Datganiadau i'r Wasg

Celf bop yn mynd ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nôl i'r chwedegau

Gyda’r gwanwyn, daw tair arddangosfa celf gyfoes newydd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae arddangosfa Pop a Haniaethol yn cynnwys gweithiau nifer o artistiaid pwysig o gasgliad celf fodern Amgueddfa Cymru. Yn ogystal â hyn bydd comisiwn gosodwaith ffotograffiaeth gan yr artist Holly Davey a bydd Tim Davies yn cyflwyno’i waith ffilm o Biennale Fenis 2011.

 

Wedi ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, mae Pop a Haniaethol (9 Mawrth – 1 Medi 2013) yn ystyried sut y cafodd celf Brydeinig yn y cyfnod wedi’r rhyfel ei weddnewid gan y chwedegau. Gan droi at ddatblygiadau diweddaraf America am ysbrydoliaeth, dechreuodd artistiaid Prydain greu celf feiddgar, hyderus a oedd yn symbol cadarn o dorri’n rhydd o’r gorffennol. Defnyddiai’r artistiaid pop a haniaethol liwiau llachar ac iaith y byd hysbysebu i greu arddull flaengar, ryngwladol.

Bydd yr arddangosfa fawr hon yn edrych ar sut y cafodd celf bop a haniaethol ei dehongli gan artistiaid yng Nghymru a sut mae’n parhau yn berthnasol i artistiaid heddiw ac yn ddylanwad arnynt. Bydd Pop a Haniaethol yn cynnwys gwaith gan rai o artistiaid pwysicaf y casgliad modern megis Peter Blake, Alan Davie, David Hockney a Bridget Riley yn ogystal â gwaith gan artistiaid sydd â chysylltiadau â Chymru, gan gynnwys Ken Elias, Mali Morris, John Selway ac Ernest Zobole.

Yn Tim Davies: Drift, (9 Mawrth – 26 Mai 2013) cyflwynir tair ffilm a grëwyd gan Tim Davies i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2011. Dyma fydd y tro cyntaf i’r ffilmiau Drift, Frari a Capricci gael eu dangos gyda’i gilydd fel gosodiad unigol. Maent yn creu darlun dramatig a theimladwy o Fenis, gan greu cysylltiadau â’r ffordd y cynrychiolir y ddinas yng nghasgliadau hanesyddol yr Amgueddfa gan artistiaid megis Canaletto, Monet a Whistler. Ymddangosodd Drift a Frari yng nghyflwyniad Cymru yn Fenis yn Biennale Fenis 54 yn 2011 ac a drefnwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn 2012, comisiynodd Amgueddfa Cymru'r artist Holly Davey (9 Mawrth – 1 Medi 2013) i greu darn o waith yn arbennig ar gyfer ardal y landin yn yr Orielau Celf Gyfoes. Mae’r gwaith newydd hwn yn gweddnewid y grisiau gyda gosodiad ffotograffig eang sy’n cwestiynu ein dealltwriaeth o’r gofod a’n profiad ohono. Holly Davey yw un o artistiaid cyfoes mwyaf amlwg Cymru. Mae’n defnyddio ffotograffiaeth a pherfformiad i greu gwaith sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng pensaernïaeth a chof. Cefnogir Comisiwn y Landin gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Gall ymwelwyr hefyd gymryd y cyfle i fwynhau gweithiau haniaethol gan artistiaid megis James Hugonin, Keith Coventry a Howard Hodgkin o Gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams, fydd yn dathlu 20 mlynedd o weithio gydag Amgueddfa Cymru yn fuan.

Meddai Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Fodern a Chyfoes Amgueddfa Cymru,

“Bydd yr arddangosfeydd uchelgeisiol hyn ill tri yn adeiladu ar agoriad llwyddiannus orielau celf gyfoed yr Amgueddfa yn 2011. Yn Pop a Haniaethol gwelwn agwedd newydd a chyffrous ar gasgliadau’r Amgueddfa – gweddnewidiwyd yr orielau gan weithiau mawr, beiddgar a lliwgar sy’n cyfleu ysbryd y chwedegau. Bydd llawer o’r gweithiau i’w gweld yma am y tro cyntaf. Mae cyflwyno gwaith gan ddau o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru – Holly Davey a Tim Davies – yn tanlinellu ymroddiad yr Amgueddfa i gelf gyfoes a’n huchelgais i ymgysylltu â’n cynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd.”

Am wybodaeth bellach am yr arddangosfeydd ewch i amgueddfacymru.ac.uk/caerdydd/celf/cyfoes.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.