Datganiadau i'r Wasg

1.75 miliwn o ymwelwyr - record i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru

Mae niferoedd ymwelwyr Amgueddfa Cymru yn parhau i gynyddu, gyda record newydd o 1.75 miliwn yn cael ei gosod yn 2012-13 (9% uwchlaw’r targed).

Dros y 12 mis diwethaf, mae cyfanswm yr ymwelwyr a groesawyd i saith safle Amgueddfa Cymru 50,000 yn uwch nag yn 2011-12, gyda phedair amgueddfa yn gweld eu niferoedd uchaf erioed (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion).

Dyma Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - sydd wedi gwella ei harlwy drwy agor Amgueddfa Gelf Genedlaethol newydd, adnewyddu’r orielau hanes natur a pharhau â’i rhaglen gref, newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau teuluol - yn croesawu 477,399 o ymwelwyr, sy’n record. Mae nifer yr ymwelwyr i’r Amgueddfa yng nghanol y ddinas wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cynnydd o 29% ers 2010-11.

Croesawodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, sy’n cynnig rhaglen gref o ddigwyddiadau, 271,452 o ymwelwyr – 6% yn fwy na’r llynedd. Mae gan Amgueddfa Wlân Cymru rôl arbennig yng nghanol cymuned Drefach Felindre, ac fe groesawodd 34,309 o ymwelwyr, nifer rhyfeddol sy’n 3,931 yn fwy na’r llynedd. Gwelodd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ei ffigurau ymwelwyr gorau erioed hefyd, gan groesawu 71,992 i’r Amgueddfa yng Nghaerllion.

Daeth llwyddiant mwyaf Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ym mis Gorffennaf 2012 pan ddyfarnwyd iddi'r grant mwyaf erioed yng Nghymru gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ailddatblygu’r safle, cyn cael ei henwi ym mis Medi yn hoff amgueddfa darllenwyr y cylchgrawn defnyddwyr Which?. Dathlodd Amgueddfa Lechi Cymru ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2012-13 ac ymwelodd taith y fflam Olympaidd â Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.

“Yn 2012, dyma ni’n dathlu croesawu 1.69 miliwn o ymweliadau, y cyfanswm uchaf ers dileu tâl mynediad yn Ebrill 2001,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru.

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i dorri record arall eleni, sy’n brawf o safon y gwasanaeth a gynigir gan yr Amgueddfeydd a gwir werth polisi mynediad am ddim Llywodraeth Cymru.

“Mae torri recordiau fel hyn yn ein hannog i barhau i ddarparu gwasanaeth i bobl Cymru. Rhaid i ni barhau i fod yn berthnasol i bawb, nid drwy apelio at ein cynulleidfaoedd presennol yn unig, ond drwy ddenu ymwelwyr newydd i ymgysylltu â’r casgliadau cenedlaethol – wedi’r cyfan, eiddo pobl Cymru ydyn nhw!”

Ychwanegodd John Griffiths, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon:

“Llongyfarchiadau i Amgueddfa Cymru ar y ffigyrau ymwelwyr gwych yma. Mae gan ein hamgueddfeydd rôl bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo diwylliant a hanes Cymru yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Cyflwynwyd mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru i alluogi pawb i fwynhau treftadaeth gelfyddydol, gwyddonol a hanes cymdeithasol a diwydiannol cyfoethog y wlad.

“Rwy’n falch iawn i weld bod y polisi yn parhau i ddenu ymwelwyr i Amgueddfa Cymru ac yn ei thro, i’n hanes diwylliannol cyfoethog.”

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych ymlaen at 12 mis cyffrous arall, yn enwedig gyda’r gwaith ailddatblygu ar fin dechrau yn Sain Ffagan i’w throi yn amgueddfa hanes genedlaethol i Gymru, menter sydd wedi denu bron i £12 miliwn o nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd cyntedd ac orielau newydd yn cael eu gosod yn y prif adeilad a phlasty o Oes y Tywysogion yn cael ei ychwanegu at y casgliad o ddeugain a mwy o adeiladau hanesyddol.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.