Datganiadau i'r Wasg

Bwrw Gwreiddiau: Sutherland a'r Dirwedd Ramantaidd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc

Cafodd y lleoliadau y gweithiodd yr artist Graham Sutherland (1903-1980) ynddynt ddylanwad mawr arno ac yn ystod y 1930au datblygodd weledigaeth bersonol iawn o dirwedd Sir Benfro. Meddai, ‘I felt as much a part of the earth as my features were part of me’. Yn ogystal â gwaith ar fenthyg o gasgliadau Amgueddfa Cymru, bydd arddangosfa newydd Bwrw Gwreiddiau: Sutherland a’r Dirwedd Ramantaidd (16 Mawrth-8 Gorffennaf 2013) yn Oriel y Parc hefyd yn cynnwys benthyciad o waith pwysig gan Sutherland o gasgliadau’r Tate, sef Tirwedd Ddu. Paentiwyd Tirwedd Ddu rhwng 1939 a 1940, a dyma un o’r enghreifftiau orau o waith cynnar Sutherland yn Sir Benfro.

 

Fel rhan o’r arddull Neo-Ramantaidd a ddatblygodd yng nghelf dirwedd Prydain yn y cyfnod cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, datblygodd gwaith Sutherland o weledigaeth fugeiliol artistiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg megis William Blake a Samuel Palmer. Cyfunwyd hyn â ffurfiau blaengar celf fodern Ewropeaidd megis yr Haniaethol a Swrrealaeth, yn ogystal â’r pryder am y rhyfel oedd ar drothwy’r drws.

Roedd y paentiadau llachar a rhyfedd hyn o lefydd megis Clegyr Boia, Porthclais a Sandy Haven yn rhan bwysig o’r duedd gynyddol yng nghelf Brydeinig hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, sef yr hyn a elwir erbyn hyn yn Neo-Ramantiaeth.

Wedi’i ysbrydoli gan rywbeth emosiynol a symbolaidd, roedd yr ymwybyddiaeth o le a hanes a deimlai Sutherland yn ei alluogi i fynegi yn ei waith yr hyn a olygai i fod yn rhan o’r dirwedd. Wrth i fygythiad yr Ail Ryfel Byd droi’n realiti, mabwysiadwyd y dull hwn gan artistiaid eraill ledled Prydain, a chafodd nifer ohonynt eu penodi’n Artistiaid Swyddogol y Rhyfel.

Daeth ysbrydoliaeth artistiaid Neo-Ramantaidd o waith gweledyddion y bedwaredd ganrif ar bymtheg megis Samuel Palmer a William Blake a oedd hefyd wedi byw trwy gyfnodau cythryblus. Fodd bynnag, yn hytrach na bod yn ynysig ac edrych tua’r gorffennol, cyfunodd Sutherland a’i gyfoedion yr agwedd fugeiliol hon ag agweddau ar foderniaeth Ewropeaidd megis yr Haniaethol a Swrrealaeth er mwyn ceisio cyfleu 'ysbryd' tirwedd Prydain ar adeg o newid mawr.

I’w gweld yn oriel gefn Oriel y Parc ar y cyd â Bwrw Gwreiddiau, bydd ffilm Anthony Shapland o 2007, A Setting. Y dangosiad hwn yn Oriel y Parc fydd y tro cyntaf i Amgueddfa Cymru arddangos y gwaith ers ei brynu. Mae A Setting yn digwydd yn un o amgylcheddau mwy gwledig Shapland, ac mae’n defnyddio’r symud graddol o liw dydd i liw nos i wyrdroi disgwyliadau’r gwyliwr o’r dirwedd ‘ramantaidd’ gan greu drama bwerus a chynnil am farwoldeb a gweddillion y dydd.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw perchnogion a rheolwyr Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Mae’r atyniad, a agorodd yn 2008, yn oriel o safon fyd-eang sydd am ddim ac sy’n arddangos dehongliadau artistiaid o dirwedd o gasgliadau helaeth Amgueddfa Cymru.

Mae gan Oriel y Parc Ganolfan Ymwelwyr, Stiwdio Artist Preswyl ac Ystafell Ddarganfod lle cynhelir gweithgareddau celf a natur addas i deuluoedd; T?r sy’n gartref i arddangosfeydd celfyddydol lleol a dosbarthiadau cymuned; a chaffi.

Am ymholiadau ynghylch casgliad Oriel y Parc neu Amgueddfa Cymru, e-bostiwch lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3175.