaeth gyda’r BBC, ‘A History of the World’. Y wobr ariannol a ddyfarnwyd i’r Amgueddfa Brydeinig yw sail y cynllun Spotlight Tours.

Y Gronfa Gelf yw’r elusen godi arian genedlaethol ar gyfer gweithiau celf ac mae’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyfoethogi ystod ac ansawdd y gwaith celf a gaiff ei arddangos yn gyhoeddus yn y DU. Mae ganddi tua 90,000 o aelodau unigol, ac mae’n ymgyrchu, yn codi arian ac yn rhoi arian i amgueddfeydd ac orielau er mwyn iddynt allu prynu, arddangos a rhannu celf ac mae llawer o ffyrdd gwahanol o’i mwynhau trwy’r Cerdyn Celf Cenedlaethol.

Yn ogystal â chynorthwyo gyda phrynu gweithiau celf, mae mentrau eraill y rhaglen nawdd yn cynnwys: noddi taith y DU o gasgliad Artist Rooms er mwyn iddo gyrraedd miliynau o bobl ledled y DU bob blwyddyn, a chodi arian: ymhlith yr ymgyrchoedd llwyddiannus diweddar mae codi £6 miliwn i achub Celc Swydd Stafford ar gyfer Canolbarth Lloegr ac achub The Procession to Calvary gan Pieter Brueghel yr Ieuengaf ar gyfer Priordy Nostell, mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dros y flwyddyn ddiweddaf, mae’r Gronfa Gelf wedi rhoi £24 miliwn ar gyfer gweithiau celf i 248 o amgueddfeydd ac orielau. Noddir y Gronfa Gelf yn gyfan gwbl gan ei chefnogwyr sy’n frwd dros gelf ac amgueddfeydd ac sy’n credu y dylai pawb allu mwynhau celfyddyd wych. Ewch i www.artfund.org am fwy o wybodaeth.

Gweinyddir Gwobr y Gronfa Gelf gan The Museum Prize, cwmni elusennol a sefydlwyd yn 2001 gan gynrychiolwyr Treftadaeth Genedlaethol, Cymdeithas yr Amgueddfeydd a’r Gronfa Gelf gyda’r Fonesig Cobham yn Gadeirydd.Cytunodd y sefydliadau hyn i roi cynlluniau gwobr a gynhaliwyd ganddynt (gan gynnwys gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn Treftadaeth Genedlaethol) o’r neilltu a chefnogi’r wobr fawr hon yn lle.

Mae mynediad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Yn y dyfodol agos, bydd casgliadau Oes Efydd cain Amgueddfa Cymru yn cael eu symud i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru a’u harddangos mewn nifer o orielau hanes ac archaeoleg cyfun. Rydyn ni yn y broses o ailddatblygu’r amgueddfa diolch i gymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn creu amgueddfa unigryw ble caiff ymwelwyr archwilio dros 200,000 o flynyddoedd o hanes pobl Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Lleucu Cooke, Amgueddfa Cymru

(029) 2057 3175 neu lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk

Steve Grenter, Rheolwr Gwasanaeth Treftadaeth, Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Siriol Wrecsam

01978 297462 neu steve.grenter@wrecsam.gov.uk

Olivia Rickman, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, yr Amgueddfa Brydeinig 020 7323 8583 / 8394 communications@britishmuseum.org