Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn helpu gwyddonwyr ysgol i blannu bylbiau newid hinsawdd

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn helpu i daclo tlodi plant yng Nghymru drwy ddarparu addysg gwyddoniaeth drwy gyfrwng project dysgu o bell arloesol mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru ac ar draws y DU.

 

Mae chwe mil a hanner o wyddonwyr ysgol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi bod yn tyfu blodau yn yr ysgol dros y misoedd diwethaf ar gyfer project Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, project allestyn arloesol sy’n rhoi cyfle i ysgolion ymchwilio i newid hinsawdd y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Er 2005, mae’r project, a ariennir yn rhannol gan Ymddiriedolaeth Edina, wedi darparu bylbiau, offer a chefnogaeth barhaus i ddisgyblion er mwyn cadw cofnodion tywydd a blodau fel rhan o broject tymor hir i edrych ar effaith tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.

Mae disgyblion wedi bod yn tyfu crocysau a ‘chennin Pedr Dinbych-y-Pysgod’ ac yn anfon adroddiadau am amodau tywydd a dyddiadau blodeuo i Amgueddfa Cymru ers mis Hydref fel rhan o broject ‘Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion’. Dyma’r disgyblion yn plannu’r bylbiau ym mis Hydref gan ddilyn dull syml i sicrhau prawf teg. Cyn plannu, dyma nhw hefyd yn dysgu sut i ofalu am eu bylbiau cyn cwblhau tystysgrifau mabwysiadu yn addo gofalu adanynt.

Mae’r project wedi mynd o nerth i nerth gyda 6,000 o ddisgyblion yn cymryd rhan bob blwyddyn, rhai o ysgolion canol dinas, rhai o ysgolion gwledig anghysbell. Caiff y data ei gasglu drwy wefan y project lle gall y disgyblion gymharu data a graffiau i wella eu sgiliau gwyddoniaeth a rhifyddeg.

Meddai Catalena Angele, Cydlynydd Bylbiau’r Gwanwyn Amgueddfa Cymru:

“Mae’r project yn esiampl o raglen allestyn wych yr amgueddfa gyda nifer o’r ysgolion mewn ardaloedd gwledig neu anghysbell lle mae mynediad i waith amgueddfa yn anodd neu’n amhosibl.

“Mae Amgueddfa Cymru wedi gwneud ymrwymiad i daclo tlodi plant ac mae’r project hwn yn cefnogi strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru drwy fynd ati i gysylltu ag ysgolion o ardaloedd â thlodi uchel. Mae’r project yn cyffwrdd ar Wyddoniaeth, Daearyddiaeth, Mathemateg, TGCh, Addysg Datblygiad Cynaliadwy (ESD) a Dinasyddiaeth Fyd-eang (GC) yng Ngyfnod Allweddol 2.

“Bellach rydyn ni wedi casglu wyth mlynedd o ddata tywydd a blodeuo ac rydyn ni’n dechrau edrych ar y data i weld os allwn ni ddod i gasgliadau gwyddonol ac ystadegol.

“Mae’r plant yn tyfu rhywogaeth cennin Pedr o’r enw Narcissus pseudonarcissus isrywogaeth obvallaris, sy’n cael ei hadnabod weithiau fel Cennin Pedr Dinbych-y-pysgod. Darperir bylbiau’r project gan gwmni Springfields Fresh Produce ym Maenorb?r ger Dinbych-y-pysgod – yr unig gyflenwr N.p. obvallaris masnachol yn ei ardal frodorol.”

Am ragor o wybodaeth ewch i’r Blog Bylbiau: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1714/