Datganiadau i'r Wasg

Taclo Rygbi ar y Glannau

Bydd naws y rygbi ar ei anterth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y penwythnos (dydd Sul 3 Mawrth) gydag ymweliad gan hyfforddwyr URC a chyn gapten rygbi Cymru Steve Fenwick.

Wales News Service

O 12pm, bydd cyfle i’r plant ymuno ag un o sesiynau sgiliau rygbi URC (Undeb Rygbi Cymru). Bydd yn brofiad llawn hwyl ac yn gyfle i ddysgu dulliau a thechnegau hyfforddi’r goreuon.

Cynhelir sesiynau am 12pm, 1pm, 2pm a 3.45pm i blant saith oed a h?n, ac am 1pm a 2pm i blant rhwng tri a chwech oed.

Am 2.30pm, bydd yr Amgueddfa yn croesawu g?r sydd wedi cynrychioli Cymru yn rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair, Steve Fenwick. Bydd yn hel atgofion am chwarae i Gymru yn oes aur rygbi’r wlad ac yn rhannu profiadau am chware gyda, ac yn erbyn rhai o fawrion byd y bel hirgron.

Bydd Côr Meibion Treforys yma hefyd yn helpu i greu awyrgylch drwy ganu ffefrynnau rygbi Cymru i’n diddanu, (2pm a 3.30pm).

Wrth siarad am ddigwyddiadau’r penwythnos meddai Andrew Kuhne, Cynorthwy-ydd Digwyddiadau: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Steve Fenwick i’r Amgueddfa ddydd Sul ac o allu trefnu digwyddiad llawn hwyl.

“Gyda twrnament y Chwe Gwlad yn codi stêm, bydd yn gyfle gwych i ymwelwyr glywed hanesion un sydd wedi profi’n uniongyrchol fwrlwm y maes rygbi rhyngwladol, ac i fwynhau digonedd o adloniant rygbi.”

Mae gweithgareddau eraill yn ystod y penwythnos yn cynnwys perfformiadau gan Only Boys Aloud (Sad 2 Mawrth, 1pm a 2.30pm) fydd yn dechrau’n dathliadau G?yl Dewi mewn steil gyda’u repertoire arbennig; Cuppa Cymraeg (Sad 2 Mawrth, 10.30am), lle gall dysgwyr Cymraeg fwynhau taith arbennig drwy’r orielau; a Gwneud a Thrwsio (Sad 2 Mawrth, 1.30pm), gweithdy crefft ymarferol lle gall oedolion ddefnyddio oelcloth i greu pwrs neu orchudd cyfrifiadur llechen.

Am ragor o fanylion am holl weithgareddau’r penwythnos, ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch 0300 111 2 333.

Nodiadau i’r Golygydd

Mae croeso i aelodau’r wasg a’r cyfryngau – cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616 am ragor o fanylion.

Tra’n chwarae i glwb rygbi Pen-y-bont enillodd Steve Fenwick 30 o gapiau dros Gymru. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Ffrainc ym 1975, gan sgorio cais wedi 5 munud a 9 phwynt erbyn diwedd y gêm. Roedd yn rhan o garfan y Llewod ar y daith i Seland Newydd ym 1977, a cafodd ei ddewis ar gyfer y pedwar prawf. Ef oedd capten Cymru yn y gem yn erbyn y Crysau Duon ym 1980 i ddathlu canmlwyddiant URC. Ym 1981, trodd Fenwick at rygbi’r gynghrair, gan chwarae i’r Blue Dragons yn Nghaerdydd, ennill capiau dros dim cenedlaethol Cymru, a gosod sawl record bwyntiau.