Datganiadau i'r Wasg

Strwythur newydd Amgueddfa Cymru

Yn dilyn ymgynghoriad 90 diwrnod â staff ac undebau llafur, heddiw (13 Mai) cyhoeddodd Amgueddfa Cymru strwythur newydd ar gyfer y sefydliad.

Ym mis Ionawr 2013, cyflwynodd Amgueddfa Cymru strwythur newydd arfaethedig i’w staff a’r undebau llafur a fyddai’n helpu i sicrhau’r arbedion o £2.5 miliwn sydd eu hangen dros y tair blynedd nesaf oherwydd lleihad yn y gyllideb.

 

Ymrwymodd Amgueddfa Cymru hefyd i adolygu ffyrdd gwell o ymchwilio, dehongli a chyfleu’r casgliad cenedlaethol i bobl Cymru ac ymgysylltu â’i hymwelwyr gan gadw’i harbenigedd o safon ryngwladol ar draws pob disgyblaeth.

 

Ers hynny, cynhaliwyd trafodaethau cynhyrchiol rhwng y staff, yr undebau llafur a’r Uwch Dîm Rheoli. Daeth nifer o gynigion amgen i law, ac mae llawer ohonynt wedi llywio ac atgyfnerthu’r strwythur terfynol.

 

O dan y strwythur newydd, caiff 23 o swyddi eu dileu – 12 yn llai na’r cynnig gwreiddiol. Effeithir ar 134 o swyddi mewn rhyw fodd, o gymharu â’r ffigur o 160 a gyhoeddwyd ym mis Ionawr. Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio osgoi diswyddo gorfodol trwy gynnig adleoli staff (dod o hyd i swydd wag arall iddynt o fewn Amgueddfa Cymru) a chynlluniau megis diswyddo gwirfoddol ac ymddeoliad cynnar.

 

Bydd y newidiadau hyn, fydd yn cael eu rhoi ar waith o fis Mehefin ymlaen, yn golygu y bydd y sefydliad yn cynnal ei wasanaeth i’r cyhoedd ym mhob un o’i amgueddfeydd. Ni fydd y strwythur newydd yn effeithio ar weithrediadau beunyddiol y saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru. Bydd Amgueddfa Cymru yn parhau i gynnig arlwy o ansawdd i ymwelwyr ym mhob un o’i hamgueddfeydd y denwyd dros 1.75 miliwn o bobl i ymweld â nhw'r llynedd.

 

Bydd Amgueddfa Cymru yn parhau i gynnal tîm curadurol a chadwraeth cadarn o 120 o aelodau o staff, gan gynnal lefel uchel yr arbenigedd rhyngwladol ar draws pob adran.

 

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn parhau’n ymroddedig i roi projectau allweddol ar waith megis ailddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Gwyddorau Naturiol, ac adeiladu ar ein gwaith partneriaeth trwy Gymru a thu hwnt.