Datganiadau i'r Wasg

Beiddgar a Hardd: Artist tecstilau Kaffe Fassett yn dod i Orllewin Cymru

Mae un o artistiaid tecstilau mwyaf adnabyddus y byd yn dod i Orllewin Cymru am y tro cyntaf eleni, a hynny er mwyn cynnal nid un, ond dwy arddangosfa o’i waith neilltuol. Ganwyd Kaffe Fassett yn America ond mae’r artist wedi bod yn byw ac yn gweithio ym Mhrydain ers sawl degawd. Mae’n adnabyddus am ddylunio tecstilau gwefreiddiol a defnyddio lliw mewn modd tanllyd a dramatig. Gan ddechrau gyda gweuwaith nôl yn y 1960au, dros y blynyddoedd mae wedi defnyddio techneg blaen nodwydd, mosaigau, rygiau, cwiltiau a llawer mwy. Am y tro cyntaf mae Kaffe Fassett yn arddangos yng Nghymru ac mae’n gyfle arbennig i weld dwy elfen o’i waith. Ei gwiltiau fydd canolbwynt yr arddangosfa yng Nghanolfan y Cwilt Cymreig yn Llanbed (9 Mawrth-2 Tachwedd) , tra bydd Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre, yn arddangos ei weuwaith o 8 Mawrth-2 Tachwedd).

 

Ei weuwaith fydd yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Wlân Cymru – eto mae’r pwyslais ar liw a phatrwm a bydd y darnau yn si?r o ysbrydoli ymwelwyr. Ei weuwaith ddaeth â Kaffe i sylw’r byd yn y lle cyntaf – cafodd ei gynllun cyntaf dudalen gyfan yng nghylchgrawn Vogue Knitting. Ers hynny, mae wedi dylunio casgliadau di-ri ac wedi ysgrifennu amryw o lyfrau ar weu, ynghyd ag ar gwiltiau a phynciau eraill, gyda nifer o’r rhain ar werth yn siop yr Amgueddfa ac yn siop Canolfan y Cwilt.

Meddai Jen Jones o Ganolfan y Cwilt, “Mae hwn yn gyfle unigryw i weld gwaith yr artist dawnus hyn yng Nghymru, cyfle na ellir ei golli. Mae ei ddefnydd o batrwm, lliw ac arlliw heb ei ail. Yma yng Nghanolfan y Cwilt bydd cwiltiau beiddgar a lliwgar Kaffe yn cael eu harddangos ochr yn ochr â hen gwiltiau Cymreig unlliw â’u crefftwaith arbennig. Gwledd weledol wirioneddol.”

Yn ogystal â’r arddangosfeydd, bydd cyfle unigryw hefyd i glywed mwy gan y dyn ei hun, ac i elwa’n uniongyrchol o’i arbenigedd, wrth iddo gynnal Gweithdy arbennig ‘The S-Block Quilt’ gyda Brandon Mably yng Nghanolfan y Cwilt yn Llanbed ar Dydd Sadwrn, 30 Mawrth. Cost y gweithdy yw £135. Bydd yn dychwelyd i Lanbed ar 1 Ebrill i draddodi darlith ‘Concentrate on Colour’ yn yr Hen Neuadd yn y Brifysgol, gyda’r tocynnau’n £16 yr un. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw i’r ddau ddigwyddiad yma. Am wybodaeth ac i archebu, cysylltwch â Chanolfan y Cwilt Cymreig ar (01570) 422 088 neu (01570) 480 610. Mae manylion pellach ar gael ar eu gwefan, www.welshquilts.com.

Yn yr Amgueddfa Wlân, bydd Brandon Mably, sy’n cydweithio â Kaffe, yn cynnal Gweithdy Gwau un diwrnod ar Ebrill 2, gyda’r thema, ‘Persian Poppy Design’. Mae’r cwrs yn ysbrydoli gweuwyr i hogi eu hymwybyddiaeth o liw ac yn rhoi’r hyder iddyn nhw ddefnyddio eu patrymau lliw eu hunain mewn unrhyw gynlluniau yn y dyfodol. Rhaid archebu lle ar y cwrs o flaen llaw ar (029) 2057 3070, gyda phris y tocynnau yn £40. Mae manylion pellach ar wefan yr Amgueddfa www.amgueddfacymru.ac.uk/gwlan.

Mae’n fraint i’r ddau leoliad groesawu Kaffe Fassett a’i waith i Ddyffryn Teifi a gobeithio y gwnaiff pobol yr ardal a thu hwnt fachu ar y cyfle unigryw i weld ei waith yn cael ei arddangos yma.

DIWEDD