Datganiadau i'r Wasg

Cerflun gan Degas yn cyfoethogi casgliad celf y genedl wrth i orielau ddenu mwy nag erioed o ymwelwyr

Mae cerflun efydd hardd o’r 19eg ganrif gan yr artist argraffiadol o Ffrainc, Edgar Degas, wedi cael cartref parhaol ochr yn ochr â gweithiau celf enwog eraill yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Disgwylir i’r cerflun ddenu torfeydd o bob cwr o’r wlad. Fe’i derbyniwyd yn gyfnewid am dreth etifeddiant o ystâd yr artist enwog Lucian Freud, a fu farw yn 2011, a’i roi i Amgueddfa Cymru yn rhodd barhaol.

 

Ceffyl yn carlamu a welir yn y cerflun, a bydd yn ychwanegiad hynod werthfawr i gasgliad celf y genedl, a helpodd i ddenu 1.75 miliwn o ymwelwyr i Amgueddfa Cymru y llynedd – y nifer uchaf erioed.

 

Wrth siarad cyn i’r cerflun gael ei ddadorchuddio, dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths:

 

“Mae ein casgliadau celf ni o safon fyd-eang, ac yn drysor gwirioneddol i’r genedl. Mae’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn mynd o nerth i nerth.

 

“Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn ein hamgueddfeydd ac rwy’n falch dros ben ein bod wedi llwyddo yn hyn o beth.

 

“Rwy’n hyderus y bydd y cerflun hardd hwn yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr ac yn rhoi rheswm arall eto i bobl ddod i weld yr orielau celf, sydd gyda’r gorau yn y byd, yma yng Nghaerdydd.”

 

Gyda’i gilydd, fe wnaeth saith safle Amgueddfa Cymru lwyddo i ddenu dros 50,000 yn fwy o ymwelwyr yn 2012-13 o gymharu â 2011-12. Ers i’r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol Caerdydd ddatblygu ei chasgliad celf gydag Amgueddfa Gelf Genedlaethol newydd, mae wedi denu’r nifer uchaf erioed o ymwelwyr - 477,399. Mae’r niferoedd wedi cynyddu 29% ers 2010-11.

 

Cyfnod o fuddsoddi cyson a rhaglen gyffrous o arddangosfeydd a digwyddiadau sydd i’w cyfrif am y cynnydd hwn yn nifer yr ymwelwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu dros £3 miliwn at y prosiect Amgueddfa Gelf genedlaethol gwerth £6 miliwn ac mae pobl o bob oedran wedi heidio i’r amgueddfa.

 

Ystyrir y celfwaith hwn gan Degas yn un o’r mwyaf, a’r gorau o bosibl, o’r pymtheg ffigur o geffylau a ganfuwyd yn stiwdio Degas ar ôl ei farwolaeth. Ymddengys mai technegau ffotograffiaeth gynnar y cyfnod oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn, ac mae’n dangos cariad yr artist tuag at geffylau a rasys. Mae’r cerflun bellach wedi’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a bydd yn cyfoethogi casgliad celf ein gwlad.

 

Yn ei ewyllys, nododd Lucian Freud ei ddymuniad i’r celfweithiau hyn gael eu rhoi i’r genedl yn gyfnewid am dreth etifeddiant. Cydnabyddir mai Freud oedd artist mwyaf Prydain cyn iddo farw yn 88 oed. Daeth o’r Almaen gyda’i deulu i fyw ym Mhrydain i ffoi rhag y Natsïaid , cyn dod yn ddinesydd Prydeinig yn 1939.

 

Roedd gan Lucian Freud ei hunan gysylltiadau cryf â Chymru. Astudiodd ei gelfyddyd ar yr un pryd â’r artist o Gymru, Cedric Morris, cyn gweithio am gyfnod yng Nghymru. Mae ei waith celf i’w weld yn yr Amgueddfa Genedlaethol hefyd.

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Bydd y cerflun newydd hwn yn ychwanegiad arbennig iawn i’n casgliad ni – a gall pawb yng Nghymru ymfalchïo ynddo. Mae gennym waith celf gwych gan artistiaid rhagorol o Gymru yn ogystal ag enwau mawr rhyngwladol. Bydd y cerflun efydd hwn yn ategu’r ddau gerflun arall gwrthgyferbyniol gan Degas sydd yng nghasgliad celf enwog y chwiorydd Davies.

 

“Wrth agor yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol, ein nod oedd arddangos amrywiaeth dda o gelf a fyddai’n denu cynulleidfa eang. Mae ein ffigurau ymwelwyr dros y 24 mis diwethaf yn brawf ein bod yn llwyddo. Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn parhau i fwynhau, dysgu a chael eu hysbrydoli gan weithiau megis cerflun Degas.”

 

Mae’r amgueddfa’n arddangos enghreifftiau o gerfluniau Ffrengig o’r cyfnod rhwng 1870 a 1910, gan gynnwys gwaith gan Rodin a Jules Dalou. Bydd cerflun Degas yn cydweddu’n berffaith â rhai o’r paentiadau a cherfluniau Ffrengig sydd wedi dod yn eiddo i’r Amgueddfa ers yr 1880au.

 

Bydd cerflun Degas yn cael ei arddangos yn barhaol o 5 Mehefin ymlaen. Mae cymorth Llywodraeth Cymru’n golygu bod pawb yn cael mynediad am ddim i’r Amgueddfa Genedlaethol.