Datganiadau i'r Wasg

Julian Stair - Arddangosfa cerameg gyfoes newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Julian Stair yn un o geramegwyr mwyaf y byd, ac mae’n dod â’i arddangosfa unigol fawr gyntaf mewn amgueddfa yma i Gaerdydd. Archwiliad yw Julian Stair Quietus: Y Llestr, Marwolaeth a'r Corff Dynol o ddefodau marw a chladdu a sut y gall y rhain gael eu dehongli fel dathliad o fywyd, a bydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 6 Ebrill a 7 Gorffennaf 2013.


Mae’r arddangosfa sy’n derbyn cefnogaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ac a gomisiynwyd gan mima, Athrofa Celf Fodern Middlesborough, yn cynnwys casgliad o lestri claddu prydferth Stair ac yn ymchwilio i’r modd y caiff y corff dynol ei gadw wedi marwolaeth. Penllanw deng mlynedd o waith yw’r casgliad o jariau claddu ac eirch carreg maint llawn.

Crochenydd ac awdur yw Julian Stair sy’n arbenigo mewn gosodwaith penodol i leoliad. O waith cartrefol i waith coffaol anferth, mae’n nodweddiadol am ei ddefnydd o baled cynnil gwyn, coch a llwyd a chrochenwaith caled, porslen a briciau clai. Gwelir ei waith mewn nifer o gasgliadau nodedig ledled y byd, gan gynnwys y British Council, V&A, y Gymdeithas Gelf Gyfoes a mima.

Agorodd Quietus yn mima, Middlesbrough y llynedd a bydd yn teithio hefyd i Eglwys Gadeiriol Caer-wynt. Noddwyd yr arddangosfa hon gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, a chynhyrchwyd y gwaith yn y DU a Denmarc.

Meddai Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymhwysol Amgueddfa Cymru:

“Mae Quietus yn arddangosfa sydd ar y naill law’n fawreddog ac yn torri tir newydd, ac ar y llall yn deimladwy a phersonol iawn. Mae perthynas oesol rhwng crochenwaith a defodau claddu dynol, ac yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rydyn ni wedi defnyddio’r casgliad archaeoleg i greu cyswllt rhwng gwaith Julian Stair a’r crochenwaith a ddefnyddiwyd gan bobl y Gymru hynafol.”

Cynhelir tair sgwrs amser cinio i ategu’r arddangosfa (1.05pm)

Dydd Gwener 17 Mai, 1.05pm
Cyd-destun Quietus - Hanes Cryno Cerameg Angladdol, gydag Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymhwysol.

Dydd Gwener 24 Mai, 1,05pm
Julian Stair: yr artist yn siarad am ei arddangosfa, Quietus.

Dydd Gwener 7 Mehefin, 1.05pm
Mewn Gofodau Eraill: y Sensitifrwydd rhwng Cerameg a Safleoedd, gyda James Beighton, Uwch Guradur, Athrofa Celf Fodern Middlesbrough a churadur arddangosfa Quietus.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3175 neu drwy e-bostio lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i’r Golygydd:

Bydd Julian Stair hefyd yn arddangos yn York St Mary’s rhwng10 Mai a 7 Gorffennaf, 2013 www.yorkstmarys.org.uk
Mae’r crochenydd a’r awdur Julian Stair yn cynhyrchu gwaith amrywiol, o’r cartrefol i’r coffaol anferth gan ddefnyddio paled cynnil o lwyd, coch a gwyn mewn crochenwaith caled, porslen a briciau clai.
Bydd Stair yn cyflwyno gosodwaith mawr newydd wedi’i ysbrydoli gan gasgliadau ceramig Caerefrog ac yn ymateb i naws y lleoliad yn York St Mary's.