Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Amgueddfa Cymru yn Tsieina yn ddathliad o'n gwlad

Fel rhan o ddathliadau wythnos Cymru yn Chongqing 2013, bydd arddangosfa newydd sbon ar hanes Cymru, Wales, Land of the Red Dragon, a drefnwyd gan Amgueddfa Cymru, yn agor yn Amgueddfa Three Gorges yn Chongqing ar 4 Mawrth ac ar agor tan 30 Mehefin 2013.

 

Mae Wales, Land Of The Red Dragon yn gyflwyniad i Gymru ac yn arddangos nifer o wrthrychau pwysig o gasgliadau eang Amgueddfa Cymru. Ceir cip ar gymeriad unigryw Cymru drwy ei diwylliant a’i hieithoedd, ei hanes a’i thirwedd. Ymhlith y themâu pwysig mae’r cyfraniadau niferus gan Gymry i ddiwylliant byd-eang, megis twf diwydiant modern yn y 18fed a’r 19eg ganrif, datblygiad gwyddor daeareg a’r frwydr dros hawliau’r werin bobl. Caiff hanes Cymru ei adrodd yn llawn – o goncwest y Rhufeiniaid i goncwest y Saeson yn y 13eg ganrif, ac o fod ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol i gyfrannu at esblygiad y byd modern.

Mae’r arddangosfa yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Three Gorges yn rhanbarth ddinesig Chongqing, sy’n deillio o gytundeb a lofnodwyd yn 2008. Yn 2011, cynhaliwyd arddangosfa hynod lwyddiannus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r enw O Lethrau Serth: Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, Tsieina. Trefnwyd yr arddangosfa honno ar y cyd ag Amgueddfa Cerfiadau Carreg Dazu dan nawdd Swyddfa Ddiwylliant Chongqing.

Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa newydd, a noddir gan Lywodraeth Cymru, mae:

Cwpan aur a chaead ‘Castell Carn Dochan’ a ddarganfuwyd yng ngogledd Cymru ym 1863 ac a fu ym meddiantSyr Watkin Williams-Wynn o Sir Ddinbych.Dysgl a phowlen borslen, gwnaed yn Tsieina tua 1760 – drwy gydol y ddeunawfed ganrif byddai teuluoedd cyfoethog Ewrop yn archebu llestri cinio o Tsieina ag arnynt arfbais y teulu yn addurn a symbol o statws.Ffan addurniadol cymhleth llechen, a wnaed gan chwarelwr o Gymro tua 1910.

Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson, “Mae’n bleser gennym gael cyflwyno’r arddangosfa bwysig hon am Gymru i Amgueddfa Three Gorges wedi llwyddiant hynod yr arddangosfa ar Dazu yma yng Nghaerdydd.

“Mae gweithio’n rhyngwladol yn un o’n blaenoriaethau pennaf ac mae’r bartneriaeth hon yn ffordd wych o hyrwyddo casgliadau Amgueddfa Cymru yn Tsieina. Bydd yn gyfle i ni adrodd stori Cymru i gynulleidfa newydd ac i ymwelwyr ddysgu mwy am ddiwylliant, hanes ac amgylchfyd cyfoethog ein cenedl. Gobeithiaf y caiff ymwelwyr eu hysbrydoli a’u haddysgu. Pa ffordd well i ddathlu parhad a llwyddiant y cyswllt rhwng Chongqing a Chymru.”

Meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth fydd yn ymweld â Tsieina ym mis Mawrth i agor yr arddangosfa yn swyddogol, “Caiff y berthynas gref a byw rhyngom â Chongqing ei gwerthfawrogi’n fawr yng Nghymru, a phennod ddiweddaraf y stori honno yw’r arddangosfa hon. Un elfen ydyw o wythnos o ddigwyddiadau yn dathlu atyniadau Cymru – o’n diwylliant hynafol i’n cenedl fodern, ddeinamig.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.