Datganiadau i'r Wasg

Gŵyl Llên Plant yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cynhelir Gŵyl Llên Plant gyntaf Caerdydd ym mis Mawrth, fydd yn ddathliad gwych o lyfrau plant. Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn croesawu awduron a darlunwyr enwog gan gynnwys Martin Brown, sy’n enwog am gyfres Horrible Histories, ac awduron Doctor Who a How to Train your Dragon – bydd rhywbeth at ddant pawb. Cynhelir y digwyddiadau yn Theatr Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Mawrth. I brynu’ch tocynnau, ffoniwch (029) 2023 0130. Cefnogir yr ŵyl gan Legal & General.

Yn 2013 bydd 20 mlynedd wedi pasio ers cyhoeddi'r gyfres eithriadol o boblogaidd, Horrible Histories®, a pha ffordd well o ddathlu na gyda darlunydd gwych y gyfres, Martin Brown. Dewch i ymuno â Martin ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth am 10am a chlywed sut mae’n llunio darnau drwg hanes – yn y ffordd hyll! O lyfrau The Groovy Greeks i The Gorgeous Georgians, mae'r cyfan yma yn y digwyddiad hanfodol hwn. Cefnogir gan Scholastic Children’s Books.Saesneg. Oed 7+. Tocynnau £3.50.

Ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth am 2pm, dewch i gwrdd â’r storïwyr penigamp Paul Stewart a Chris Riddell, awduron nofel boblogaidd The Edge Chronicles, i glywed am yr antur ryfeddol newydd, Wyrmeweald. Gan dynnu lluniau’n fyw a rhoi cipolwg ar sut maent yn creu eu cymeriadau rhyfeddol, bydd yn si?r o’ch difyrru.Cefnogir gan Random House Children’s Publishers. Saesneg. Oed 11+. Tocynnau £3.50.

Môr-forwyn sy’n canu, cwningen sy’n odli a buwch fach gota glyfar – bydd y darlunydd Lydia Monks yn dod â’r cymeriadau hyn a mwy yn fyw yn y digwyddiad hwn i’r teulu cyfan ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth am 4pm. Mae Lydia wedi gweithio gyda Julia Donaldson, yr Awdur Llawryfog i Blant, ar nifer o lyfrau lluniau poblogaidd gan gynnwys What the Ladybird Heard, The Princess and the Wizard a’r diweddaraf, The Singing Mermaid. Bydd Lydia yn darllen ac yn tynnu lluniau o’r rhain a ffefrynnau eraill. Cefnogir gan Lyfrau Plant Macmillan. Saesneg. Oed 5+. Tocynnau £3.50.

O ddistrywio’r Daleks i fanylion teithio drwy amser, bydd yr awdur gwyddonias Mark Brake a’r artist rap ‘gwahanol’ Jon Chase yn trafod gwyddonias Doctor Who ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth am 5pm. Dyma wers wyddoniaeth heb ei thebyg! Saesneg. Oed 7+. Tocynnau £3.50.

Ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth am 5pm bydd Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru, Catherine Fisher, yn siarad am ei chyfres ffantasi newydd, The Obsidian Mirror. Mae’n cyfuno gwyddonias â llên gwerin ac yn cynnwys blaidd iâ, merch anweledig, llwyth sinistr y Shee a dirgelion dybryd Llundain Oes Fictoria. A all Oberon Venn newid ei orffennol? A fydd grym y drych yn chwalu’r dyfodol? Ac a ddylen ni amharu ar amser ei hun? Bydd Catherine yn trafod y nofel a heriau ysgrifennu’r math hwn o lyfr.Saesneg. Oed 9+. Tocynnau £3.50.

Ar ddydd Sul 24 Mawrth, bydd cyflwynwyr Stwnsh yn cymryd hoe o berfformio o flaen y camerâu ac yn stwnshio Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru. Byddant yn cyflwyno amrywiaeth o farddoniaeth, geiriau a gemau gwyllt i greu stwnsh o sioe! Cefnogir gan S4/C Calon Cenedl. Oed 5+. Tocynnau £2.50.

Ymunwch â’r awdur a’r darlunydd enwog Cressida Cowell ar ddydd Sul 24 Mawrth am 2pm wrth iddi siarad am ei llyfrau doniol a phoblogaidd How to Train Your Dragon. Gwyliwch Cressida yn dod â’i llyfrau’n fyw gyda chyflwyniad egnïol gan egluro’r hyn sy'n ei hysbrydoli i greu dreigiau newydd a brawychus, a sut mae’n datblygu ei chymeriadau a’i phlotiau. Os ydych chi'n hoffi digwyddiadau llawn antur, straeon a jôcs, dewch yn llu! Cefnogir gan Hodder Children's Books. Saesneg. Oed 7+. Tocynnau £3.50.

Yn galw ar holl selogion Beast Quest! Ar ddydd Sul 24 Mawrth am 4pm, dewch i lansiad cyfres newydd Adam Blade – Sea Quest – a chymryd rhan ym Mhencampwriaeth Beast Quest! Yn y dyfnderoedd mae math gwahanol o fwystfil. A all yr arwr Max ddefnyddio’i ddewrder, ei gyfrwyster a’i sgiliau gyda dyfeisiau i’w achub? A fydd yn dysgu pwy sy’n rheoli’r Robobeasts dychrynllyd? Moriwch hi i fyd Sea Quest am antur fythgofiadwy! Nwyddau Beast Quest a Sea Quest arbennig i bob cystadleuydd. Cefnogir gan Orchard Books. Saesneg. Oed 7+. Tocynnau £2.50.

Meddai Mari Gordon, Pennaeth Cyhoeddiadau Amgueddfa Cymru, “Mae Amgueddfa Cymru yn falch iawn o gefnogi G?yl Llen Plant gyntaf Caerdydd ac mae’n bleser gennym groesawu’r digwyddiadau dros y penwythnos. Mae’r tocynnau’n fargen ac yn gyfle gwych i weld a chlywed awduron llyfrau plant enwog. Dyma gyfle heb ei ail i blant o bob oed, ac oedolion hefyd, weld geiriau’r llyfrau’n dod yn fyw, a thynnu lluniau, ysgrifennu a chyfarfod â’r cymeriadau – bydd rhywbeth at ddant pawb!”

Mae mynediad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.